Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodolLL+C

13.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2024.

(2Ar y diwrnod trosglwyddo—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3Yn yr erthygl hon ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 13 mewn grym ar y dyddiad gwneud