Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodol13.

(1)

Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2024.

(2)

Ar y diwrnod trosglwyddo—

(a)

mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)

mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3)

Yn yr erthygl hon ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.