Enwi a dehongli1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 11) 2022.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty”—

  1. (i)
    yn adran 312(2)2 o Ddeddf 1996 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yn Lloegr,
  2. (ii)

    yn adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yn Lloegr;

mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;

mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 5793 o Ddeddf 1996;
mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC plan” yn adran 37(2)4 o Ddeddf 2014;

mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision”—

  1. (i)
    yn adran 312(4)5 o Ddeddf 1996 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
  2. (ii)

    yn adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19966;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 20147;
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 4348 o Ddeddf 1996;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 89 o Ddeddf 1996;

mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;

ystyr “plentyn a addysgir ac eithrio yn yr ysgol” (“a child educated other than at school”) yw plentyn y mae awdurdod lleol yng Nghymru wedi gwneud trefniadau i ddarparu addysg ac eithrio yn yr ysgol ar ei gyfer sydd o fewn ardal yr awdurdod ac—

(a)

sydd o oedran ysgol gorfodol, a

(b)

na all, oherwydd salwch, gwaharddiad o’r ysgol neu fel arall, gael addysg addas am gyfnod oni bai bod trefniadau o’r fath yn cael eu gwneud ar gyfer y plentyn;

mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 15 o’r Ddeddf;

ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 201210;
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru11;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)12 o Ddeddf 1996;

mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;

mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.

(3)

At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—

(a)

os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a

(b)

os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.

(4)

At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw’r plentyn yn ardal yr awdurdod.