(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio:
(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (gweler Rhan 2 o’r Rheoliadau),
(b)Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (gweler Rhan 3 o’r Rheoliadau),
(c)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (gweler Rhan 4 o’r Rheoliadau),
(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (gweler Rhan 5 o’r Rheoliadau),
(e)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (gweler Rhan 6 o’r Rheoliadau),
(f)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (gweler Rhan 7 o’r Rheoliadau), ac
(g)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (gweler Rhan 8 o’r Rheoliadau).
Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ymwneud yn bennaf â gwladolion Wcreinaidd ac aelodau o’u teuluoedd y rhoddwyd caniatâd iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin, y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin neu sydd â chaniatâd y tu allan i’r rheolau mewnfudo mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia ar Wcráin (“gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir”).
Mae’r diwygiadau a wneir yn Rhan 2 o’r Rheoliadau yn darparu i wladolion Wcreinaidd a ddiogelir gael eu trin fel myfyrwyr cartref at ddiben Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 i ddarparu i’r terfyn ffioedd dysgu fod yn gymwys i wladolion Wcreinaidd a ddiogelir.
Mae Rhan 3 a Rhannau 5 i 8 yn diwygio’r Rheoliadau cymorth i fyfyrwyr a bennir drwy wneud gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr, ar yr amod eu bod yn bodloni’r holl ofynion eraill.
Mae Rhannau 5 a 6 hefyd yn gwneud diwygiadau i’r Rheoliadau cymorth i fyfyrwyr i ddileu’r cyfyngiad presennol sy’n atal myfyrwyr sy’n dysgu o bell rhag bod yn gymwys i gael grantiau ar gyfer dibynyddion.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.