NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 2 i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac sy’n ymwneud â fframwaith statudol Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (er enghraifft, mae cynllun addysg, iechyd a gofal yn cael ei lunio neu ei gynnal mewn perthynas â’r person).