http://www.legislation.gov.uk/wsi/2022/774/note/made/welsh
Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2022
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2022-07-08
ADEILADU AC ADEILADAU, CYMRU
Y Rheoliadau hyn yw’r rheoliadau cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (“y Ddeddf”). Maent yn dwyn i rym adran 48 o’r Ddeddf o ran Cymru.
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Y Rheoliadau hyn yw’r rheoliadau cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (“y Ddeddf”). Maent yn dwyn i rym adran 48 o’r Ddeddf o ran Cymru.
Mae adran 48 o’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau i adrannau 47 (rhoi a derbyn hysbysiad cychwynnol), 51A(2) (amrywio gwaith y mae’r hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef) a 56 (cofnodi a darparu gwybodaeth) o Ddeddf Adeiladu 1984. Effaith y diwygiadau hyn yw dileu gofynion yswiriant ar gyfer arolygwyr cymeradwy.