Galluedd plantLL+C

21.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022.

(2Nid oes dim yn yr erthygl hon sy’n gymwys i berson pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.

(3Nid yw dyletswydd ym mharagraff (4) na’r pŵer ym mharagraff (5) yn gymwys os yw’r person priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.

(4Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw—

(a)y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthyglau 9(2) [F1, 9A(2)] a 10(2);

(b)y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 11;

(c)y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 35 o ddiwrnodau ysgol yn erthygl 12(1).

(5Y pŵer y cyfeirir ato ym mharagraff (3) yw’r pŵer i roi hysbysiad ADY i blentyn yn erthygl 13.

(6Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.

(7Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.