Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“Mesur 2011”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (“safonau”). Mae’r rhain yn disodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg y darperir ar eu cyfer yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38).

Mae adran 26 o Fesur 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, ac mae adran 39 yn eu galluogi i ddarparu bod safon yn benodol gymwys i berson drwy awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) i roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safon (“hysbysiad cydymffurfio”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad y cyrff a restrir yn Atodlen 6 i’r Rheoliadau. Y cyrff a restrir yw:

  • Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

  • Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol

  • Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol

  • Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol

  • Y Cyngor Meddygol Cyffredinol

  • Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

  • Y Cyngor Optegol Cyffredinol

  • Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol

  • Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal

Ymysg pethau eraill, caiff y cyrff hyn (ar wahân i’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol) wneud penderfyniadau mewn cysylltiad ag achosion cyfreithiol a ddygir ger eu bron. Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gwneud darpariaeth ynghylch siarad Cymraeg mewn achosion cyfreithiol yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn awdurdodi’r Comisiynydd (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a nodir yn rheoliad 3(2)) i roi hysbysiad cydymffurfio i’r cyrff hynny, mewn perthynas â safonau a bennir gan y Rheoliadau.

Yn unol ag adran 44 o Fesur 2011, caiff y Comisiynydd (drwy hysbysiad cydymffurfio) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau sy’n benodol gymwys iddo. I adlewyrchu hynny, mae’r safonau a bennir gan y Rheoliadau wedi eu geirio ar ffurf naratif ail berson, hynny yw ar ffurf “rhaid ichi” (ac ystyr “chi” yw’r corff perthnasol ym mhob achos).

Gan ddefnyddio’r hyblygrwydd a ddarperir gan adran 44 o Fesur 2011, caiff y Comisiynydd (os yw hynny’n rhesymol ac yn gymesur a’i fod yn dymuno gwneud hynny) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un safon o dan rai amgylchiadau, a safon arall o dan amgylchiadau eraill. Er enghraifft, os yw safon yn benodol gymwys i gorff, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon o dan rai amgylchiadau, ond nid o dan amgylchiadau eraill, neu ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon mewn rhai ardaloedd yn unig. Yn yr un modd os yw dwy neu ragor o safonau yn ymwneud ag ymddygiad penodol (er enghraifft, safonau 10 i 13 mewn perthynas â chyfarfodydd), caiff y Comisiynydd (drwy hysbysiad cydymffurfio) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau hynny yn unig, neu â safonau gwahanol ar adegau gwahanol, o dan amgylchiadau gwahanol, neu mewn ardaloedd gwahanol, fel sy’n briodol i’r corff. Nid oes rheidrwydd ar y Comisiynydd felly i’w gwneud yn ofynnol i bob corff gydymffurfio â phob safon.

Yn unol ag adran 46 o Fesur 2011, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio a roddir i gorff ddatgan y diwrnod gosod, neu’r diwrnodau gosod; hynny yw, y diwrnod neu’r diwrnodau y daw’n ofynnol i’r corff gydymffurfio â safon (neu gydymffurfio â safon mewn modd penodol). Gan ddefnyddio’r hyblygrwydd y darperir ar ei gyfer gan adran 46, caiff y Comisiynydd osod diwrnod gosod cynnar i gorff gydymffurfio â safon (cyn belled â bod hynny o leiaf 6 mis ar ôl dyddiad rhoi’r hysbysiad cydymffurfio cysylltiedig i’r corff), neu osod diwrnod gosod ymhellach i’r dyfodol (er enghraifft mewn perthynas â safonau sy’n fwy heriol).

Pan fo safon a bennir yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeunydd ysgrifenedig gael ei arddangos neu ei ddarparu yn Gymraeg, neu i wasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg, nid yw hyn yn golygu bod rhaid arddangos neu ddarparu’r deunydd yn Gymraeg yn unig, na bod rhaid i’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg yn unig (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol).

Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau. Mae adran 28 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon cyflenwi gwasanaethau” yw safon sy’n ymwneud â gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau, ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio’r Gymraeg, neu weithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, pan gyflawnir y gweithgaredd hwnnw. Ystyr “gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau” yw bod person yn cyflenwi gwasanaethau i berson arall, neu yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau i’r person hwnnw neu i drydydd person.

Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau yn pennu safonau llunio polisi. Mae adran 29 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon llunio polisi” yw safon sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi ac y bwriedir iddi sicrhau, neu gyfrannu at sicrhau, bod y person sy’n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried un neu ragor o’r canlynol—

(a)pa effeithiau, os o gwbl, (pa un a yw’r rheini yn bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;

(b)sut y gellid gwneud y penderfyniad fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;

(c)sut y gellid gwneud y penderfyniad fel nad yw’r penderfyniad yn cael effeithiau andwyol, neu fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau llai andwyol, ar gyfleoedd i bersonau eraill ddefnyddio’r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Mae Atodlen 3 i’r Rheoliadau yn pennu safonau gweithredu. Mae adran 30 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon gweithredu” yw safon sy’n ymwneud â swyddogaethau, neu fusnes neu ymgymeriad arall (“gweithgareddau perthnasol”) person (“A”), ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio’r Gymraeg—

(a)gan A wrth i A gyflawni ei weithgareddau perthnasol,

(b)gan A a pherson arall wrth iddynt ddelio â’i gilydd mewn cysylltiad â gweithgareddau perthnasol A, neu

(c)gan berson ac eithrio A wrth iddo gyflawni gweithgareddau at ddibenion gweithgareddau perthnasol A neu mewn cysylltiad â hwy.

Mae Atodlen 4 i’r Rheoliadau yn pennu safonau cadw cofnodion. Mae adran 32 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon cadw cofnodion” yw safon sy’n ymwneud â chadw cofnodion ynghylch safonau penodedig eraill, cofnodion ynghylch cwynion sy’n ymwneud â chydymffurfedd â safonau penodedig eraill, neu gofnodion ynghylch cwynion eraill sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

Mae Atodlen 5 i’r Rheoliadau yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion atodol. Mae’r rhain yn fathau penodol o safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisi, safonau gweithredu a safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â’r materion y cyfeirir atynt yn adran 27(4) o Fesur 2011 (sy’n atodol i’r materion yr ymdrinnir â hwy yn Atodlenni 1 i 4).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Uned y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.