Rheoliad 2(2)
1 | Safonau ynghylch ystyried effeithiau penderfyniadau polisi a wneir gan gorff ar y Gymraeg |
Safon 42: | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n diwygio polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un a yw’r rheini yn bositif neu’n andwyol), y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 43: | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n diwygio polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel y byddai’r penderfyniad polisi yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 44: | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n diwygio polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel na fyddai’r penderfyniad polisi yn cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 45: | Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen ystyried yr effeithiau (pa un a yw’r rheini yn bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi o dan ystyriaeth yn eu cael ar y canlynol, a cheisio barn ynghylch yr effeithiau hynny— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 46: | Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen ystyried sut y gellid llunio neu ddiwygio’r polisi o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar y canlynol, a cheisio barn ynghylch hynny— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 47: | Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen ystyried sut y gellid llunio neu ddiwygio’r polisi o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar y canlynol, a cheisio barn ynghylch hynny— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 48: | Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir iddo eich cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried pa effeithiau, os o gwbl (a pha un a yw’r rheini yn bositif neu’n andwyol), y byddai’r penderfyniad polisi o dan ystyriaeth yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 49: | Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir iddo eich cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 50: | Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir iddo eich cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
2 | Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, ystyr “penderfyniad polisi” yw unrhyw benderfyniad a wneir gan gorff sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau neu gynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall, ac mae’n cynnwys, ymysg pethau eraill (ac fel y bo’n briodol i’r corff), benderfyniadau ynghylch— (a) cynnwys deddfwriaeth; (b) arfer pwerau statudol; (c) cynnwys datganiadau polisi; (ch) strategaethau neu gynlluniau strategol; (d) strwythurau mewnol a lleoliadau swyddfeydd. |
3 | Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, mae cyfeiriad at effeithiau positif neu effeithiau andwyol yn gyfeiriad at yr effeithiau hynny pa un a ydynt yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. |