2022 Rhif 764 (Cy. 166)
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o’u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 19831 ac adrannau 22(1)(a), 22(2)(a) a (d) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19982 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3 a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 20154, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
RHAN 1Enwi, cychwyn a chymhwyso
Enwi a chychwynI11
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o’u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.
I22
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Gorffennaf 2022.
CymhwysoI33
Mae’r Rheoliadau hyn y gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
CyflwyniadI44
Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 20075 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Diwygiadau i reoliadau 4 i 8I55
Yn rheoliad 4(1)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
I66
Yn rheoliad 5(1)—
a
yn is-baragraff (b)(i), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”;
b
yn is-baragraff (c)(i), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
I77
Yn rheoliad 6—
a
ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”;
b
ym mharagraff (3)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
I88
Yn rheoliad 7—
a
ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”;
b
ym mharagraff (3)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
I99
Yn rheoliad 8—
a
ym mharagraff (1)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”;
b
ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
Diwygiad i’r AtodlenI1010
Yn yr Atodlen—
a
ym mharagraff 1, yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
- a
o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
- b
y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
- i
pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
- ii
pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022;
b
ar ôl paragraff 4B mewnosoder—
4C
Person—
a
sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
b
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
c
sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
CyflwyniadI1111
Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 20146 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Diwygiad i reoliad 3I1212
Yn rheoliad 3(1), yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
- a
o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
- b
y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
- i
pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
- ii
pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022;
Diwygiad i reoliad 6I1313
Yn rheoliad 6—
a
ym mharagraff (2)(b)—
i
yn lle paragraff (i) rhodder—
i
ym mharagraffau 2, 2A, 3, 4, 4ZA, 4ZB, 4ZC, 5, 6A, 8A, 9A, 9B, 9BA, 9C, 9D, 10A, 11A a 12A o Ran 2 o Atodlen 1, neu
ii
yn lle paragraff (ii) rhodder—
ii
ym mharagraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 a 12 o Ran 2 o Atodlen 1, pan fo paragraff (2A) yn gymwys.
b
ar ôl paragraff (10F) mewnosoder—
10G
Pan fo—
a
Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
b
ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn dechrau, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi dod i ben ac nad oes unrhyw ganiatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei roi,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
Diwygiad i Atodlen 1I1414
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4ZB mewnosoder—
Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir4ZC
Person—
a
sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
b
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
c
sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
RHAN 4Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
CyflwyniadI1515
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 20157 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Diwygiad i reoliad 4I1616
Yn rheoliad 4(9)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
Diwygiadau i’r AtodlenI1717
Yn yr Atodlen—
a
ym mharagraff 1(1), yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
- a
o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
- b
y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
- i
pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
- ii
pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022
b
ar ôl paragraff 4B mewnosoder—
Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir4C
Person—
a
sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
b
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
c
sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
RHAN 5Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
CyflwyniadI1818
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20178 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Diwygiad i reoliad 2I1919
Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
- a
o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
- b
y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
- i
pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
- ii
pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022;
Diwygiad i reoliad 4I2020
Yn rheoliad 4—
a
ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4ZB,” mewnosoder “4ZC,”;
b
ar ôl paragraff (10E) mewnosoder—
10F
Os bydd—
a
Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir—
i
yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs presennol; neu
ii
yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a
b
ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi terfynu, ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi,
bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
Diwygiad i reoliad 15I2121
Yn rheoliad 15, ar ôl paragraff (bb) mewnosoder—
bc
bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
Diwygiad i reoliad 23I2222
Yn rheoliad 23—
a
ym mharagraff (12), ar ôl is-baragraff (bb) mewnosoder—
bc
bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
b
hepgorer paragraff (17).
Diwygiad i reoliad 26I2323
Yn rheoliad 26(1), ar ôl “ar gwrs dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
Diwygiad i reoliad 27I2424
Yn rheoliad 27(1), ar ôl “ar gwrs dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
Diwygiad i reoliad 28I2525
Yn rheoliad 28(1), ar ôl “ar gwrs dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
Diwygiad i reoliad 49I2626
Yn rheoliad 49(2), ar ôl is-baragraff (bb) mewnosoder—
bc
bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
Diwygiad i reoliadau 81 a 82I2727
Yn rheoliad 81—
a
ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4ZB,” mewnosoder “4ZC,”;
b
ar ôl paragraff (10E) mewnosoder—
10F
Os bydd—
a
Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a
b
ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi,
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
I2828
Yn rheoliad 82(4), ar ôl is-baragraff (bb) mewnosoder—
bc
bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
Diwygiad i reoliad 91I2929
Yn rheoliad 91(1), ar ôl “ar gwrs rhan-amser dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
Diwygiad i reoliad 92I3030
Yn rheoliad 92(1), ar ôl “ar gwrs rhan-amser dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
Diwygiad i reoliad 93I3131
Yn rheoliad 93(1), ar ôl “ar gwrs rhan-amser dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
Diwygiad i reoliadau 110 a 111
I3232
Yn rheoliad 110—
a
ym mharagraff (3)(a)(i), ar ôl “4ZB,” mewnosoder “4ZC,”;
b
ar ôl paragraff (12E) mewnosoder—
12F
Os bydd—
a
Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-radd cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a
b
ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi,
bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
I3333
Ar ôl rheoliad 111(2)(bb) mewnosoder—
bc
y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
Diwygiad i Atodlen 1I3434
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4ZB mewnosoder—
Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir4ZC
Person—
a
sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
b
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
c
sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Diwygiad i Atodlen 4I3535
Yn Atodlen 4, paragraff 6, ar ôl is-baragraff (ab) mewnosoder—
ac
bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
CyflwyniadI3636
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20189 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Diwygiad i reoliad 9I3737
Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “2ZB,” mewnosoder “2ZC,”.
Diwygiad i reoliad 12I3838
Yn rheoliad 12(1), yn lle “23E neu 23F” rhodder “23E, 23F neu 23G”.
Mewnosod rheoliad newydd 23GI3939
Ar ôl rheoliad 23F mewnosoder—
23G
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
a
pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys oherwydd ei fod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZC) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
i
ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
ii
ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
iii
ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
b
pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.
2
Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
Diwygiad i reoliad 69I4040
Yn rheoliad 69, ym mharagraff (2), hepgorer Eithriad 5.
Diwygiad i reoliad 80I4141
Yn rheoliad 80—
a
ym mharagraff (2)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—
id
bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
b
ym mharagraff (3), yn y lle priodol mewnosoder ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”);”.
Diwygiad i reoliad 81I4242
Yn rheoliad 81(3)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—
id
bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
Diwygiad i Atodlen 2I4343
Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2ZB mewnosoder—
Categori 2ZC – Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir2ZC
1
Person—
a
sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,
b
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, ac
c
sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
2
Yn y paragraff hwn, ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
a
o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
b
y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
i
pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
ii
pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.
Diwygiad i Atodlen 4I4444
Yn Atodlen 4—
a
ym mharagraff 4(1)(a)(i), ar ôl “2ZB,” mewnosoder “2ZC,”;
b
ar ôl paragraff 13F mewnosoder—
13G
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZC) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
i
ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
ii
mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
b
pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
c
ym mharagraff 14—
i
yn is-baragraff (3)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—
id
bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
ii
yn is-baragraff (4), yn y lle priodol mewnosoder ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”);”.
Diwygiad i Atodlen 7I4545
Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
“gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir”
Atodlen 2, paragraff 2ZC(2)
RHAN 7Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
CyflwyniadI4646
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 201810 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Diwygiadau i reoliadau 2, 3 ac 8I4747
Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
- a
o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
- b
y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
- i
pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
- ii
pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022;
I4848
Yn rheoliad 3(2)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
I4949
Yn rheoliad 8, ar ôl paragraff (bc) mewnosoder—
bd
bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
Diwygiad i Atodlen 1I5050
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4B mewnosoder—
Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir4C
Person—
a
sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
b
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
c
sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
RHAN 8Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
CyflwyniadI5151
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 201911 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Diwygiadau i reoliadau 9 ac 16I5252
Yn rheoliad 9(1)(a)(i) ar ôl “2B,” mewnosoder “2C,”.
I5353
Yn rheoliad 16—
a
ym mharagraff (1)(b), ar ôl paragraff (ia) mewnosoder—
ib
bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
b
ym mharagraff (2), yn y lle priodol mewnosoder ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”);”.
Diwygiad i Atodlen 2I5454
Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2B mewnosoder—
Categori 2C – Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir2C
1
Person—
a
sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,
b
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, ac
c
sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
2
Yn y paragraff hwn, ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
a
o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo, neu
b
y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
i
pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022, a
ii
pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.
Diwygiad i Atodlen 4I5555
Yn Atodlen 4, yn Nhabl 3, yn y lle priodol mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
“gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir”
Atodlen 2, paragraff 2C(2)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)