Gorchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022
Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022.
(2)
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Chwefror 2022.
(3)
Mae’r Gorchymyn hwn—
(a)
yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b)
yn gymwys mewn perthynas â—
(i)
cychod pysgota Cymreig ar y môr, ym mha le bynnag y bônt;
(ii)
cychod pysgota perthnasol sy’n pysgota yng Nghymru neu ym mharth Cymru.
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cwch pysgota Cymreig” (“Welsh fishing boat”) yw llestr bysgota o lai na 12 metr o hyd sydd—
(a)
(b)
wedi ei thrwyddedu o dan adran 15 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020;
ystyr “dyfais fonitro” (“monitoring device”) yw dyfais sydd â rhif adnabod unigryw ac sy’n gallu trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol bob 30 eiliad;
ystyr “gweithrediadau pysgota” (“fishing operations”) yw dal pysgod ac mae’n cynnwys gweithgareddau sy’n ategol i hynny;
ystyr “y person sydd â gofal” (“the person in charge”) yw perchennog, meistr neu siartrwr, os oes un, y cwch pysgota;
ystyr “Rhif Cofrestr Fflyd” (“Fleet Register Number”) yw—
(a)
(b)
ystyr “yr wybodaeth ofynnol” (“the required information”) yw’r wybodaeth a bennir yn erthygl 4.
Rheoleiddio gweithrediadau pysgota3.
(1)
Ni chaniateir i’r cwch pysgota ymgymryd â gweithrediadau pysgota oni bai—
(a)
bod dyfais fonitro wedi ei gosod arno;
(b)
yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru ynghylch—
(i)
rhif adnabod unigryw’r ddyfais fonitro;
(ii)
enw’r cwch pysgota y mae’r ddyfais fonitro wedi ei gosod arno;
(iii)
Rhif Cofrestru Fflyd neu IRCS y cwch pysgota; ac
(c)
bod y ddyfais fonitro yn trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol i Weinidogion Cymru o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeng munud.
(2)
Pan fo’r cwch pysgota yn cael ei ddefnyddio yn groes i baragraff (1), mae’r person sydd â gofal amdano yn euog o drosedd.
Yr Wybodaeth Ofynnol4.
Yr wybodaeth ofynnol yw—
(a)
rhif adnabod unigryw’r ddyfais fonitro;
(b)
(c)
dyddiad ac amser, wedi eu mynegi mewn Amser Cyffredinol Cyd-drefnedig, unrhyw safle daearyddol y cwch hwnnw; a
(d)
cyflymder a chwrs y cwch hwnnw ar yr adeg honno.
Cyfrifoldebau parhaus ynghylch y dyfeisiau monitro5.
Rhaid i’r person sydd â gofal am y cwch pysgota wneud pob ymdrech resymol i sicrhau—
(a)
nad oes modd gwrthwneud y ddyfais fonitro â llaw;
(b)
nad yw’r ddyfais fonitro yn cael ei dinistrio, ei difrodi, ei gwneud yn anweithredol, neu nas amherir â hi fel arall;
(c)
nad yw unrhyw antena sy’n gysylltiedig â’r ddyfais fonitro yn cael ei rwystro mewn unrhyw ffordd; a
(d)
nad yw’r cyflenwad pŵer i’r ddyfais fonitro yn cael ei dorri.
Methiant Dyfais Fonitro6.
(1)
Os nad yw’r ddyfais fonitro ar fwrdd y cwch pysgota yn gallu trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol, rhaid i’r person sydd â gofal, ar yr adeg y mae’n gwybod, neu y gellir disgwyl yn rhesymol iddo wybod, bod y ddyfais wedi stopio trosglwyddo’r wybodaeth—
(a)
hysbysu Gweinidogion Cymru nad yw’r ddyfais fonitro yn gallu trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol; a
(b)
sicrhau nad yw’r cwch pysgota yn ymgymryd ag unrhyw weithrediadau pysgota pellach hyd nes y gall y ddyfais fonitro drosglwyddo’r wybodaeth berthnasol yn unol ag erthygl 3(1)(c) a bod hysbysiad ynghylch hynny wedi ei roi i Weinidogion Cymru.
(2)
Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)(a) neu (b) gynnwys—
(a)
rhif adnabod unigryw’r ddyfais fonitro;
(b)
enw’r cwch pysgota y mae’r ddyfais fonitro wedi ei gosod arno;
(c)
Rhif Cofrestru Fflyd neu IRCS y cwch pysgota; a
(d)
pan fo hynny’n hysbys i’r person sydd â gofal—
(i)
yr amser pryd stopiodd y ddyfais fonitro drosglwyddo’r wybodaeth ofynnol;
(ii)
y rheswm neu’r rhesymau dros fethiant y ddyfais fonitro i weithio’n gywir;
(iii)
pa elfen o’r wybodaeth ofynnol nad yw’r ddyfais fonitro berthnasol yn gallu ei throsglwyddo.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran cychod pysgota Cymreig (ym mha le bynnag y bônt) a chychod pysgota perthnasol sy’n pysgota yng Nghymru neu ym mharth Cymru. Mae’n rheoleiddio pysgota ar y môr a daw i rym ar 15 Chwefror 2022.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn, gan gynnwys y diffiniad o “cwch pysgota Cymreig” a “cwch pysgota perthnasol” at ddibenion y Gorchymyn hwn.
Mae paragraff (1) o erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gychod pysgota Cymreig, wrth bysgota yn y môr, a chychod pysgota perthnasol, wrth bysgota yng Nghymru neu ym mharth Cymru, i fod â dyfais fonitro ar eu bwrdd, i hysbysu Gweinidogion Cymru am faterion penodol ac i wybodaeth benodol (yr wybodaeth ofynnol) gael ei throsglwyddo i Weinidogion Cymru o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeng munud. Mae paragraff (2) o erthygl 3 yn darparu bod perchennog, meistr a siartrwr (os oes un) (y person sydd â gofal) yn euog o drosedd os defnyddir y cwch pysgota yn groes i baragraff (1).
Mae erthygl 4 yn rhagnodi’r wybodaeth ofynnol y mae rhaid ei throsglwyddo i Weinidogion Cymru.
Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer rhwymedigaethau parhaus ar y person sydd â gofal o ran y ddyfais fonitro.
Mae erthygl 6 yn nodi gofynion penodol sy’n gymwys i’r person sydd â gofal os nad yw’r ddyfais fonitro yn gallu trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol.
Yn rhinwedd adran 5(4) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p. 77), mae torri’r Gorchymyn hwn yn drosedd sy’n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy ddiderfyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.