2022 Rhif 774 (Cy. 169) (C. 47)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2022

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 170(4)(b)(vi) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 20221.

Enwi1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2022.

Darpariaeth sy’n dod i rym ar 28 Gorffennaf 20222

Daw adran 48 (yswiriant: dileu gofynion) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i rym ar 28 Gorffennaf 2022.

Julie JamesY Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Y Rheoliadau hyn yw’r rheoliadau cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (“y Ddeddf”). Maent yn dwyn i rym adran 48 o’r Ddeddf o ran Cymru.

Mae adran 48 o’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau i adrannau 47 (rhoi a derbyn hysbysiad cychwynnol), 51A(2) (amrywio gwaith y mae’r hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef) a 56 (cofnodi a darparu gwybodaeth) o Ddeddf Adeiladu 1984. Effaith y diwygiadau hyn yw dileu gofynion yswiriant ar gyfer arolygwyr cymeradwy.

NODIADAU AM Y RHEOLIADAU CYCHWYN CYNHARACH

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Reoliadau Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Rheoliadau hyn.

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 132 (at ddibenion gwneud rheoliadau)

28 Mai 2022

2022/561

Adran 2(2) ac Atodlen 1

28 Mehefin 2022

2022/561

Adran 3 (yn gymwys yn Lloegr yn unig)

28 Mehefin 2022

2022/561

Adrannau 17 a 18 (yn gymwys yn Lloegr yn unig)

28 Mehefin 2022

2022/561

Adran 31 (i’r graddau y mae’n ymwneud ag adrannau 120D i 120H o Ddeddf Adeiladu 1984, adeiladau risg uwch: Lloegr)

28 Mehefin 2022

2022/561

Adran 41 (o ran Lloegr yn unig)

28 Mehefin 2022

2022/561

Adran 55 (yn rhannol ac o ran Lloegr yn unig)

28 Mehefin 2022

2022/561

Adran 57 (o ran Lloegr yn unig)

28 Mehefin 2022

2022/561

Adrannau 130 a 131

28 Mehefin 2022

2022/561

Adran 132 (at yr holl ddibenion sy’n weddill)

28 Mehefin 2022

2022/561

Adran 48 (o ran Lloegr yn unig)

28 Gorffennaf 2022

2022/561

Adran 160 (yn gymwys yn Lloegr yn unig)

1 Hydref 2022

2022/561