2022 Rhif 806 (Cy. 182)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 50(2) a (3)1 a 105(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Yn unol ag adran 49(5) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cynrychiolwyr awdurdodau perthnasol, a’r personau eraill hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.