NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio offerynnau statudol a chyfraith yr UE a ddargedwir mewn perthynas â labelu bwyd yng Nghymru. Mae’r diwygiadau yn estyn trefniadau trosiannol blaenorol, a oedd i fod i ddod i ben ar ddiwedd mis Medi 2022, fel eu bod yn parhau i fod yn gymwys hyd at ddiwedd 2023.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.