RHAN 3Trosolwg a chraffu

Is-bwyllgorau llywodraethu ac archwilio

Penodi cadeirydd a dirprwy

11.—(1Rhaid i is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig benodi—

(a)cadeirydd, a

(b)dirprwy gadeirydd.

(2Rhaid penodi’r cadeirydd a’r dirprwy gadeirydd o blith aelodau’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

(3Ni chaiff yr aelod a benodir yn gadeirydd hefyd fod yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

Trafodion etc.

12.—(1Mae cyfarfod is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig (“yr is-bwyllgor”) i’w gadeirio—

(a)gan y cadeirydd, neu

(b)os yw’r cadeirydd yn absennol, y dirprwy gadeirydd.

(2Os yw’r cadeirydd a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff yr is-bwyllgor benodi un o’i aelodau eraill i gadeirio’r cyfarfod.

(3Caiff pob aelod o’r is-bwyllgor bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu gan yr is-bwyllgor.

(4Caiff yr is-bwyllgor—

(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau ac aelodau o staff y cyd-bwyllgor corfforedig fod yn bresennol ger ei fron i ateb cwestiynau, a

(b)gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd o’r is-bwyllgor.

(5Mae dyletswydd ar unrhyw aelod neu aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (4)(a).

(6Ond nid oes rhwymedigaeth ar berson o dan baragraff (5) i ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person yr hawl i wrthod ei ateb mewn achos llys yng Nghymru a Lloegr, neu at ddibenion achos llys o’r fath.

Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio

13.—(1Rhaid i is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig (“yr is-bwyllgor”) gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

(2Rhaid i’r is-bwyllgor hefyd gyfarfod—

(a)os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu y dylai’r is-bwyllgor gyfarfod, neu

(b)os yw o leiaf un rhan o dair o aelodau’r is-bwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy un neu ragor o hysbysiadau mewn ysgrifen a roddir i’r cadeirydd.

(3Mae dyletswydd ar y person sy’n cadeirio’r is-bwyllgor i sicrhau y cynhelir cyfarfodydd o’r is-bwyllgor fel sy’n ofynnol gan baragraffau (1) a (2).

(4Nid yw’r rheoliad hwn yn atal yr is-bwyllgor rhag cyfarfod yn ychwanegol at yr hyn sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn.