Offerynnau Statudol Cymru
2022 Rhif 764 (Cy. 166)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o’u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022
Gwnaed
5 Gorffennaf 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
7 Gorffennaf 2022
Yn dod i rym
24 Gorffennaf 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983(1) ac adrannau 22(1)(a), 22(2)(a) a (d) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3) a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(4), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
RHAN 1LL+CEnwi, cychwyn a chymhwyso
Enwi a chychwynLL+C
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o’u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
2. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Gorffennaf 2022.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
CymhwysoLL+C
3. Mae’r Rheoliadau hyn y gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
RHAN 2LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
CyflwyniadLL+C
4. Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(5) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiadau i reoliadau 4 i 8LL+C
5. Yn rheoliad 4(1)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
6. Yn rheoliad 5(1)—LL+C
(a)yn is-baragraff (b)(i), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”;
(b)yn is-baragraff (c)(i), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
7. Yn rheoliad 6—LL+C
(a)ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”;
(b)ym mharagraff (3)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
8. Yn rheoliad 7—LL+C
(a)ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”;
(b)ym mharagraff (3)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
9. Yn rheoliad 8—LL+C
(a)ym mharagraff (1)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”;
(b)ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i’r AtodlenLL+C
10. Yn yr Atodlen—
(a)ym mharagraff 1, yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022;”;
(b)ar ôl paragraff 4B mewnosoder—
“4C. Person—
(a)sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
RHAN 3LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
CyflwyniadLL+C
11. Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(6) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 3LL+C
12. Yn rheoliad 3(1), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 6LL+C
13. Yn rheoliad 6—
(a)ym mharagraff (2)(b)—
(i)yn lle paragraff (i) rhodder—
“(i)ym mharagraffau 2, 2A, 3, 4, 4ZA, 4ZB, 4ZC, 5, 6A, 8A, 9A, 9B, 9BA, 9C, 9D, 10A, 11A a 12A o Ran 2 o Atodlen 1, neu”;
(ii)yn lle paragraff (ii) rhodder—
“(ii)ym mharagraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 a 12 o Ran 2 o Atodlen 1, pan fo paragraff (2A) yn gymwys.”;
(b)ar ôl paragraff (10F) mewnosoder—
“(10G) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
(b)ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn dechrau, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi dod i ben ac nad oes unrhyw ganiatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei roi,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i Atodlen 1LL+C
14. Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4ZB mewnosoder—
“Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir
4ZC. Person—
(a)sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
RHAN 4LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
CyflwyniadLL+C
15. Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(7) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 4LL+C
16. Yn rheoliad 4(9)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 16 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiadau i’r AtodlenLL+C
17. Yn yr Atodlen—
(a)ym mharagraff 1(1), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022”;
(b)ar ôl paragraff 4B mewnosoder—
“Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir
4C. Person—
(a)sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 17 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
RHAN 5LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
CyflwyniadLL+C
18. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(8) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 18 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 2LL+C
19. Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 19 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 4LL+C
20. Yn rheoliad 4—
(a)ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4ZB,” mewnosoder “4ZC,”;
(b)ar ôl paragraff (10E) mewnosoder—
“(10F) Os bydd—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir—
(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs presennol; neu
(ii)yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a
(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi terfynu, ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi,
bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 20 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 15LL+C
21. Yn rheoliad 15, ar ôl paragraff (bb) mewnosoder—
“(bc)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Rhl. 21 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 23LL+C
22. Yn rheoliad 23—
(a)ym mharagraff (12), ar ôl is-baragraff (bb) mewnosoder—
“(bc)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”;
(b)hepgorer paragraff (17).
Gwybodaeth Cychwyn
I22Rhl. 22 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 26LL+C
23. Yn rheoliad 26(1), ar ôl “ar gwrs dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Rhl. 23 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 27LL+C
24. Yn rheoliad 27(1), ar ôl “ar gwrs dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Rhl. 24 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 28LL+C
25. Yn rheoliad 28(1), ar ôl “ar gwrs dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Rhl. 25 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 49LL+C
26. Yn rheoliad 49(2), ar ôl is-baragraff (bb) mewnosoder—
“(bc)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Rhl. 26 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliadau 81 a 82LL+C
27. Yn rheoliad 81—
(a)ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4ZB,” mewnosoder “4ZC,”;
(b)ar ôl paragraff (10E) mewnosoder—
“(10F) Os bydd—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a
(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi,
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”
Gwybodaeth Cychwyn
I27Rhl. 27 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
28. Yn rheoliad 82(4), ar ôl is-baragraff (bb) mewnosoder—LL+C
“(bc)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Rhl. 28 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 91LL+C
29. Yn rheoliad 91(1), ar ôl “ar gwrs rhan-amser dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Rhl. 29 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 92LL+C
30. Yn rheoliad 92(1), ar ôl “ar gwrs rhan-amser dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Rhl. 30 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 93LL+C
31. Yn rheoliad 93(1), ar ôl “ar gwrs rhan-amser dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Rhl. 31 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliadau 110 a 111LL+C
32. Yn rheoliad 110—
(a)ym mharagraff (3)(a)(i), ar ôl “4ZB,” mewnosoder “4ZC,”;
(b)ar ôl paragraff (12E) mewnosoder—
“(12F) Os bydd—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-radd cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a
(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi,
bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”
Gwybodaeth Cychwyn
I32Rhl. 32 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
33. Ar ôl rheoliad 111(2)(bb) mewnosoder—
“(bc)y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Rhl. 33 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i Atodlen 1LL+C
34. Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4ZB mewnosoder—
“Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir
4ZC. Person—
(a)sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
Gwybodaeth Cychwyn
I34Rhl. 34 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i Atodlen 4LL+C
35. Yn Atodlen 4, paragraff 6, ar ôl is-baragraff (ab) mewnosoder—
“(ac)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Rhl. 35 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
RHAN 6LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
CyflwyniadLL+C
36. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(9) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Rhl. 36 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 9LL+C
37. Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “2ZB,” mewnosoder “2ZC,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Rhl. 37 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 12LL+C
38. Yn rheoliad 12(1), yn lle “23E neu 23F” rhodder “23E, 23F neu 23G”.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Rhl. 38 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Mewnosod rheoliad newydd 23GLL+C
39. Ar ôl rheoliad 23F mewnosoder—
“23G.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys oherwydd ei fod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZC) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
Gwybodaeth Cychwyn
I39Rhl. 39 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 69LL+C
40. Yn rheoliad 69, ym mharagraff (2), hepgorer Eithriad 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Rhl. 40 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 80LL+C
41. Yn rheoliad 80—
(a)ym mharagraff (2)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—
“(id)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”;
(b)ym mharagraff (3), yn y lle priodol mewnosoder ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”);”.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Rhl. 41 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i reoliad 81LL+C
42. Yn rheoliad 81(3)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—
“(id)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I42Rhl. 42 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i Atodlen 2LL+C
43. Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2ZB mewnosoder—
“Categori 2ZC – Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir
2ZC.—(1) Person—
(a)sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
(a)o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
(b)y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
(i)pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
(ii)pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.”
Gwybodaeth Cychwyn
I43Rhl. 43 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i Atodlen 4LL+C
44. Yn Atodlen 4—
(a)ym mharagraff 4(1)(a)(i), ar ôl “2ZB,” mewnosoder “2ZC,”;
(b)ar ôl paragraff 13F mewnosoder—
“13G.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZC) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”;
(c)ym mharagraff 14—
(i)yn is-baragraff (3)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—
“(id)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”;
(ii)yn is-baragraff (4), yn y lle priodol mewnosoder ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”);”.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Rhl. 44 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i Atodlen 7LL+C
45. Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
| ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” | Atodlen 2, paragraff 2ZC(2)” |
Gwybodaeth Cychwyn
I45Rhl. 45 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
RHAN 7LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
CyflwyniadLL+C
46. Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(10) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I46Rhl. 46 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiadau i reoliadau 2, 3 ac 8LL+C
47. Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I47Rhl. 47 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
48. Yn rheoliad 3(2)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I48Rhl. 48 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
49. Yn rheoliad 8, ar ôl paragraff (bc) mewnosoder—LL+C
“(bd)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I49Rhl. 49 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i Atodlen 1LL+C
50. Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4B mewnosoder—
“Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir
4C. Person—
(a)sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
Gwybodaeth Cychwyn
I50Rhl. 50 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
RHAN 8LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
CyflwyniadLL+C
51. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(11) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I51Rhl. 51 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiadau i reoliadau 9 ac 16LL+C
52. Yn rheoliad 9(1)(a)(i) ar ôl “2B,” mewnosoder “2C,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I52Rhl. 52 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
53. Yn rheoliad 16—LL+C
(a)ym mharagraff (1)(b), ar ôl paragraff (ia) mewnosoder—
“(ib)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”;
(b)ym mharagraff (2), yn y lle priodol mewnosoder ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”);”.
Gwybodaeth Cychwyn
I53Rhl. 53 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i Atodlen 2LL+C
54. Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2B mewnosoder—
“Categori 2C – Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir
2C.—(1) Person—
(a)sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
(a)o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo, neu
(b)y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
(i)pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022, a
(ii)pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.”
Gwybodaeth Cychwyn
I54Rhl. 54 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Diwygiad i Atodlen 4LL+C
55. Yn Atodlen 4, yn Nhabl 3, yn y lle priodol mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
| ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” | Atodlen 2, paragraff 2C(2)” |
Gwybodaeth Cychwyn
I55Rhl. 55 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
5 Gorffennaf 2022
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio:
(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (gweler Rhan 2 o’r Rheoliadau),
(b)Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (gweler Rhan 3 o’r Rheoliadau),
(c)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (gweler Rhan 4 o’r Rheoliadau),
(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (gweler Rhan 5 o’r Rheoliadau),
(e)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (gweler Rhan 6 o’r Rheoliadau),
(f)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (gweler Rhan 7 o’r Rheoliadau), ac
(g)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (gweler Rhan 8 o’r Rheoliadau).
Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ymwneud yn bennaf â gwladolion Wcreinaidd ac aelodau o’u teuluoedd y rhoddwyd caniatâd iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin, y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin neu sydd â chaniatâd y tu allan i’r rheolau mewnfudo mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia ar Wcráin (“gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir”).
Mae’r diwygiadau a wneir yn Rhan 2 o’r Rheoliadau yn darparu i wladolion Wcreinaidd a ddiogelir gael eu trin fel myfyrwyr cartref at ddiben Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 i ddarparu i’r terfyn ffioedd dysgu fod yn gymwys i wladolion Wcreinaidd a ddiogelir.
Mae Rhan 3 a Rhannau 5 i 8 yn diwygio’r Rheoliadau cymorth i fyfyrwyr a bennir drwy wneud gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr, ar yr amod eu bod yn bodloni’r holl ofynion eraill.
Mae Rhannau 5 a 6 hefyd yn gwneud diwygiadau i’r Rheoliadau cymorth i fyfyrwyr i ddileu’r cyfyngiad presennol sy’n atal myfyrwyr sy’n dysgu o bell rhag bod yn gymwys i gael grantiau ar gyfer dibynyddion.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1983 p. 40; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 5 ac Atodlen 22; Deddf Addysg 2005 (p. 18), Atodlen 14, paragraff 9; O.S. 2005/3238, Atodlen 1, paragraff 9; O.S. 2010/1080, Atodlen 1, paragraff 12; O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 1; Deddf Addysg 2011 (p. 21), Atodlen 5, paragraff 5 ac Atodlen 16, paragraff 5; a Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), Atodlen 14, paragraff 33. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44 ac Atodlen 4.
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22(1) gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146(2)(a). Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1 o Ddeddf 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 2006/1458 gydag effaith o 8 Mehefin 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 2 o Ddeddf 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(1)(a) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru, gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Darparodd adran 44 o’r Ddeddf honno hefyd fod y swyddogaethau yn adran 22(2)(a) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i fod i gael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, erthygl 2 ac Atodlen 1 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
2015 dccc 1. Gweler adran 57(1) am y diffiniadau o “rhagnodedig” ac “a ragnodir” a “rheoliadau”.
O.S. 2007/2310 (Cy. 181); y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2011/1978 (Cy. 218), O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/235 (Cy. 54), O.S. 2021/481 (Cy. 148) ac O.S. 2021/1365 (Cy. 360).
O.S. 2014/3037 (Cy. 303); y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/235 (Cy. 54), O.S. 2019/1192 (Cy. 209), O.S. 2021/9 (Cy. 4), O.S. 2021/1294 (Cy. 328), O.S. 2022/49 (Cy. 18) ac O.S. 2022/79 (Cy. 28).
O.S. 2015/1484 (Cy. 163); y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2021/481 (Cy. 148) ac O.S. 2021/1365 (Cy. 360).
O.S. 2017/47 (Cy. 21); y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2021/481 (Cy. 148) ac O.S. 2021/1365 (Cy. 360).
O.S. 2018/191 (Cy. 42); y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/235 (Cy. 54), O.S. 2020/1302 (Cy. 287), O.S. 2021/9 (Cy. 4), O.S. 2021/481 (Cy. 148), O.S. 2021/813 (Cy. 192), O.S. 2021/1365 (Cy. 360) ac O.S. 2022/79 (Cy. 28).
O.S. 2018/656 (Cy. 124); y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/235 (Cy. 54), O.S. 2019/1094, O.S. 2019/1192 (Cy. 209), O.S. 2020/1302 (Cy. 287), O.S. 2021/9 (Cy. 4), O.S. 2021/481 (Cy. 148), O.S. 2021/1365 (Cy. 360) ac O.S. 2022/403 (Cy. 100).
O.S. 2019/895 (Cy. 161); y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2019/1039 (Cy. 182), O.S. 2020/1302 (Cy. 287), O.S. 2021/9 (Cy. 4), O.S. 2021/481 (Cy. 148), O.S. 2021/1365 (Cy. 360), O.S. 2022/403 (Cy. 100).
