2022 Rhif 892 (Cy. 189) (C. 56)
Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 20181, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022.
2
Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 99 o’r Ddeddf;
ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;
ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19962;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 83 o Ddeddf 1996;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 15 o’r Ddeddf;
ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 20124;
mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 5765 o Ddeddf 1996;
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru6;
mae i “yn ardal” (“in the area”) yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)7 o Ddeddf 1996.
3
Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996.
4
Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—
a
y Ddeddf,
b
rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac
c
unrhyw ddarpariaeth arall o ddeddf, neu a wneir o dan ddeddf, sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—
i
darpariaeth o’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath, neu
ii
person y mae’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.
5
At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl os caiff ei thynnu’n ôl, neu—
a
os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
b
os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei gwneud.
6
At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.
7
At ddibenion y Gorchymyn hwn, o ran plentyn—
a
pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;
b
pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.
8
At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae mater yn mynd rhagddo—
a
pan fydd awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
b
pan fydd cais wedi ei wneud o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i gydymffurfio â’r cais;
c
pan fydd cais wedi ei wneud o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
i
nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei gwneud ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
ii
bod apêl wedi ei gwneud i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
iii
dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
d
pan fydd awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
e
pan fydd awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad yn dilyn asesiad ac—
i
nad yw’r cyfnod y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei gwneud ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
ii
bod apêl wedi ei gwneud i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
iii
gwnaed apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
aa
gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn; neu
bb
ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
f
pan fydd rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn;
g
pan fydd rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r datganiad wedi ei wneud;
h
pan fydd asesiad o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo.
9
At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae apêl yn mynd rhagddi—
a
pan fydd cais wedi ei wneud o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
i
bod apêl wedi ei gwneud i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
ii
dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
b
pan fydd awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad yn dilyn asesiad ac—
i
bod apêl wedi ei gwneud i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
ii
gwnaed apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
aa
gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn; neu
bb
ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn.
Cymhwyso’r Gorchymyn hwn2
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i blentyn y mae mater yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ef ar 1 Medi 2022.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 20223
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phlentyn y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo—
a
adrannau 2 i 4;
b
adrannau 6 i 14;
c
adrannau 17 i 36;
d
adran 38;
e
adrannau 40 i 44;
f
adrannau 47 i 49;
g
adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
h
adran 50(4) a (5);
i
adrannau 51 i 53;
j
adran 55;
k
adran 59;
l
adrannau 63 i 66;
m
adrannau 68 a 69;
n
adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
o
yn yr Atodlen—
i
paragraff 1;
ii
paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (xi);
iii
paragraff 4(2) i 4(6);
iv
paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi ei ddiddymu mewn perthynas â’r plentyn8;
v
paragraff 4(8) a (9);
vi
paragraff 4(10);
vii
paragraff 4(13) i 4(18);
viii
paragraff 4(19) (b);
ix
paragraff 4(20) a 4(21);
x
paragraff 4(23) i 4(29);
xi
paragraff 4(32) (a) (i) a (ii) a pharagraff 4(32) (b);
xii
paragraff 7;
xiii
paragraff 8;
xiv
paragraff 11(a);
xv
paragraff 12(a);
xvi
paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvii);
xvii
paragraff 14(2) a (3);
xviii
paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xix);
xix
paragraff 19(5) (e) (ii);
xx
paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxi);
xxi
paragraff 21(2) (a) (i) a (2) (b) (ii);
xxii
paragraff 22;
xxiii
paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiv);
xxiv
paragraff 23(4);
xxv
paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxvi);
xxvi
paragraff 24(3) a (6) (a).
Darpariaeth arbed4
Yn ddarostyngedig i erthyglau 9 a 10 ac erthyglau 12 i 15, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 19969 wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo—
a
mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, a
b
nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
Hysbysiad CDU5
Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad CDU sy’n cadarnhau—
a
bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf, a
b
y bydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer y plentyn.
Hysbysiad Dim CDU6
Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad Dim CDU sy’n cadarnhau bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf.
Effaith hysbysiad CDU7
Effaith yr hysbysiad CDU yw—
a
y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
b
bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
c
bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Effaith hysbysiad Dim CDU8
Effaith yr hysbysiad Dim CDU yw—
a
y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
b
bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
c
bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Dyletswydd i roi hysbysiad9
1
Pan fo awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn erbyn 1 Medi 2022, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 1 Medi 2022.
2
Pan fo cais yn cael ei wneud o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol ar 1 Medi 2022 wedi penderfynu pa un ai i gydymffurfio â’r cais, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 1 Medi 2022.
3
Pan fo awdurdod lleol yn cynnal asesiad o dan adran 323 neu 331 o Ddeddf 1996 ar 1 Medi 2022, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 1 Medi 2022.
4
Pan na fo’r cyfnod ar gyfer dwyn apêl o dan adran 325(2), 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 wedi dod i ben ar 1 Medi 2022, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 1 Medi 2022.
5
Pan fo apêl wedi ei gwneud i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2), 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 a bod yr apêl honno yn mynd rhagddi ar 1 Medi 2022, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r apêl honno gael ei dyfarnu’n derfynol.
6
Pan fo rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn neu nad yw’r datganiad wedi ei wneud ar 1 Medi 2022, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 1 Medi 2022.
Hawl i ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU10
1
Caiff plentyn y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo neu riant y plentyn hwnnw ofyn i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU a rhaid i’r awdurdod lleol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y cais.
2
Nid yw’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU ym mharagraff (1) yn gymwys—
a
pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, neu
b
pan fydd erthyglau 12 i 15 yn gymwys.
Amser ar gyfer rhoi cynllun datblygu unigol11
1
Pan roddir hysbysiad CDU yn unol ag erthygl 9 neu 10, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad oni bai—
a
bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys,
b
bod adran 31 o’r Ddeddf yn gymwys, neu
c
bod amgylchiadau eithriadol.
2
Os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) yn gymwys neu os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
3
Nid yw unrhyw amserlenni yn y cod sy’n ymwneud â llunio cynllun datblygu unigol yn gymwys pan fydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio yn dilyn rhoi hysbysiad CDU.
Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodol
12
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024,
b
nad yw erthygl 13 yn gymwys iddo, ac
c
nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
2
Ar 31 Awst 2024—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
13
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2024.
2
Ar y diwrnod trosglwyddo—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
3
Yn yr erthygl hon ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
14
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn pan fo apêl yn mynd rhagddi ar 30 Awst 2024 mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
2
Ar y diwrnod trosglwyddo—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
3
Yn yr erthygl hon ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—
a
oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol;
b
pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar yr apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
Newid mewn amgylchiadau15
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
sy’n symud o ardal yr awdurdod lleol yr oedd y plentyn ynddi ar 1 Medi 2022,
b
nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, ac
c
y mae’r hen gyfraith yn gymwys iddo.
2
Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn symud o ardal yr awdurdod lleol yr oedd y plentyn ynddi ar 1 Medi 2022—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Sylw i ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd cyn hysbysiad CDU16
Pan fo cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer plentyn o fewn 12 wythnos i symud i’r gyfraith newydd, rhaid rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd i’r plentyn yn union cyn symud i’r gyfraith newydd.
Galluedd plant17
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i blentyn y mae mater yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ef ar 1 Medi 2022.
2
Nid oes dim yn yr erthygl hon sy’n gymwys i berson pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.
3
Nid yw dyletswydd ym mharagraff (4) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.
4
Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw—
a
y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthygl 9;
b
y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 10;
c
y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 12 wythnos yn erthygl 11(1).
5
Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4) (a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
6
Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4) (a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
Plant sy’n dod yn bersonau ifanc cyn bod y gyfraith newydd yn gymwys18
1
Mae paragraff (2) yn gymwys i blentyn y mae mater yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ef ar 1 Medi 2022.
2
Nid yw dyletswydd ym mharagraff (3) na’r pŵer ym mharagraff (4) yn gymwys pan fydd person yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.
3
Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
a
y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i riant yn erthygl 9;
b
y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan riant o dan erthygl 10;
c
y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i riant o fewn 12 wythnos yn erthygl 11(1).
4
Y pŵer y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw y pŵer i riant ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn erthygl 10.
5
Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3) (a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
6
Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (3) (a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at riant plentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn10:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adrannau 2 i 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)11 | |
Adran 4 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 5 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 6 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 7 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 8 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adrannau 9 i 14 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 15 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 16 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adrannau 17 i 20 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 21 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adrannau 22 i 31 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 32 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adrannau 33 i 35 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 36 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 37 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 38 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 39 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adrannau 40 i 44 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 45 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 46 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 47 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adrannau 48 i 49 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 50(1), (4) a (5) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 50(1), (2) a (3) (yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adrannau 51 i 53 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 54 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adran 55 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 56 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adran 56(1) | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 56(4) i (6) | 4 Ionawr 2021 | |
Adrannau 57 i 58 | 1 Medi 2021 | |
Adran 59 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 60 | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 61 | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 62 | 4 Ionawr 2021 | |
Adrannau 63 i 64 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 65 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 66 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adran 67 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adrannau 68 i 69 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Adrannau 70 i 73 | 1 Medi 2021 | |
Adran 74 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 75 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adran 76 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adran 77 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adrannau 78 i 81 | 1 Medi 2021 | |
Adran 82 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 83 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adran 84 | 1 Medi 2021 | |
Adran 85 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adrannau 86 i 90 | 1 Medi 2021 | |
Adran 91 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adran 92 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adrannau 93 i 94 | 1 Medi 2021 | |
Adran 95 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adran 96 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 2(1), 2(2) (b) a 2(3) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 3 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 4(1), 4(2) i 4(8), 4(9), 4(10), 4(13) i 4(18), 4(19) (b), 4(20), 4(21), 4(23) i 4(29), 4(32) (a) (i) a (ii), 4(32) (b) | 1 Medi 2021 | |
(yn rhannol) | 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 4(9) (i’r graddau y mae’n hepgor adrannau 333(1ZA), 333(2) i 333(6) a 334 i 335), 4(12), 4(19) (a), 4(22), 4(30) (a) (ii), 4(30) (b), 4(31), 4(32) (a) (iii), 4(33) (a), 4(33) (b) (i’r graddau y mae’n hepgor diffiniadau penodol), 4(33) (d), 4(33) (e) a 4(33) (g) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 6(d) (v), 6(f), 6(g), 6(j) (i), 6(l) (i), 6(l) (iii), 6(n) (ii) (i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2), a 6(t) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 7 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 8 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraffau 9 a 10 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 11(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) |
Yr Atodlen, paragraff 11(b) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 12(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 12(b) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 13 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 14(1) i (3) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 14(1) a 14(4) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 15(1) a 15(3) i 15(4) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraffau 17 a 18 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (2), (3), (5) (a) i (d), (5) (e) (i), (5) (f) a (6) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5) (g) ac (h) (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (5) (e) (ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 20 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 21(1), (2) (a) (i) a (2) (b) (ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 21(1) ac 21(b) (i) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 22 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 23(1), 23(3) (a) i (c) a (5) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 23(1) a (4) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 24(1) a 24(3) a (6) (a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
1 Ionawr 2022 | O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) | |
Yr Atodlen, paragraff 24(1), 24(2), (5) a (6) (b) ac (c) | 1 Medi 2021 |