2022 Rhif 939 (Cy. 203)
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(e) ac 48(1)(c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19902, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a rhychwant1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Medi 2022.

(3)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn rhychwantu Cymru a Lloegr.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20062.

Yn rheoliad 17 (tramgwyddau a chosbau) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20064, ym mharagraff (9)(b), yn lle “diwedd 30 Medi 2022” rhodder “1 Ionawr 2024”.
Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 2 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 20073.

Yn rheoliad 12 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 20075, ym mharagraff (a) yn lle “chyn diwedd 30 Medi 2022” rhodder “chyn 1 Ionawr 2024”.
Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 3 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 20094.

(1)

Mae Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 20096 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 23 (darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE)—

(a)

ym mharagraff (1)(a), yn lle “diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn digwydd” rhodder “1 Ionawr 2024”; a

(b)

ym mharagraff (2)(a), yn lle “diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn digwydd” rhodder “1 Ionawr 2024”.

Annotations:
Commencement Information

I4Rhl. 4 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 20115.

(1)

Mae Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 20117 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 4 (tramgwyddau o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir), yn lle paragraff (4) rhodder—

“(4)

Nid yw paragraffau (1)(a)(vi) nac (1)(b)(ii) yn gymwys—

(a)

os yw’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn 1 Ionawr 2024; a

(b)

pe na bai’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig wedi ffurfio toriad—

(i)

yn achos paragraff (1)(a)(vi), o Erthygl 15 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; neu

(ii)

yn achos paragraff (1)(b)(ii), o Erthygl 2(2)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1825/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”.

Annotations:
Commencement Information

I5Rhl. 5 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 20136.

Yn rheoliad 22 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 20138, ym mharagraff (1)(a) yn lle “ar neu cyn 30 Medi 2022” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Annotations:
Commencement Information

I6Rhl. 6 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 20147.

Yn rheoliad 15 (darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 20149, ym mharagraff (1)(a), yn lle “ar 30 Medi 2022 neu cyn hynny” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Annotations:
Commencement Information

I7Rhl. 7 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Mêl (Cymru) 20158.

Yn rheoliad 23 (darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Mêl (Cymru) 201510, ym mharagraff (2)(a) yn lle “ar neu cyn 30 Medi 2022” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Annotations:
Commencement Information

I8Rhl. 8 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 20159.

Yn rheoliad 7 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 201511, ym mharagraff (2)(a) yn lle “ar 30 Medi 2022 neu cyn hynny” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Annotations:
Commencement Information

I9Rhl. 9 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 201610.

Yn rheoliad 10 (darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE) o Reoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 201612, ym mharagraff (1)(a), yn lle “ar neu cyn 30 Medi 2022” rhodder “cyn 1 Ionawr 2024”.
Annotations:
Commencement Information

I10Rhl. 10 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/200011.

Yn Erthygl 2 (labelu pan na fo gwybodaeth ar gael) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion13, ym mharagraffau 3 a 4, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Annotations:
Commencement Information

I11Rhl. 11 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/200812.

Yn Erthygl 30 (wyau a fewnforir) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau14, ym mharagraff 3, yn lle’r geiriau o “for a period” hyd at “falls” rhodder “for the period beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Annotations:
Commencement Information

I12Rhl. 12 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 543/201113.

(1)

Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn cysylltiad â’r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi eu prosesu15 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn Erthygl 7 (cymysgeddau), ym mharagraff 4(b), yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.

(3)

Yn Atodiad 1 (marchnata)—

(a)

yn Rhan A (safon marchnata cyffredinol), ym mhwynt 4(A) (adnabod), yn yr ail fewnoliad yn yr ail baragraff, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”; a

(b)

yn Rhan B (safonau marchnata penodol), ym mhob un o Rannau 1 i 10, ym mhwynt 6(A) (adnabod), yn yr ail fewnoliad yn yr ail baragraff, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.

Annotations:
Commencement Information

I13Rhl. 13 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 29/201214.

Yn Erthygl 2 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 29/2012 ar safonau marchnata ar gyfer olew olewydd (codeiddio)16, ym mhwynt (b) o’r trydydd paragraff, yn lle’r geiriau o “of 21” hyd at “falls” rhodder “beginning with 30 September 2022 and ending with 31 December 2023”.
Annotations:
Commencement Information

I14Rhl. 14 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/3315.

Yn Erthygl 46 (dynodiad y potelwr, y cynhyrchydd, y mewnforiwr a’r gwerthwr) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/33 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ceisiadau am warchod dynodiadau tarddiad, dynodiadau daearyddol a thermau traddodiadol yn y sector gwin, y weithdrefn ar gyfer gwrthwynebu, cyfyngiadau ar ddefnydd, diwygiadau i fanylebau cynnyrch, canslo gwarchodaeth, a labelu a chyflwyniad17, ym mharagraff 1, ym mhwyntiau (a) a (d), yn lle “30 September 2022” rhodder “31 December 2023”.
Annotations:
Commencement Information

I15Rhl. 15 mewn grym ar 30.9.2022, gweler rhl. 1(2)

Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio offerynnau statudol a chyfraith yr UE a ddargedwir mewn perthynas â labelu bwyd yng Nghymru. Mae’r diwygiadau yn estyn trefniadau trosiannol blaenorol, a oedd i fod i ddod i ben ar ddiwedd mis Medi 2022, fel eu bod yn parhau i fod yn gymwys hyd at ddiwedd 2023.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.