2022 Rhif 781 (Cy. 170)

Tai, Cymru

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 236(3) a 256(1) a (2)1 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 20162 a pharagraff 15(2) o Atodlen 12 iddi.

Enwi a chychwynI11

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar F11 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym) .

DehongliI2F22

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “annedd” (“dwelling”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 2465);

  • mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” gan adran 1(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19926;

  • mae i “categori o anheddau” yr ystyr a roddir i “category of dwellings” gan adran 30(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19927;

  • mae i “contract wedi ei drosi perthnasol” (“relevant converted contract”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 15(3)8 o Atodlen 12 i’r Ddeddf);

  • ystyr “deiliad contract perthnasol” (“relevant contract-holder”) yw deiliad contract (y mae iddo’r ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 7(5)) o dan gontract wedi ei drosi perthnasol;

  • mae i “y diwrnod penodedig” (“appointed day”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 242);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;

  • ystyr “gwelliant perthnasol” (“relevant improvement”) yw gwelliant—

    1. a

      a wnaed yn ystod y contract wedi ei drosi perthnasol y mae’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf yn gymwys iddo, neu

    2. b

      sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—

      1. i

        cafodd y gwelliant ei wneud heb fod yn fwy nag un ar hugain o flynyddoedd cyn dyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf,

      2. ii

        ar bob adeg yn ystod y cyfnod gan ddechrau pan gafodd y gwelliant ei wneud a chan ddod i ben ar ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, mae’r annedd wedi ei gosod o dan gontract wedi ei drosi perthnasol, tenantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr, a

      3. iii

        pan ddaw tenantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr i ben, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw, nid ymadawodd y tenant na’r trwyddedai (neu, yn achos cyd-denantiaid neu gyd-drwyddedeion, o leiaf un ohonynt);

  • mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

  • mae i “landlord” (“landlord”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 244(2));

  • mae i “meddiannaeth amaethyddol sicr” (“assured agricultural occupancy”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 19 o Atodlen 12 i’r Ddeddf);

  • ystyr “pwyllgor asesu rhenti” (“rent assessment committee”) yw pwyllgor asesu rhenti a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 197710;

  • nid yw “rhent” (“rent”) yn cynnwys—

    1. a

      unrhyw dâl gwasanaeth o fewn ystyr adran 18 o Ddeddf Landlord a Thenant 198511, na

    2. b

      unrhyw daliadau a waherddir o dan adran 4 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019,

    ond, yn ddarostyngedig i hynny, mae’n cynnwys unrhyw symiau sy’n daladwy gan y deiliad contract perthnasol i’r landlord am ddefnyddio dodrefn, mewn cysylltiad â’r dreth gyngor neu ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn adran 18(1)(a) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, pa un a yw’r symiau hynny ar wahân i’r symiau sy’n daladwy am feddiannu’r annedd o dan sylw neu’n daladwy o dan gytundebau ar wahân ai peidio;

  • mae i “tenantiaeth sicr” (“assured tenancy”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 242).

Cais i bwyllgor asesu rhentiI33

1

Ar ôl cael hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, caiff deiliad contract perthnasol wneud cais i bwyllgor asesu rhenti bennu’r rhent ar gyfer yr annedd.

2

Rhaid i’r cais i bwyllgor asesu rhenti gael ei wneud—

a

ar y ffurf ragnodedig, a

b

o fewn 2 fis ar ôl cael yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf.

3

Mae’r ffurf ragnodedig fel y’i nodir yn yr Atodlen.

4

Mae cais sydd ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg i’r ffurf ragnodedig yn ddilys.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13), gweler Rheoliadau

Penderfyniad ar rent gan bwyllgor asesu rhentiI44

Rhaid i bwyllgor asesu rhenti benderfynu ar bob cais a wneir o dan reoliad 3 yn unol â’r rhagdybiaethau a nodir yn rheoliad 6.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13), gweler Rheoliadau

Amrywio rhent yn sgil penderfyniad gan bwyllgor asesu rhentiI55

Rhent a bennir gan bwyllgor asesu rhenti, yn unol â’r rhagdybiaethau a nodir yn rheoliad 6, fydd y rhent ar gyfer yr annedd o dan y contract wedi ei drosi perthnasol gydag effaith o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, oni bai bod y landlord a’r deiliad contract perthnasol yn cytuno fel arall.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13), gweler Rheoliadau

Rhagdybiaethau y mae rhaid i bwyllgor asesu rhenti bennu rhent yn unol â hwyI66

Wrth bennu rhent ar gyfer annedd o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i bwyllgor asesu rhenti bennu’r rhent y mae’n ystyried y gallai fod disgwyl i’r annedd dan sylw F3gael ei gosod amdano ar y farchnad agored gan landlord parod o dan F5gontract meddiannaeth o’r un math â’r contract wedi ei drosi perthnasol y mae’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf yn F4ymwneud ag ef, gan ragdybio—

a

bod y contract F6meddiannaeth yn dechrau ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf,

b

nad yw rhoi contract i ddeiliad contract cyfredol yn cael dim effaith ar y rhent,

c

nad yw unrhyw gynnydd yng ngwerth yr annedd y gellir ei briodoli i welliant perthnasol a wnaed gan berson a oedd y F7tenant neu’r trwyddedai, neu’r deiliad contract perthnasol ar yr adeg y’i gwnaed yn cael dim effaith ar y rhent, os gwnaed y gwelliant—

i

ac eithrio yn unol â rhwymedigaeth i’r landlord uniongyrchol, neu

ii

yn unol â rhwymedigaeth i’r landlord uniongyrchol nad yw’n rhwymedigaeth a oedd yn ymwneud â’r gwelliant penodol o dan sylw ond a gododd drwy gyfeirio at gydsyniad a roddwyd i wneud y gwelliant hwnnw,

d

nad yw unrhyw ostyngiad yng ngwerth yr annedd y gellir ei briodoli i fethiant gan y F8... deiliad contract perthnasol i gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o delerau’r F9... contract wedi ei drosi perthnasol F10neu’r denantiaeth neu’r drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig yn cael dim effaith ar y rhent,

e

pan fo’r landlord neu uwchlandlord yn atebol i dalu’r dreth gyngor mewn cysylltiad â hereditament y mae’r annedd yn rhan ohono, o dan Ran 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fod swm y dreth gyngor a bennwyd gan yr awdurdod bilio, fel ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123—

i

ar gyfer y flwyddyn ariannol y cyflwynwyd yr hysbysiad ynddi, a

ii

ar gyfer y categori o anheddau yr oedd yr hereditament perthnasol yn perthyn iddo ar y dyddiad hwnnw,

yn cael effaith ar y rhent, ond nad yw unrhyw ddisgownt neu ostyngiad arall sy’n effeithio ar swm y dreth gyngor sy’n daladwy yn cael dim effaith ar y rhent, ac

f

nad yw’r landlord nac uwchlandlord yn talu ardrethi mewn cysylltiad â’r annedd.

Hysbysiad landlord a deiliad contract perthnasol i bwyllgor asesu rhentiI77

Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r pwyllgor asesu rhenti barhau i bennu rhent ar gyfer annedd o dan y contract wedi ei drosi perthnasol os yw’r landlord a’r deiliad contract perthnasol yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig nad oes angen penderfyniad o’r fath arnynt mwyach neu os yw’r contract wedi ei drosi perthnasol wedi dod i ben.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 7 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13), gweler Rheoliadau

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971I88

1

Mae Rheoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 197112 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2 (dehongli)13

a

yn y diffiniad o “reference”, ar ôl “Local Government and Housing Act 1989”, yn lle’r atalnod llawn rhodder “, or which is made under regulation 3 of the Renting Homes (Rent Determination) (Converted Contracts) (Wales) Regulations 202214.”;

b

yn y F13lleoedd priodol, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

  • dwelling” has the meaning given by section 246 of the Renting Homes (Wales) Act 201615;

  • relevant contract-holder” means a contract-holder (which has the meaning given by section 7(5) of the Renting Homes (Wales) Act 2016) under a relevant converted contract;

  • relevant converted contract” has the meaning given by paragraph 15(3)16 of Schedule 12 to the Renting Homes (Wales) Act 2016;

3

Yn rheoliad 2A (atgyfeiriadau Deddfau 1988 a 1989)17

a

yn lle’r pennawd, rhodder “References”;

b

ym mharagraff (1), ar ôl “Housing Act 1988;”, hepgorer “or”;

c

ym mharagraff (1), ar ôl “Local Government and Housing Act 1989”, yn yr ail le y mae’n digwydd, yn lle’r atalnod llawn rhodder—

; or

  • regulation 3 of the Renting Homes (Rent Determination) (Converted Contracts) (Wales) Regulations 202218.

4

Yn rheoliad 3(3)(c)19, ar ôl “tenant”, mewnosoder “ F14... or relevant contract-holder”.

5

Yn rheoliad 5(1)(b)20

F15a

yn lle “assured tenancies or assured agricultural occupancies”, rhodder “assured tenancies, assured agricultural occupancies or relevant converted contracts”,

b

ar ôl “dwelling-houses”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “or dwellings”.

6

Yn rheoliad 7—

a

yn y pennawd, ar ôl “dwelling-house”, mewnosoder “or dwelling”, a

b

ym mharagraff (1), ar ôl “dwelling-house”, mewnosoder “or dwelling”.

Julie JamesY Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

I9F16YR ATODLEN

Rheoliad 3

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13

included-document_r00001
included-document_r00002
included-document_r00003
included-document_r00004
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adrannau 104 a 123 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”) yn caniatáu i’r landlord o dan gontract diogel a chontract safonol cyfnodol, yn y drefn honno, amrywio’r rhent sy’n daladwy o dan y contract drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract yn nodi rhent newydd sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, fel sy’n ofynnol gan baragraff 15(2) o Atodlen 12 i’r Ddeddf, i alluogi deiliad contract o dan gontract wedi ei drosi perthnasol (fel y’i diffinnir gan baragraff 15(3) o Atodlen 12 i’r Ddeddf) i wneud cais i berson rhagnodedig bennu’r rhent ar gyfer yr annedd pan fo wedi cael hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf ac i’r rhent a bennir fod y rhent o dan y contract.

Mae rheoliad 3 yn darparu i ddeiliad contract o dan gontract wedi ei drosi perthnasol, sydd wedi cael hysbysiad o dan naill ai adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, wneud cais i bwyllgor asesu rhenti, a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977, bennu’r rhent ar gyfer yr annedd. Mae rheoliad 3 hefyd yn rhagnodi ffurf y cais i’r pwyllgor asesu rhenti, a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn. Mae cais sydd ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg yn ddilys.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i bwyllgor asesu rhenti benderfynu ar bob cais o’r fath yn unol â’r rhagdybiaethau a nodir yn rheoliad 6.

Mae rheoliad 5 yn darparu mai’r rhent a bennir gan bwyllgor asesu rhenti fydd y rhent ar gyfer yr annedd oni bai bod y landlord a deiliad y contract yn cytuno fel arall.

Mae rheoliad 6 yn nodi’r rhagdybiaethau y mae rhaid i’r pwyllgor asesu rhenti eu cymhwyso wrth bennu’r rhent ar gyfer yr annedd.

Mae rheoliad 7 yn caniatáu ar gyfer dod ag ymwneud pwyllgor asesu rhenti â chais i ben yn dilyn hysbysiad ysgrifenedig gan y landlord a deiliad y contract fel ei gilydd yn cadarnhau nad oes angen penderfyniad arnynt mwyach.

Mae rheoliad 8 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971 (O.S. 1971/1065), sy’n pennu’r weithdrefn i’w dilyn gan bwyllgor asesu rhenti wrth ystyried cais a wneir iddo o dan y Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.