xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 796 (Cy. 174)

Y Gymraeg

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022

Gwnaed

13 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym

31 Hydref 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 26, 27, 39 a 150(5) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1), ac wedi cael cymeradwyaeth Senedd Cymru yn unol ag adran 150(2) o’r Mesur hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Hydref 2022.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod o staff” (“member of staff”) yw cyflogai i gorff neu berson naturiol sy’n gweithio i gorff ond nid aelod o fwrdd na chyngor y corff hwnnw (a rhaid dehongli “staff” (“staff”) yn unol â hynny);

ystyr “corff” (“body”) yw person a restrir yn Atodlen 6;

ystyr “un sydd wedi cofrestru” (“registrant”) yw person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sydd wedi ei gofrestru â chorff neu’n gwneud cais i fod wedi ei gofrestru â chorff;

ystyr “unigolyn” (“individual”) yw person naturiol sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac yn gweithredu yn ei enw ei hun ond nid yw’n cynnwys un sydd wedi cofrestru sy’n gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel un sydd wedi cofrestru;

ystyr “wedi ei gofrestru” (“registered”) yw wedi ei gofrestru mewn cofrestr y mae’r corff yn ei chynnal yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad.

(5Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae cyfeiriadau at unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan gorff, neu at unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gorff, i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar ran y corff, neu at y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu ar ran y corff, gan drydydd parti o dan drefniadau a wneir rhwng y trydydd parti a’r corff;

(b)yn unol â hynny, oni bai bod hysbysiad cydymffurfio yn darparu i’r gwrthwyneb, bydd corff wedi methu â chydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd y mae wedi trefnu iddo gael ei gyflawni, neu wasanaeth y mae wedi trefnu iddo gael ei ddarparu, gan drydydd parti os nad yw’r gweithgaredd hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw wedi ei gyflawni neu ei ddarparu yn unol â’r safon.

(6Nid oes dim byd yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd a gyflawnir ganddo neu wasanaeth a ddarperir ganddo pan fo’n cyflawni’r gweithgaredd hwnnw neu’n darparu’r gwasanaeth hwnnw ar ran trydydd parti o dan drefniadau a wneir rhyngddo ef a’r trydydd parti.

Safonau a bennir

2.—(1Yn Atodlen 1—

(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau;

(b)mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;

(c)mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(2Yn Atodlen 2—

(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau llunio polisi;

(b)mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(3Yn Atodlen 3—

(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau gweithredu;

(b)mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;

(c)mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(4Yn Atodlen 4—

(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau cadw cofnodion;

(b)mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.

(5Yn Atodlen 5—

(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion sy’n atodol i’r materion yr ymdrinnir â hwy yn y safonau a bennir yn Atodlenni 1 i 4;

(b)mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli’r safonau atodol.

Safonau sy’n benodol gymwys

3.—(1Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i’r personau a restrir yn Atodlen 6 sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau a bennir o dan reoliad 2 ac Atodlenni 1 i 5.

(2Ond nid awdurdodir y Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â safon 20 a safonau 23 i 32.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

13 Gorffennaf 2022

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1Safonau cyflenwi gwasanaethau

RHAN 1Y SAFONAU

1Safonau ynghylch gohebiaeth a anfonir gan gorff
(1) Pan fydd corff yn ateb gohebiaeth
Safon 1:Os byddwch yn cael gohebiaeth yn Gymraeg oddi wrth berson yng Nghymru, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb), oni bai bod y person wedi dweud nad oes angen ateb yn Gymraeg.
(2) Pan fydd corff yn gohebu â sawl unigolyn
Safon 2:Pan fyddwch yn anfon yr un ohebiaeth at sawl unigolyn, rhaid ichi anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth at yr unigolion ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon unrhyw fersiwn Saesneg ohoni.
(3) Safonau cyffredinol ynghylch gohebu
Safon 3:Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg gyfatebol o ohebiaeth, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg (er enghraifft, os yw’r fersiwn Saesneg wedi ei llofnodi, neu os oes manylion cyswllt wedi eu darparu ar y fersiwn Saesneg, rhaid i’r fersiwn Gymraeg gael ei thrin yn yr un modd).
Safon 4:

Rhaid ichi ddatgan—

(a)

mewn gohebiaeth, a

(b)

mewn cyhoeddiadau a hysbysiadau sy’n gwahodd personau yng Nghymru i ymateb ichi neu i ohebu â chi,

eich bod yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwch yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

2Safonau ynghylch galwadau ffôn i gorff ac oddi wrth gorff
Safon 5:

Pan fydd unigolyn yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, a bod yr unigolyn hwnnw yn gofyn ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg os oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael (drwy drosglwyddo’r alwad os oes angen)—

(a)

hyd nes na all yr aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ddarparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a

(b)

hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 6:Rhaid i unrhyw systemau ffôn wedi eu hawtomeiddio sydd gennych ddarparu’r gwasanaeth cyfan wedi ei awtomeiddio yn Gymraeg.
Safon 7:Pan fyddwch yn hysbysebu rhif gwasanaeth ffôn wedi ei awtomeiddio, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
3Safonau ynghylch corff yn cynnal cyfarfodydd nad ydynt ar agor i’r cyhoedd
(1) Cyfarfodydd rhwng corff ac un unigolyn gwahoddedig arall
Safon 8:

Os byddwch yn gwahodd un unigolyn (“A”) yn unig i gyfarfod yng Nghymru (a dim personau eraill)—

(a)

rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a hysbysu A y byddwch yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw, a

(b)

os yw A wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.

(2) Cyfarfodydd rhwng corff a mwy nag un person gwahoddedig
Safon 9:Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod yng Nghymru, rhaid ichi ofyn i bob unigolyn a wahoddir a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.
Safon 9A:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod yng Nghymru, a bod o leiaf 10% o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg, neu os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 9B:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod yng Nghymru, a bod o leiaf 20% o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg, neu os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 9C:Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod yng Nghymru, a bod o leiaf 30% o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg, neu os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
4Safonau ynghylch cyfarfodydd a drefnir gan gorff sydd ar agor i’r cyhoedd
Safon 10:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod a gynhelir yng Nghymru sydd ar agor i’r cyhoedd ac y caniateir cyfranogiad cyhoeddus gan unigolyn ynddo, rhaid ichi ddatgan ar unrhyw ddeunydd sy’n ei hysbysebu, ac ar unrhyw wahoddiad iddo, fod croeso i unrhyw un sy’n bresennol ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.

Safon 11:

Pan fyddwch yn anfon gwahoddiadau i gyfarfod a gynhelir yng Nghymru yr ydych yn ei drefnu sydd ar agor i’r cyhoedd ac y caniateir cyfranogiad cyhoeddus gan unigolyn ynddo, rhaid ichi eu hanfon yn Gymraeg.

Safon 12:

Os byddwch yn gwahodd personau i siarad mewn cyfarfod yng Nghymru yr ydych yn ei drefnu sydd ar agor i’r cyhoedd ac y caniateir cyfranogiad cyhoeddus gan unigolyn ynddo, rhaid ichi—

(a)

gofyn i bob person a wahoddir i siarad a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg, a

(b)

os yw’r person hwnnw (neu o leiaf un o’r personau hynny) wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 13:

Os byddwch yn trefnu cyfarfod a gynhelir yng Nghymru sydd ar agor i’r cyhoedd ac y caniateir cyfranogiad cyhoeddus gan unigolyn ynddo, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod, a rhaid ichi hysbysu’r rheini sy’n bresennol ar lafar yn Gymraeg—

(a)

bod croeso iddynt ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

5Safonau ynghylch digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan gorff
Safon 14:Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus yng Nghymru, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth hybu’r digwyddiad (er enghraifft, o ran y ffordd y mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad).
Safon 15:Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus yng Nghymru, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau a gynigir i bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad, mewn perthynas ag arwyddion yr ydych yn eu llunio a’u harddangos yn y digwyddiad, ac mewn perthynas â chyhoeddiadau sain a wneir ynddo).
6Safon ynghylch cyhoeddusrwydd a hysbysebu gan gorff
Safon 16:

Rhaid i unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu ddeunydd hysbysebu yr ydych yn ei lunio pan fo’r gynulleidfa a ragwelir yn unigolyn gael ei lunio yn Gymraeg, ac os byddwch yn llunio’r deunydd yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.

7

Safonau ynghylch corff yn arddangos deunydd yn gyhoeddus

Safon 17:Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei lunio ac yn ei arddangos yn gyhoeddus yng Nghymru gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
Safon 18:Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei lunio ac yn ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus yng Nghymru sydd wedi ei threfnu gennych gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg.
8Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi dogfennau a ffurflenni
Safon 19:Os byddwch yn llunio ffurflen sydd i’w chwblhau gan unigolyn, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg.
Safon 20:Os byddwch yn llunio ffurflen gais yr ydych yn ei rhoi ar gael i un sydd wedi cofrestru gael ei gynnwys ar y gofrestr a gynhelir gennych, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg.
Safon 21:

Os byddwch yn llunio dogfen (ond nid ffurflen) ar gyfer un neu ragor o unigolion, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg—

(a)

os yw pwnc y ddogfen yn awgrymu y dylid ei llunio yn Gymraeg, neu

(b)

os yw’r gynulleidfa a ragwelir yng Nghymru, a’u disgwyliadau, yn awgrymu y dylid llunio’r ddogfen yn Gymraeg.

Safon 22:

Os byddwch yn llunio dogfen neu ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi—

(a)

peidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg (pa un a ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio);

(b)

peidio â gwahaniaethu rhwng y fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg mewn perthynas ag unrhyw ofynion sy’n berthnasol i’r ddogfen neu’r ffurflen (er enghraifft mewn perthynas ag unrhyw ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen, neu mewn perthynas â’r amser a ganiateir ar gyfer ymateb i gynnwys y ddogfen neu’r ffurflen); ac

(c)

sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir fod y ddogfen neu’r ffurflen hefyd ar gael yn Gymraeg.

9Safonau ynghylch ymchwilio i rai sydd wedi cofrestru a all arwain at achos cyfreithiol
Safon 23:

Rhaid ichi ddatgan mewn cyhoeddiadau, canllawiau a hysbysiadau yr ydych yn eu llunio sy’n hysbysu rhai sydd wedi cofrestru (“C”) am ymchwiliadau a all arwain at achosion cyfreithiol gennych y caiff yr C y cynhelir yr ymchwiliad yn ei gylch gyflwyno ffurflenni a dogfennau a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ichi yn Gymraeg mewn perthynas â’r ymchwiliad hwnnw.

Safon 24:Os byddwch yn llunio ffurflen mewn perthynas ag ymchwiliad a allai arwain at achos cyfreithiol gennych sydd i’w chwblhau gan un sydd wedi cofrestru y cynhelir yr ymchwiliad yn ei gylch, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg.
Safon 25:Pan foch yn cysylltu ag un sydd wedi cofrestru (“C”) am y tro cyntaf mewn perthynas ag ymchwiliad a all arwain at achos cyfreithiol gennych yn erbyn yr C hwnnw, rhaid ichi ofyn i’r C nodi a yw C yn dymuno siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd a galwadau ffôn sydd wedi eu hamserlennu sy’n ymwneud â’r ymchwiliad.
Safon 25AOs yw un sydd wedi cofrestru (“C”) wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd a galwadau ffôn sydd wedi eu hamserlennu sy’n ymwneud â’r ymchwiliad, rhaid ichi gynnal y cyfarfod neu’r alwad sydd wedi ei hamserlennu yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 26:Pan foch yn cysylltu ag un sydd wedi cofrestru (“C”) am y tro cyntaf mewn perthynas ag ymchwiliad a all arwain at achos cyfreithiol gennych yn erbyn yr C hwnnw, rhaid ichi ofyn i C nodi a yw’n dymuno cael copïau yn Gymraeg o ffurflenni a dogfennau yr ydych yn eu llunio ac sydd i fod ar gael i C.
Safon 26A:

Pan fo un sydd wedi cofrestru (“C”) wedi nodi ei fod yn dymuno cael copïau yn Gymraeg o ffurflenni a dogfennau yr ydych yn eu llunio mewn perthynas â’r ymchwiliad ac sydd i’w rhoi ar gael i’r C hwnnw—

(a)

rhaid ichi ddarparu’r ffurflenni hynny a’r dogfennau hynny yn Gymraeg mewn perthynas ag ymchwiliad a all arwain at achos cyfreithiol yn erbyn yr C hwnnw, a

(b)

rhaid ichi beidio â thrin eu llunio yn llai ffafriol na ffurflenni a dogfennau yr ydych yn eu llunio yn Saesneg.

Safon 27:

Pan foch yn cael ffurflenni neu ddogfennau yn Gymraeg oddi wrth un sydd wedi cofrestru (“C”) mewn perthynas ag ymchwiliad a all arwain at achos cyfreithiol ynghylch yr C hwnnw, rhaid ichi beidio â thrin y ffurflenni hynny neu’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na’r rhai yr ydych yn eu cael yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg materion eraill, mewn perthynas â’r amserlen ar gyfer cael y ffurflenni hynny a’r dogfennau hynny a hysbysu C am benderfyniadau).

10Safonau ynghylch achosion cyfreithiol
Safon 28:Rhaid ichi ddatgan mewn cyhoeddiadau, canllawiau a hysbysiadau yr ydych yn eu llunio sy’n hysbysu rhai sydd wedi cofrestru am achosion cyfreithiol y caiff yr un sydd wedi cofrestru sy’n destun yr achos cyfreithiol gyflwyno ffurflenni a dogfennau a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ichi yn Gymraeg mewn perthynas â’r achos hwnnw.
Safon 29:Os byddwch yn llunio ffurflen mewn perthynas ag achos cyfreithiol sydd i’w chwblhau gan un sydd wedi cofrestru sy’n destun achos cyfreithiol, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg.
Safon 30:Pan fo un sydd wedi cofrestru (“C”) sy’n destun achos cyfreithiol yn cysylltu â chi am y tro cyntaf i ymateb i’r achos cyfreithiol hwnnw, rhaid ichi ofyn i’r C nodi a yw’r C yn dymuno siarad yn Gymraeg yn yr achos cyfreithiol hwnnw(2).
Safon 30A:Os yw un sydd wedi cofrestru (“C”) wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg mewn unrhyw achos cyfreithiol a gynhelir yn Lloegr, rhaid ichi gynnal yr achos cyfreithiol yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 31:Pan fo un sydd wedi cofrestru sy’n destun yr achos cyfreithiol (“C”) yn cysylltu â chi am y tro cyntaf i ymateb i achos cyfreithiol, rhaid ichi ofyn i C nodi a yw’n dymuno cael copïau yn Gymraeg o ffurflenni a dogfennau yr ydych yn eu llunio mewn perthynas â’r achos cyfreithiol hwnnw ac sydd i fod ar gael i C.
Safon 31A:

Pa fo un sydd wedi cofrestru (“C”) wedi nodi ei fod yn dymuno cael copïau yn Gymraeg o ffurflenni a dogfennau yr ydych yn eu llunio mewn perthynas â’r achos cyfreithiol hwnnw ac sydd i’w rhoi ar gael i’r C hwnnw—

(a)

rhaid ichi ddarparu’r ffurflenni hynny a’r dogfennau hynny yn Gymraeg mewn perthynas â’r achos cyfreithiol hwnnw, a

(b)

rhaid ichi beidio â thrin eu llunio yn llai ffafriol na ffurflenni a dogfennau yr ydych yn eu llunio yn Saesneg.

Safon 32:Pan foch yn cael ffurflenni neu ddogfennau yn Gymraeg oddi wrth un sydd wedi cofrestru sy’n destun achos cyfreithiol (“C”) sy’n ymateb i achos cyfreithiol, rhaid ichi beidio â thrin y ffurflenni hynny neu’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na’r rhai yr ydych yn eu cael yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg materion eraill, mewn perthynas â’r amserlen ar gyfer cael y ffurflenni hynny a’r dogfennau hynny a hysbysu C am benderfyniadau).
11Safonau ynghylch gwefannau a gwasanaethau ar-lein corff
Safon 33:

Rhaid ichi ddynodi a chynnal tudalen (neu dudalennau) ar eich gwefan sy’n darparu gwybodaeth (yn Gymraeg)—

(a)

amdanoch chi,

(b)

am y gwasanaethau yr ydych yn eu darparu yn gyffredinol,

(c)

am y gwasanaethau yr ydych yn eu darparu yng Nghymru,

(ch)

am sut i wneud cwyn ynghylch person sy’n cael ei reoleiddio gennych,

(d)

am y gwasanaethau Cymraeg yr ydych yn eu darparu a sut y gellir cael gafael ar bob un o’r gwasanaethau Cymraeg hynny.

Safon 34:Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich gwefan sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi ddatgan yn glir ar y dudalen Saesneg fod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a rhaid ichi ddarparu dolen uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.
12Safonau ynghylch defnydd corff o’r cyfryngau cymdeithasol
Safon 35:Os bydd person yn cysylltu â chi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb).
Safon 36:Pan fyddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac yn postio neges sy’n ymwneud â Chymru yn unig, rhaid ichi gyhoeddi’r neges yn Gymraeg.
13Safonau ynghylch hysbysiadau a wneir gan gorff
Safon 37:Rhaid i unrhyw hysbysiad yr ydych yn ei gyhoeddi neu’n ei arddangos yng Nghymru ac sy’n ymwneud â gwasanaeth a ddarperir yng Nghymru gael ei gyhoeddi neu ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o hysbysiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.
Safon 38:Pan fyddwch yn cyhoeddi neu’n arddangos hysbysiad yng Nghymru sy’n cynnwys testun Cymraeg yn ogystal â thestun Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.
14Safonau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gorff
Safon 39:Rhaid ichi hybu unrhyw wasanaeth Cymraeg a ddarperir gennych, a hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg.
Safon 40:Os byddwch yn darparu gwasanaeth yn Gymraeg sy’n cyfateb i wasanaeth yr ydych yn ei ddarparu yn Saesneg, rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd neu ddogfen yr ydych yn ei lunio neu’n ei llunio, neu wefan yr ydych yn ei chyhoeddi, sy’n cyfeirio at y gwasanaeth Saesneg ddatgan hefyd fod gwasanaeth cyfatebol ar gael yn Gymraeg.
15Safon ynghylch hunaniaeth gorfforaethol corff
Safon 41:Pan fyddwch yn llunio, yn diwygio neu’n cyflwyno eich hunaniaeth gorfforaethol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

RHAN 2SAFONAU SY’N DDIBYNNOL AR SAFONAU ERAILL – AMODAU ARBENNIG

16Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y mae Comisiynydd y Gymraeg yn ystyried ei fod yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2 (neu ag un neu ragor o’r safonau hynny pan fo hynny’n cael ei ddatgan).

TABL 1

Colofn 1Colofn 2
RhesPrif safonSafon ddibynnol
(1)Ateb gohebiaeth
Safon 1Safon 4
(2)Gohebu â sawl person
Safon 2

Safon 3

Safon 4

(3)Codi ymwybyddiaeth ynghylch gohebu yn Gymraeg
Safon 4Safon 1
(4)Cyfarfodydd â mwy nag un person
Safon 9

Un neu ragor o’r canlynol:

Safon 9A

Safon 9B

Safon 9C

(5)Cyfarfodydd â mwy nag un person
Safon 9A, 9B neu 9CSafon 9
(6)Cyfarfodydd cyhoeddus
Safon 10Safon 13
(7)Cyfarfodydd cyhoeddus
Safon 13Safon 10
(8)Dogfennau
Safon 19, 20 neu 21Safon 22
(9)Ymchwilio a all arwain at achos cyfreithiol
Safon 26Safon 26A
(10)Ymchwilio a all arwain at achos cyfreithiol
Safon 26ASafon 26
(11)Achosion cyfreithiol
Safon 30Safon 30A
(12)Achosion cyfreithiol
Safon 30ASafon 30
(13)Achosion cyfreithiol
Safon 31Safon 31A
(14)Achosion cyfreithiol
Safon 31ASafon 31

RHAN 3DEHONGLI’R SAFONAU

17Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
18

Nid yw’r safonau ond yn gymwys i’r graddau y mae corff—

(a)

yn cyflenwi gwasanaethau i berson, neu

(b)

yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau—

(i)

i’r person arall hwnnw, neu

(ii)

i drydydd person.

19Nid yw’n ofynnol i gorff lunio, arddangos nac anfon deunydd yn Gymraeg i’r graddau y mae deddfiad arall wedi pennu geiriad dogfen, arwydd neu ffurflen a fyddai’n groes i’r gofyniad hwnnw.
20

At ddibenion y safonau—

(a)

nid yw gofyniad i lunio unrhyw ddeunydd ysgrifenedig, i’w anfon, i’w gyhoeddi, i’w arddangos, i’w roi ar gael neu i’w ddyroddi yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid llunio’r deunydd, ei anfon, ei gyhoeddi, ei arddangos, ei roi ar gael neu ei ddyroddi, nac yn golygu y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon);

(b)

nid yw gofyniad i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid darparu’r gwasanaeth hwnnw (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon).

21

(1Nid yw’n ofynnol i gorff gyfieithu i’r Gymraeg unrhyw destun nad yw wedi ei lunio (“testun A”).

(2Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol os nad yw’n cyfieithu testun A i’r Gymraeg ond gweler is-baragraff (3).

(3Rhaid i gorff ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o destun A os yw person arall wedi llunio testun A yn Gymraeg yn unol—

(a)â’i Gynllun Iaith Gymraeg;

(b)â dyletswydd i gydymffurfio â safonau;

(c)â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru;

(ch)ag adran 35(1C) o Ddeddf 2006; neu

(d)â Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd.

(4Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “Cynllun Iaith Gymraeg” yw cynllun iaith Gymraeg a lunnir yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(3);

(b)ystyr “dyletswydd i gydymffurfio â safonau” yw dyletswydd i gydymffurfio â safon o dan adran 25 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011;

(c)ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006(4);

(ch)ystyr “Rheolau Sefydlog y Senedd” yw rheolau sefydlog a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf 2006;

(d)ystyr “Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd” yw’r Cynllun a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006.

22

At ddiben safonau 2, 16, 19, 20 ac 21, mae cyfeiriad at—

(a)

deunydd cyhoeddusrwydd neu ddeunydd hysbysebu sy’n cael ei lunio ar gyfer unigolyn,

(b)

ffurflen neu ddogfen sydd ar gael i rai sydd wedi cofrestru neu unigolion,

(c)

ffurflen sydd i’w chwblhau gan unigolyn, neu

(ch)

gohebiaeth sy’n cael ei hanfon at unigolion,

yn golygu deunydd cyhoeddusrwydd neu ddeunydd hysbysebu, dogfennau, ffurflenni neu ohebiaeth pa un a yw hefyd yn cael ei llunio ar gyfer personau y tu allan i Gymru, ar gael iddynt, i’w cwblhau ganddynt neu i’w hanfon atynt ai peidio.

23Yn safon 6, ystyr system ffôn “wedi ei hawtomeiddio” yw system sy’n ateb galwadau ffôn ac yn arwain personau drwy drefn benodedig gyda neges wedi ei recordio sy’n gofyn, er enghraifft, i berson bwyso bysellau gwahanol er mwyn dewis opsiynau gwahanol.
24At ddibenion y safonau, nid yw “cyfarfodydd” yn cynnwys achosion cyfreithiol.
25Nid yw safon 15 yn gymwys pan wneir y neges y byddwch yn ei chyhoeddi dros system annerch gyhoeddus yn ystod argyfwng neu ymarfer argyfwng.
26Nid yw safon 17 yn gymwys i ddeunydd a arddangosir ar wefan corff.
27

(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fo safon yn cyfeirio at ddeunydd sydd i’w lunio yn Gymraeg, mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)maint y deunydd;

(c)lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;

(ch)pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)fformat cyhoeddi deunydd.

(2Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg os nad yw’n anfon, yn arddangos neu’n cylchredeg deunydd Cymraeg y tu allan i Gymru.

28

(1Nid yw safon 19 yn gymwys i’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (2).

(2Y ffurflenni yw—

(a)ffurflenni a ddefnyddir gan gorff i recriwtio cyflogeion;

(b)ffurflenni a ddefnyddir pan gyflwynir tendr i ymrwymo i gontract â chorff.

29At ddibenion safon 21, nid yw cyfeiriadau at ddogfennau neu ddeunyddiau eraill sydd ar gael i unigolion yn cynnwys dogfennau neu ddeunyddiau nad ydynt ond ar gael yn rhinwedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(5).
30Nid yw safon 21 yn gymwys i ddogfen a lunnir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer rhai sydd wedi cofrestru.
31

Nid yw safonau 21 a 22 yn gymwys i—

(a)

deddfiad a wneir gan gorff neu i ddeddfiad drafft a lunnir gan gorff; neu

(b)

unrhyw ddeunydd hysbysebu a gynhwysir mewn dogfen, llyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn.

32At ddibenion y safonau hyn, ystyr “achos cyfreithiol” yw achos cyfreithiol mewn perthynas ag un sydd wedi cofrestru.
33At ddibenion safonau 25 a 26, mae corff yn cysylltu ag un sydd wedi cofrestru am y tro cyntaf pan fydd yn cysylltu â’r un sydd wedi cofrestru am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon.
34At ddibenion safonau 30 ac 31, mae un sydd wedi cofrestru yn cysylltu â chorff am y tro cyntaf pan fydd yr un sydd wedi cofrestru yn cysylltu â’r corff am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon.
35

Nid yw safonau 33 i 34 (gwefannau) yn gymwys i—

(a)

dogfennau y darperir dolen iddynt ar wefan, deunydd hysbysebu ar wefan, na chlipiau fideo a sain ar wefan (gweler safonau 21 a 22 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 16 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)

gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar wefan corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau neu ar fforwm trafod).

36Nid yw safonau 1 i 4 (gohebu) yn gymwys i ohebiaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safon 35 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).
37

Nid yw safonau 35 ac 36 (y cyfryngau cymdeithasol) yn gymwys i—

(a)

dogfennau y darperir dolen iddynt drwy’r cyfryngau cymdeithasol, nac i glipiau fideo a sain a ddarperir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 21 a 22 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 16 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);

(b)

gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau).

38At ddibenion safonau 37 a 38, nid yw “hysbysiad” yn cynnwys hysbysiadau a ragnodir gan ddeddfiad.
39

(1At ddibenion safon 41, mae’r cyfeiriad at gorff yn llunio neu’n cyflwyno ei “hunaniaeth gorfforaethol” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y ffordd y mae corff yn ei gyflwyno ei hun drwy ddatganiadau gweledol, yr enw neu’r enwau a ddefnyddir gan gorff, a’r brandio a’r sloganau a ddefnyddir gan gorff (er enghraifft, brandio a sloganau a argraffir ar ei bapur ysgrifennu).

(2Nid yw safon 41 yn gymwys i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ddefnyddio enw cyfreithiol.

Rheoliad 2(2)

ATODLEN 2Safonau llunio polisi

RHAN 1Y SAFONAU

1Safonau ynghylch ystyried effeithiau penderfyniadau polisi a wneir gan gorff ar y Gymraeg
Safon 42:

Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n diwygio polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un a yw’r rheini yn bositif neu’n andwyol), y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar—

(a)

cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 43:

Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n diwygio polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel y byddai’r penderfyniad polisi yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—

(a)

cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 44:

Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n diwygio polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel na fyddai’r penderfyniad polisi yn cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar—

(a)

cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 45:

Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen ystyried yr effeithiau (pa un a yw’r rheini yn bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi o dan ystyriaeth yn eu cael ar y canlynol, a cheisio barn ynghylch yr effeithiau hynny—

(a)

cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 46:

Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen ystyried sut y gellid llunio neu ddiwygio’r polisi o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar y canlynol, a cheisio barn ynghylch hynny—

(a)

cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 47:

Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen ystyried sut y gellid llunio neu ddiwygio’r polisi o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar y canlynol, a cheisio barn ynghylch hynny—

(a)

cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 48:

Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir iddo eich cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried pa effeithiau, os o gwbl (a pha un a yw’r rheini yn bositif neu’n andwyol), y byddai’r penderfyniad polisi o dan ystyriaeth yn eu cael ar—

(a)

cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 49:

Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir iddo eich cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—

(a)

cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 50:

Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir iddo eich cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar—

(a)

cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(b)

peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

RHAN 2DEHONGLI’R SAFONAU

2

Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, ystyr “penderfyniad polisi” yw unrhyw benderfyniad a wneir gan gorff sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau neu gynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall, ac mae’n cynnwys, ymysg pethau eraill (ac fel y bo’n briodol i’r corff), benderfyniadau ynghylch—

(a)

cynnwys deddfwriaeth;

(b)

arfer pwerau statudol;

(c)

cynnwys datganiadau polisi;

(ch)

strategaethau neu gynlluniau strategol;

(d)

strwythurau mewnol a lleoliadau swyddfeydd.

3Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, mae cyfeiriad at effeithiau positif neu effeithiau andwyol yn gyfeiriad at yr effeithiau hynny pa un a ydynt yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Rheoliad 2(3)

ATODLEN 3Safonau gweithredu

RHAN 1Y SAFONAU

1Safonau ynghylch corff yn meithrin sgiliau yn y Gymraeg drwy gynllunio a hyfforddi ei weithlu
Safon 51:Rhaid ichi asesu sgiliau Cymraeg eich cyflogeion.
Safon 52:

Rhaid ichi ddarparu cyrsiau hyfforddi er mwyn i’ch cyflogeion ddatblygu—

(a)

ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth o’i hanes a’i rôl yn niwylliant Cymru);

(b)

dealltwriaeth o’r ddyletswydd i weithredu yn unol â safonau’r Gymraeg;

(c)

dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Safon 53:Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth i gyflogeion newydd (er enghraifft, drwy broses ymsefydlu), rhaid ichi ddarparu gwybodaeth at ddiben codi eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg.
Safon 54:Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd yn ystod oriau gwaith i’ch cyflogeion i gael gwersi Cymraeg sylfaenol.
Safon 55:Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd i’ch cyflogeion, sydd wedi cwblhau hyfforddiant Cymraeg sylfaenol i gael hyfforddiant pellach, yn rhad ac am ddim, er mwyn datblygu eu sgiliau yn yr iaith.
Safon 56:Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd i gyflogeion i gael hyfforddiant, yn rhad ac am ddim, i wella eu sgiliau Cymraeg.
2Safonau ynghylch corff yn recriwtio ac yn penodi
Safon 57:

Pan fyddwch yn asesu’r gofynion ar gyfer swydd newydd neu swydd wag, rhaid ichi asesu’r angen am sgiliau yn y Gymraeg, a’i chategoreiddio fel swydd pan fo un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—

(a)

bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol;

(b)

bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir rhywun i’r swydd;

(c)

bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu

(ch)

nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.

Safon 57A:

Pan fyddwch yn hysbysebu swydd yr ydych wedi ei chategoreiddio fel un sy’n gofyn bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol, yn ddymunol neu fod angen eu dysgu, rhaid ichi—

(a)

pennu hynny yn yr hysbysiad, a

(b)

hysbysebu’r swydd yn Gymraeg.

Safon 58:

Pan fyddwch yn hysbysebu swydd—

(a)

sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru,

(b)

y mae ei dyletswyddau yn ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â Chymru, neu

(c)

yr ydych wedi ei chategoreiddio fel un sy’n gofyn bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol,

rhaid ichi ddatgan y caniateir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac na fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Safon 58A:

Os byddwch yn cyhoeddi ffurflen gais am swydd—

(a)

sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru,

(b)

y mae ei dyletswyddau yn ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â Chymru, neu

(c)

yr ydych wedi ei chategoreiddio fel un sy’n gofyn bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol,

rhaid ichi ei chyhoeddi yn Gymraeg a sicrhau nad yw’r fersiwn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.

Safon 58B:Rhaid ichi beidio â thrin cais am swydd a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg materion eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau yr ydych yn ei osod ar gyfer cael ceisiadau ac mewn perthynas ag unrhyw amserlen ar gyfer hysbysu ymgeiswyr am benderfyniadau).
Safon 59:

Rhaid ichi sicrhau bod eich ffurflen gais am swydd—

(a)

sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru,

(b)

y mae ei dyletswyddau yn ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â Chymru, neu

(c)

yr ydych wedi ei chategoreiddio fel un sy’n gofyn bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol,

yn rhoi lle i’r ymgeisydd nodi ei fod yn dymuno i gyfweliad neu ddull arall o asesiad gael ei gynnal yn Gymraeg ac os yw ymgeisydd yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal unrhyw gyfweliad neu ddull arall o asesiad yn Gymraeg, neu, os oes angen, ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw.

RHAN 2SAFONAU SY’N DDIBYNNOL AR SAFONAU ERAILL – AMODAU ARBENNIG

3Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y mae Comisiynydd y Gymraeg yn ystyried ei fod yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2.

TABL 1

Colofn 1Colofn 2
RhesPrif safonSafon ddibynnol
(1)Recriwtio a phenodi

Safon 57

Safon 57A
(2)Recriwtio a phenodi
Safon 58

Safon 58A

Safon 58B

RHAN 3DEHONGLI’R SAFONAU

4Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
5

At ddibenion safonau 57 a 57A yn unig—

(a)

mae “swydd” yn cynnwys penodiad cyhoeddus;

(b)

ystyr “penodiad cyhoeddus” yw unrhyw benodiad i gorff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus.

6At ddibenion safon 57A nid yw’r gofyniad i hysbysebu swydd yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid llunio’r hysbyseb, ei hanfon, ei chyhoeddi, ei harddangos, ei rhoi ar gael neu ei dyroddi.
7

At ddiben safon 58A mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—

(a)

golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);

(b)

maint y deunydd;

(c)

lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw ardal gyhoeddus;

(ch)

pryd a sut y caiff deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;

(d)

fformat cyhoeddi deunydd.

Rheoliad 2(4)

ATODLEN 4Safonau Cadw Cofnodion

RHAN 1Y SAFONAU

1Safonau ynghylch corff yn cadw cofnodion
Safon 60:Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion yr ydych yn eu cael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau.
Safon 61:Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
Safon 62:Rhaid ichi gadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau Cymraeg eich cyflogeion a wnaed yn unol â safon 51) o nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a, phan fo hynny’n wybyddus ichi, rhaid ichi gadw cofnod o lefel sgiliau’r cyflogeion hynny.
Safon 63:

Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 57) fel swyddi sy’n gofyn—

(a)

bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol;

(b)

bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir rhywun i’r swydd;

(c)

bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu

(ch)

nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.

RHAN 2DEHONGLI’R SAFONAU

2Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
3At ddibenion safonau 60, 62 a 63, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun.

Rheoliad 2(5)

ATODLEN 5Safonau sy’n ymdrin â Materion Atodol

RHAN 1Y SAFONAU

1Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau
Safon 64:Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael ar eich gwefan.
2Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno
Safon 65:

Rhaid ichi—

(a)

sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a

(b)

cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan.

3Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau
Safon 66:

(1Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.

(2Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn (pan fo’n berthnasol, i’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau y cyfeirir atynt)—

(a)nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn o dan sylw a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy (ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 60);

(b)nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd y flwyddyn o dan sylw (ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 62);

(c)nifer (ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 63) y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gennych yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn—

(i)bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol;

(ii)bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir rhywun i’r swydd;

(iii)bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu

(iv)nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.

(3Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael ar eich gwefan.

4Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
Safon 67:Rhaid ichi ddarparu i Gomisiynydd y Gymraeg (os bydd yn gofyn amdani) unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau, y safonau llunio polisi neu’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

RHAN 2DEHONGLI’R SAFONAU

5Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
6At ddiben safon 66, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun.
7At ddiben y safonau, nid yw gofyniad i lunio neu gyhoeddi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid llunio neu gyhoeddi’r deunydd hwnnw yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny yn cael ei ddatgan yn benodol yn y safon).

Rheoliad 3

ATODLEN 6

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“Mesur 2011”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (“safonau”). Mae’r rhain yn disodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg y darperir ar eu cyfer yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38).

Mae adran 26 o Fesur 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, ac mae adran 39 yn eu galluogi i ddarparu bod safon yn benodol gymwys i berson drwy awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) i roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safon (“hysbysiad cydymffurfio”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad y cyrff a restrir yn Atodlen 6 i’r Rheoliadau. Y cyrff a restrir yw:

Ymysg pethau eraill, caiff y cyrff hyn (ar wahân i’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol) wneud penderfyniadau mewn cysylltiad ag achosion cyfreithiol a ddygir ger eu bron. Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gwneud darpariaeth ynghylch siarad Cymraeg mewn achosion cyfreithiol yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn awdurdodi’r Comisiynydd (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a nodir yn rheoliad 3(2)) i roi hysbysiad cydymffurfio i’r cyrff hynny, mewn perthynas â safonau a bennir gan y Rheoliadau.

Yn unol ag adran 44 o Fesur 2011, caiff y Comisiynydd (drwy hysbysiad cydymffurfio) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau sy’n benodol gymwys iddo. I adlewyrchu hynny, mae’r safonau a bennir gan y Rheoliadau wedi eu geirio ar ffurf naratif ail berson, hynny yw ar ffurf “rhaid ichi” (ac ystyr “chi” yw’r corff perthnasol ym mhob achos).

Gan ddefnyddio’r hyblygrwydd a ddarperir gan adran 44 o Fesur 2011, caiff y Comisiynydd (os yw hynny’n rhesymol ac yn gymesur a’i fod yn dymuno gwneud hynny) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un safon o dan rai amgylchiadau, a safon arall o dan amgylchiadau eraill. Er enghraifft, os yw safon yn benodol gymwys i gorff, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon o dan rai amgylchiadau, ond nid o dan amgylchiadau eraill, neu ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon mewn rhai ardaloedd yn unig. Yn yr un modd os yw dwy neu ragor o safonau yn ymwneud ag ymddygiad penodol (er enghraifft, safonau 10 i 13 mewn perthynas â chyfarfodydd), caiff y Comisiynydd (drwy hysbysiad cydymffurfio) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau hynny yn unig, neu â safonau gwahanol ar adegau gwahanol, o dan amgylchiadau gwahanol, neu mewn ardaloedd gwahanol, fel sy’n briodol i’r corff. Nid oes rheidrwydd ar y Comisiynydd felly i’w gwneud yn ofynnol i bob corff gydymffurfio â phob safon.

Yn unol ag adran 46 o Fesur 2011, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio a roddir i gorff ddatgan y diwrnod gosod, neu’r diwrnodau gosod; hynny yw, y diwrnod neu’r diwrnodau y daw’n ofynnol i’r corff gydymffurfio â safon (neu gydymffurfio â safon mewn modd penodol). Gan ddefnyddio’r hyblygrwydd y darperir ar ei gyfer gan adran 46, caiff y Comisiynydd osod diwrnod gosod cynnar i gorff gydymffurfio â safon (cyn belled â bod hynny o leiaf 6 mis ar ôl dyddiad rhoi’r hysbysiad cydymffurfio cysylltiedig i’r corff), neu osod diwrnod gosod ymhellach i’r dyfodol (er enghraifft mewn perthynas â safonau sy’n fwy heriol).

Pan fo safon a bennir yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeunydd ysgrifenedig gael ei arddangos neu ei ddarparu yn Gymraeg, neu i wasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg, nid yw hyn yn golygu bod rhaid arddangos neu ddarparu’r deunydd yn Gymraeg yn unig, na bod rhaid i’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg yn unig (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol).

Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau. Mae adran 28 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon cyflenwi gwasanaethau” yw safon sy’n ymwneud â gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau, ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio’r Gymraeg, neu weithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, pan gyflawnir y gweithgaredd hwnnw. Ystyr “gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau” yw bod person yn cyflenwi gwasanaethau i berson arall, neu yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau i’r person hwnnw neu i drydydd person.

Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau yn pennu safonau llunio polisi. Mae adran 29 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon llunio polisi” yw safon sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi ac y bwriedir iddi sicrhau, neu gyfrannu at sicrhau, bod y person sy’n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried un neu ragor o’r canlynol—

(a)pa effeithiau, os o gwbl, (pa un a yw’r rheini yn bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;

(b)sut y gellid gwneud y penderfyniad fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;

(c)sut y gellid gwneud y penderfyniad fel nad yw’r penderfyniad yn cael effeithiau andwyol, neu fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau llai andwyol, ar gyfleoedd i bersonau eraill ddefnyddio’r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Mae Atodlen 3 i’r Rheoliadau yn pennu safonau gweithredu. Mae adran 30 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon gweithredu” yw safon sy’n ymwneud â swyddogaethau, neu fusnes neu ymgymeriad arall (“gweithgareddau perthnasol”) person (“A”), ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio’r Gymraeg—

(a)gan A wrth i A gyflawni ei weithgareddau perthnasol,

(b)gan A a pherson arall wrth iddynt ddelio â’i gilydd mewn cysylltiad â gweithgareddau perthnasol A, neu

(c)gan berson ac eithrio A wrth iddo gyflawni gweithgareddau at ddibenion gweithgareddau perthnasol A neu mewn cysylltiad â hwy.

Mae Atodlen 4 i’r Rheoliadau yn pennu safonau cadw cofnodion. Mae adran 32 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon cadw cofnodion” yw safon sy’n ymwneud â chadw cofnodion ynghylch safonau penodedig eraill, cofnodion ynghylch cwynion sy’n ymwneud â chydymffurfedd â safonau penodedig eraill, neu gofnodion ynghylch cwynion eraill sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

Mae Atodlen 5 i’r Rheoliadau yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion atodol. Mae’r rhain yn fathau penodol o safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisi, safonau gweithredu a safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â’r materion y cyfeirir atynt yn adran 27(4) o Fesur 2011 (sy’n atodol i’r materion yr ymdrinnir â hwy yn Atodlenni 1 i 4).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Uned y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Mae adran 22 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38) yn gwneud darpariaeth ynghylch siarad Cymraeg mewn achosion cyfreithiol yng Nghymru.