Ystyr anghenion addysgol arbennig a nodwyd2.

(1)

At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “anghenion addysgol arbennig a nodwyd”—

(a)

os yw awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am P; a

(b)

os oes gan P anhawster dysgu a nodwyd—

(i)

gan berchennog yr ysgol y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi, neu

(ii)

gan awdurdod lleol,

sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.

(2)

Ond nid yw’n cynnwys plentyn—

(a)

sy’n blentyn a addysgir ac eithrio yn yr ysgol;

(b)

sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru;

(c)

sy’n blentyn sy’n derbyn gofal;

(d)

y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996;

(e)

y mae awdurdod lleol yn cynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef;

(f)

y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;

(g)

y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;

(h)

y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—

(i)

nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu

(iii)

y dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;

(i)

y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;

(j)

y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—

(i)

nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;

(ii)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(iii)

y dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)

gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn, neu

(bb)

ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(k)

y mae rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cael ei chwblhau;

(l)

y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;

(m)

y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);

(n)

y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36 o Ddeddf 2014, beidio â sicrhau asesiad o anghenion AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)

nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)

bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)

bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw, y dyfarnwyd yn derfynol arni ac y gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;

(o)

y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—

(i)

nad yw’r asesiad wedi cychwyn,

(ii)

bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu

(iii)

nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;

(p)

y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—

(i)

nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(ii)

bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;

(iii)

bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;

(iv)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;

(v)

bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw, y dyfarnwyd yn derfynol arni ac y gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—

(aa)

gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn, neu

(bb)

ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;

(q)

y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 ei bod yn angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ond nad yw’r cynllun hwnnw wedi ei lunio.