- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth drosiannol ar gyfer disgyblion sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig ac nid cynllun datblygu unigol (gweler erthygl 1 am y diffiniad o “anghenion addysgol arbennig” a “cynllun datblygu unigol”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn erthygl 3 yn dod i rym ar 14 Mehefin 2022 ond dim ond at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 42 a 69 o Ddeddf 2021.
Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn yr erthygl honno yn dod i rym yn llawn ar 1 Medi 2022.
Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn yr erthygl honno yn dod i rym ar 1 Medi 2022 ar gyfer plentyn neu ddisgybl—
(a)y darperir addysg feithrin ar ei gyfer,
(b)mewn blwyddyn derbyn,
(c)ym mlynyddoedd 1 i 6, a
(d)ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion a gynhelir hynny a’r unedau cyfeirio disgyblion hynny a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn yr erthygl honno yn dod i rym ar 1 Medi 2023 ar gyfer plentyn neu ddisgybl—
(a)ym mlwyddyn 7, a
(b)ym mlwyddyn 8.
Mae erthygl 6 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn yr erthygl honno yn dod i rym ar 1 Medi 2024 ar gyfer plentyn neu ddisgybl ym mlwyddyn 9.
Mae erthygl 7 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn yr erthygl honno yn dod i rym ar 1 Medi 2025 ar gyfer plentyn neu ddisgybl ym mlwyddyn 10.
Mae erthygl 8 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y darpariaethau a restrir yn yr erthygl honno yn dod i rym ar 1 Medi 2026 ar gyfer plentyn neu ddisgybl ym mlynyddoedd 11 i 13.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: