Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phlant penodol sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol ar 1 Medi 2022 ond nad oes ganddynt ddatganiad anghenion addysgol arbennig (erthygl 2).
Mae erthygl 1 yn cynnwys diffiniadau, gan gynnwys y “gyfraith newydd” yn y Ddeddf a’r “hen gyfraith” yn Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996. Hyd nes y caiff plentyn ei drosglwyddo i’r gyfraith newydd, bydd yr hen gyfraith yn parhau i fod yn gymwys i’r plentyn ac ni fydd y gyfraith newydd yn cael effaith.
Mae’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad i blentyn (erthygl 9). Y modd y mae’r plentyn yn ymwneud â’r fframwaith statudol presennol ar 1 Medi 2022 sy’n pennu pa bryd y mae rhaid i’r awdurdod lleol roi’r hysbysiad. Dyddiad yr hysbysiad a roddir i blentyn penodol fydd y dyddiad y bydd y plentyn hwnnw yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd.
Caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn. Mae hysbysiad CDU yn golygu y bernir bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad ac y bwriedir llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn (erthygl 5). Mae hysbysiad Dim CDU yn golygu y bernir nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad (erthygl 6).
Caiff plentyn y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo neu riant y plentyn ofyn bod hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn cael ei roi (erthygl 10).
Pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn hysbysiad CDU, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad oni bai bod amgylchiadau penodol yn gymwys (erthygl 11).
Os nad yw’r plentyn wedi trosglwyddo i’r gyfraith newydd erbyn 31 Awst 2024, mae erthyglau 12 i 14 yn nodi ar ba ddyddiad y mae’r hen gyfraith yn peidio â chael effaith ac y mae’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn.
Mae erthygl 15 yn ymdrin â’r sefyllfa pan fo amgylchiadau’r plentyn yn newid ar ôl 1 Medi 2022.
Wrth lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, o dan amgylchiadau penodol rhaid rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth addysgol arbennig yr oedd y plentyn yn ei chael yn union cyn trosglwyddo i’r gyfraith newydd (erthygl 16).
Mae erthygl 17 yn adlewyrchu adran 84 o’r Ddeddf sy’n darparu nad yw dyletswyddau ac amodau penodol yn y Ddeddf honno mewn perthynas â phlant (e.e. i roi copi o gynllun datblygu unigol i blentyn) yn gymwys os ystyrir nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.
Mae erthygl 18 yn darparu nad yw dyletswyddau ac amodau penodol mewn perthynas â rhieni yn y Gorchymyn hwn (e.e. i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i riant) yn gymwys pan fydd y plentyn yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.