Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn sefydlu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru (“y Cwricwlwm i Gymru”). Mae adran 74(1) o Ddeddf 2021 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Ddeddf honno er mwyn rhoi effaith lawn iddi. Mae adran 75(1)(b) o Ddeddf 2021 hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
Daw’r Cwricwlwm i Gymru yn fandadol ar gyfer y grwpiau blwyddyn mewn ysgolion a lleoliadau eraill fel a ganlyn—
ar 1 Medi 2022 ar gyfer—
disgyblion a phlant y darperir addysg feithrin ar eu cyfer,
disgyblion yn eu blwyddyn derbyn,
disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6 y darperir cwricwlwm perthnasol iddynt yn unol â Deddf 2021, a
disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021,
ar 1 Medi 2023 ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 7 neu 8,
ar 1 Medi 2023 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 8,
ar 1 Medi 2024 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9,
ar 1 Medi 2025 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10, ac
ar 1 Medi 2026 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11.
Fel rhan o’r diwygiadau canlyniadol a wneir gan y Rheoliadau hyn, mae nifer o offerynnau statudol wedi eu dirymu gan nad oes eu hangen mwyach oherwydd y trefniadau newydd a wneir o dan Ddeddf 2021. Mae rhai wedi eu datgymhwyso’n raddol yn unol â chyflwyno trefniadau’r cwricwlwm newydd cyn cael eu dirymu, tra bod eraill wedi eu dirymu. Mae’r rhestr o offerynnau statudol sydd wedi eu dirymu gan y Rheoliadau hyn yn cynnwys—
Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2005,
Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) (Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4) 2006,
Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008,
Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2008,
Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009,
Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013,
Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) (Diwygio) 2014,
Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014,
Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) (Diwygio) 2015, a
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.