2022 Rhif 655 (Cy. 145)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) i (8)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 408(1)1 a 569(4) a (5)2 o Ddeddf Addysg 19963, a pharagraff 3 o Atodlen 14 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 408(5) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried ei bod yn ddymunol ymgynghori â hwy.