Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022 a deuant i rym ar 22 Gorffennaf 2022.
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 20182.
(1)
(2)
Yn rheoliad 3 (ffioedd arolygu mewnforio)—
(a)
ym mharagraff (1)—
(i)
yn lle’r geiriau “a ddisgrifir yn” rhodder “sy’n dod o fewn”;
(ii)
hepgorer y geiriau o “neu unrhyw beiriannau” hyd at y diwedd;
(b)
“(2A)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2B), (2C) a (2E), y ffioedd sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad ag atebolrwydd am wiriad ffisegol a gwiriad adnabod y caniateir eu cynnal ar y llwyth (pa un a gynhelir unrhyw wiriad o’r fath ai peidio) yw, pan fo llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl, sy’n tarddu o wlad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl—
(a)
y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth; a
(b)
y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth.”;
(c)
“(2B)
Mae’r ffioedd a bennir o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o flodau wedi eu torri, ffrwythau, llysiau neu ddail yn daladwy mewn cysylltiad ag un lot o’r math o dan sylw.”;
(d)
“(2C)
Pan fo llwyth yn cynnwys dau neu ragor o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n dod o fewn un categori a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl, y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol neu wiriad adnabod o’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill o fewn y categori o dan sylw yw—
(a)
i’r graddau y mae’r llwyth yn cynnwys dau neu ragor o lotiau naill ai o flodau wedi eu torri neu o ffrwythau, llysiau neu ddail—
(i)
y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un lot o flodau wedi eu torri neu o ffrwythau, llysiau neu ddail (yn ôl y digwydd); neu
(ii)
pan bennir symiau gwahanol mewn perthynas â’r lotiau o dan sylw, ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf mewn perthynas ag atebolrwydd am wiriad ffisegol neu wiriad adnabod (yn ôl y digwydd);
(b)
i’r graddau y mae’r llwyth yn cynnwys unrhyw blanhigion eraill, unrhyw gynhyrchion planhigion neu unrhyw wrthrychau eraill sy’n tarddu o’r un wlad—
(i)
y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall o unrhyw un o’r disgrifiadau o dan sylw; neu
(ii)
pan bennir symiau gwahanol mewn perthynas â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny, ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf mewn perthynas ag atebolrwydd i wiriad ffisegol neu wiriad adnabod (yn ôl y digwydd).”;
(e)
hepgorer paragraff (2D);
(f)
“(2E)
Nid yw ffi yn daladwy o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag unrhyw lwyth sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir a fewnforir cyn diwedd y cyfnod graddoli trosiannol, mewn cysylltiad ag unrhyw blanhigion neu gynhyrchion planhigion a bennir yn Atodlen 2A a geir yn y llwyth hwnnw.”
(g)
“(2F)
Pan fo arolygydd yn amau bod llwyth o drydedd wlad wedi ei heintio â phla planhigion a reolir ac yn cymryd sampl o’r llwyth er mwyn cynnal profion labordy i gadarnhau pa un a yw’r pla yn bresennol, y ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr y llwyth o drydedd wlad yw £147.35 ar gyfer pob sampl a brofir.
(2G)
At ddibenion y rheoliad hwn, y tabl ac Atodlen 2A—
(a)
ystyr “dail” yw llysiau, perlysiau a sbeisys, i’r graddau y maent ar ffurf dail gyda neu heb goesynnau neu goesau ynghlwm, a dail rhydd unrhyw blanhigion eraill;
(b)
ystyr “llysiau”, ac eithrio yn is-baragraff (a), yw llysiau ac eithrio i’r graddau y maent ar ffurf dail.”;
(h)
“(3)
Yn y rheoliad hwn—
(a)
ystyr “categori”, mewn perthynas ag unrhyw beth a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, yw grŵp a restrir yng ngholofn 1 mewn print trwm;
(b)
ystyr “pla planhigion a reolir” yw pla cwarantin Prydain Fawr, pla cwarantin Prydain Fawr dros dro, pla cwarantin ardal sy’n rhydd rhag plâu neu bla nad yw’n bla cwarantin Prydain Fawr a reoleiddir4;(c)
ystyr “disgrifiad”, mewn perthynas ag unrhyw beth a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, yw’r disgrifiad penodol y pennir ffi mewn cysylltiad ag ef;
(d)
ystyr “lot” yw un uned neu ragor o un nwydd, y gellir ei adnabod drwy gydrywiaeth ei gyfansoddiad a’i darddiad, sy’n ffurfio rhan o lwyth;
(e)
ystyr “y tabl” yw’r tabl yn Atodlen 1;
(f)
ystyr “llwyth o drydedd wlad” yw llwyth a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad;
(g)
mae i “y cyfnod graddoli trosiannol” yr ystyr a roddir i “the transitional staging period” yn Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion5.”.
(3)
Yn rheoliad 5A (gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio: ffioedd), ym mharagraff (4B), yn lle “2022” rhodder “2023”.
(4)
Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen 1 a geir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
(5)
Hepgorer Atodlenni 1A a 2.
(6)
Yn lle Atodlen 2A, rhodder yr Atodlen 2A a geir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
ATODLEN 1
“ATODLEN 1Ffioedd arolygu mewnforio
Colofn 1
Colofn 2
Colofn 3
Colofn 4
Categori a disgrifiad o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall
Gwlad tarddiad
Ffi: Gwiriad ffisegol (£)
Ffi: Gwiriad adnabod (£)
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws), winwns, sialóts, garlleg, cennin a llysiau garllegaidd eraill, planhigion cwsg, nad ydynt mewn swbstrad
Pob genera a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio cynhyrchu blodau masnachol, a nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1)
Unrhyw drydedd wlad
205.04
5.25
Pob genera a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac a fwriedir ar gyfer cynhyrchu blodau masnachol, neu ar gyfer defnyddwyr terfynol(1)Unrhyw drydedd wlad
20.50
0.52
Toriadau, eginblanhigion, a fwriedir ar gyfer eu plannu, nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Pob genera
Unrhyw drydedd wlad
32.15
1.57
Planhigion prennaidd(2) (ac eithrio unrhyw rai a bennir neu a gynhwysir mewn lle arall yn y tabl hwn), a fwriedir ar gyfer eu plannuPob genera
Unrhyw drydedd wlad
32.15
1.57
Pob genera
Unrhyw drydedd wlad
32.15
1.57
Planhigion dan do(4)Pob genera
Unrhyw drydedd wlad
32.15
1.57
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Pob genera
Unrhyw drydedd wlad
32.15
1.57
Blodau wedi eu torri
Dendranthema (DC.) Des Moul. (Chrysanthemum L.)
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.28
0.15
Colombia neu Ecuador
21.37
2.62
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Colombia, Ecuador, Liechtenstein neu’r Swistir
2.13
0.26
Eryngium Tournier ex Linnaeus.
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.28
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
4.27
0.52
Lisianthus L.
Unrhyw drydedd wlad
4.27
0.52
Rosa L.
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Colombia, Ecuador, Liechtenstein neu’r Swistir
1.28
0.15
Canada, India, Mecsico neu UDA
21.37
2.62
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Canada, Colombia, Ecuador, India, Liechtenstein, Mecsico, y Swistir neu UDA
2.13
0.26
Solidago L.
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.28
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
4.27
0.52
Genera eraill nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.28
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
2.13
0.26
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio rhisgl neu goed Nadolig wedi eu torri)
Pob genera
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.01
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.69
0.26
Ffrwythau, llysiau, dail
Momordica L.
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
26.55
2.62
Ocimum L.
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
2.15
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
35.84
2.62
Solanaceae Juss. (ac eithrio Solanum tuberosum L.)
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
26.55
2.62
Solanum melongena L.
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Twrci
15.93
1.57
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, y Swistir neu Dwrci
2.65
0.26
Genera neu rywogaethau eraill o ffrwythau neu lysiau nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
1.59
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
2.65
0.26
Dail eraill nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
2.15
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
3.58
0.26
Hadau (ar gyfer eu hau), meithriniad meinwe
Pob genera, ar gyfer treialon neu brofi
Unrhyw drydedd wlad
12.81
0.52
Brassicaceae (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay
128.13
5.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay
6.40
0.26
Capsicum spp. L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Unrhyw drydedd wlad
128.13
5.25
Poaceae (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay
128.13
5.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay
6.40
0.26
Secale L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA
128.13
5.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA
6.40
0.26
Solanum lycopersicum L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Unrhyw drydedd wlad
128.13
5.25
Solanum tuberosum L. (Gwir had) (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Unrhyw drydedd wlad
128.13
5.25
Trifolium spp. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay
128.13
5.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay
6.40
0.26
Triticum L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA
128.13
5.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA
6.40
0.26
X Triticosecale Wittm. ex A. Camus (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi)
Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA
128.13
5.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA
6.40
0.26
Genera neu rywogaethau eraill nad ydynt wedi eu pennu neu eu cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn
Unrhyw drydedd wlad
6.40
0.26
Grawn (ac eithrio hadau ar gyfer eu hau)
Secale L.
Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA
142.98
5.25
Triticum L.
Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA
142.98
5.25
X Triticosecale Wittm. ex A. Camus
Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA
142.98
5.25
Cloron tatws
Solanum tuberosum L. (tatws hadyd)
Unrhyw drydedd wlad
156.69
5.25
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta)
Yr Aifft, Gwlad Pwyl, Portiwgal neu Rwmania
78.34
2.62
Sbaen
156.69
5.25
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Aifft, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania neu Sbaen
4.70
0.15
Coed Nadolig wedi eu torri (llai na 3 metr o uchder)
Pob genera
Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
3.58
0.15
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir
5.98
0.26
Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth
Unrhyw drydedd wlad
5.98
0.26”
ATODLEN 2
“ATODLEN 2ARhestr o blanhigion a chynhyrchion planhigion sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir sy’n ddarostyngedig i ffioedd ar gyfer gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod o ddiwedd y cyfnod graddoli trosiannol
1.
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd ac eithrio rhisgl a choed Nadolig wedi eu torri.
2.
Coed Nadolig wedi eu torri.
3.
Blodau wedi eu torri.
4.
Ffrwythau.
5.
Grawn, ac eithrio hadau ar gyfer eu hau.
6.
Dail.
7.
Hadau ac eithrio—
(a)
hadau—
(i)
Allium cepa L.,
(ii)
Allium porrum L.,
(iii)
Castanea Mill.,
(iv)
Capsicum spp. L.,
(v)
Helianthus annuus L.,
(vi)
Medicago sativa L.,
(vii)
Phaseolus cocineus.,
(viii)
Phaseolus vulgaris L.,
(ix)
Solanum lycopersicum L.,
(x)
Solanum tuberosum L. (Hadau tatws gwirioneddol).
(b)
hadau llysiau Pisum sativum L. a Vicia faba L.
(c)
hadau planhigion olew a ffibr—
(i)
Brassica napus L.,
(ii)
Brassica rapa L.,
(iii)
Sinapis alba L.,
(iv)
Glycine max (L.) Merrill,
(v)
Linum usitatissimum L.
8.
Llysiau.”
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7(2) o Atodlen 4 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16). Maent yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1179) (Cy. 238) (“Rheoliadau 2018”).
Yn benodol, mae Rheoliadau 2018 wedi eu diwygio—
mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth sy’n tarddu o drydedd wlad mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill, er mwyn adlewyrchu pa mor aml y cynhelir gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o’r fath. Mae’r diwygiadau yn cynnwys darparu ar gyfer ffi unffurf mewn cysylltiad â phlanhigion penodol sydd i’w plannu a newidiadau i gategorïau planhigion, a chynhyrchion planhigion, penodol; a
er mwyn estyn yr esemptiad rhag talu ffioedd sy’n daladwy fel arall mewn cysylltiad â gwasanaethau tystysgrifau a chyn-allforio ar lwythi o dan amgylchiadau penodol hyd 31 Rhagfyr 2023.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.