Mae Pennod 3 o Ran 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“Deddf 2016”) yn cyflwyno’r cysyniad o ddarpariaethau sylfaenol sef:
darpariaethau Deddf 2016; a
darpariaethau eraill sy’n ddarpariaethau sylfaenol yn rhinwedd adran 22(1)(a) o Ddeddf 2016,
a ymgorfforir fel telerau contractau meddiannaeth neu fel telerau mathau neu ddisgrifiadau penodol o gontractau meddiannaeth (yn ddarostyngedig i adrannau 20(1) a (2) ac 21 o Ddeddf 2016) ac sydd felly’n ffurfio rhan o’r contract rhwng deiliad contract a landlord.
Unwaith y mae darpariaeth sylfaenol wedi ei chynnwys mewn contract meddiannaeth, cyfeirir ati fel “teler sylfaenol” o’r contract.
Mae adran 20 o Ddeddf 2016 yn caniatáu i landlordiaid a deiliaid contract gytuno i beidio ag ymgorffori darpariaethau sylfaenol mewn contract meddiannaeth (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol). Fodd bynnag, mae hyn yn ddarostyngedig i’r prawf y byddai peidio ag ymgorffori’r teler yn gwella sefyllfa deiliad y contract. Mae landlordiaid a deiliaid contract hefyd yn gallu addasu darpariaethau sylfaenol, drwy gytundeb, ar yr amod y byddai’r addasiad yn gwella sefyllfa deiliad y contract (eto, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol).
Mae adran 22(1) o Ddeddf 2016 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n pennu bod unrhyw ddarpariaeth o unrhyw ddeddfiad yn ddarpariaeth sylfaenol, neu nad yw’n ddarpariaeth sylfaenol, sy’n gymwys i gontract meddiannaeth.
Mae rheoliadau 3 a 4 o’r Rheoliadau hyn yn darparu nad yw adrannau 104 (contractau diogel: amrywio’r rhent) a 123 (contractau safonol cyfnodol: amrywio’r rhent) o Ddeddf 2016 yn ddarpariaethau sylfaenol o gontractau meddiannaeth sy’n denantiaethau cymdeithas dai (o fewn yr ystyr a roddir i “housing association tenancy” gan Ran 6 o Ddeddf Rhenti 1977 (“Deddf 1977”)).
Mae rheoliad 5 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adrannau 104, 123, 252 (mân ddiffiniadau) a 253 (mynegai) o Ddeddf 2016 ac Atodlen 1 (trosolwg o ddarpariaethau sylfaenol a ymgorfforir fel telerau contractau meddiannaeth) ac Atodlen 12 (trosi tenantiaethau a thrwyddedau presennol sy’n bodoli cyn i Bennod 3 o Ran 10 ddod i rym) i Ddeddf 2016.
Mae rheoliad 6 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 93 o Ddeddf 1977 (cynyddu’r rhent heb rybudd i ymadael) ac yn mewnosod is-adrannau newydd (2A), (2B) a (2C). Mae is-adran (2A) yn darparu, pan fo tenantiaeth cymdeithas dai yn gontract diogel neu’n gontract safonol cyfnodol, y caniateir cynyddu’r rhent sy’n daladwy i’r landlord (sef cymdeithas dai, ymddiriedolaeth dai neu Weinidogion Cymru) o ddechrau unrhyw gyfnod rhent drwy hysbysiad ysgrifenedig sy’n pennu’r dyddiad y bydd y cynnydd yn cael effaith ac a roddir gan y landlord i ddeiliad y contract ddim llai na phedair wythnos cyn y dyddiad hwnnw. Mae is-adran newydd (2B) yn darparu nad yw hysbysiad o gynnydd yn cael effaith os yw deiliad y contract yn rhoi hysbysiad i derfynu’r contract cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad. Mae is-adran newydd (2C) yn darparu ymhellach y bydd yr hysbysiad o’r cynnydd yn cael effaith os yw’r hysbysiad i derfynu’r contract yn peidio â chael effaith o dan adran 167(3) neu 172(3) o Ddeddf 2016 cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.