2022 Rhif 6 (Cy. 4)
Tai, Cymru

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 94(1), (2)(b) a (3) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 20161.

Enwi a chychwyn1.

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar F11 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym) 2.

Dehongli2.

(1)

Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.

(2)

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cyfnod meddiannaeth” (“period of occupation”), mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw’r cyfnod—

(a)

sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract, a

(b)

sy’n dod i ben pan ddaw’r contract i ben; ac

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

(3)

Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 7.

Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Penderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio3.

Wrth benderfynu at ddibenion adran 91(1) o’r Ddeddf a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio, rhaid rhoi sylw i bresenoldeb neu fodolaeth, neu bresenoldeb tebygol neu fodolaeth debygol, y materion a’r amgylchiadau a restrir yn yr Atodlen.

Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Contractau meddiannaeth y mae rheoliadau 5 i 8 yn gymwys iddynt4.

Nid yw rheoliadau 5 i 8 yn gymwys ond mewn perthynas ag —

(a)

contract diogel,

(b)

contract safonol cyfnodol, ac

(c)

contract safonol cyfnod penodol a wnaed am gyfnod o lai na 7 mlynedd3,

sy’n ymgorffori adran 91 o’r Ddeddf fel un o delerau’r contract.

Annotations:
Commencement Information

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Larymau mwg a larymau carbon monocsid5.

(1)

Rhaid i’r landlord sicrhau, yn ystod pob cyfnod meddiannaeth, bod larwm mwg ar bob llawr o’r annedd sydd—

(a)

mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn,

(b)

wedi ei gysylltu â chyflenwad trydan yr annedd, ac

(c)

wedi ei gysylltu â phob larwm mwg arall yn yr annedd sydd wedi ei gysylltu â’r cyflenwad trydan.

(2)

Rhaid i’r landlord sicrhau, yn ystod pob cyfnod meddiannaeth, bod larwm carbon monocsid sydd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn ym mhob ystafell o’r annedd sy’n cynnwys cyfarpar nwy, cyfarpar hylosgi sy’n cael ei danio ag olew neu gyfarpar hylosgi sy’n llosgi tanwydd solet.

(3)

Mae annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi pan nad yw’r landlord yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan baragraff (1) neu (2).

(4)

At ddibenion paragraff (3), mae landlord sydd heb gydymffurfio ag—

(a)

paragraff (1) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r paragraff hwnnw o’r adeg y mae’r landlord yn sicrhau bod larwm mwg (neu larymau mwg) yn bresennol yn yr annedd fel y disgrifir yn y paragraff hwnnw;

(b)

paragraff (2) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r paragraff hwnnw o’r adeg y mae’r landlord yn sicrhau bod larwm carbon monocsid (neu larymau carbon monocsid) yn bresennol yn yr annedd fel y disgrifir yn y paragraff hwnnw.

(5)

Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfarpar nwy” (“gas appliance”) yw cyfarpar a ddyluniwyd i’w ddefnyddio gan ddefnyddiwr nwy ar gyfer gwresogi, goleuo, coginio neu at ddibenion eraill y gellir defnyddio nwy ar eu cyfer, ond nid yw’n cynnwys—

(a)

cyfarpar cludadwy neu symudol a gyflenwir â nwy o silindr, na’r silindr, y pibellau a’r ffitiadau eraill a ddefnyddir i gyflenwi nwy i’r cyfarpar hwnnw, neu

(b)

cyfarpar y mae gan ddeiliad y contract yr hawl i fynd ag ef o’r annedd o dan delerau’r contract meddiannaeth;

mae i “nwy” yr ystyr a roddir i “gas” gan adran 48(1) o Ddeddf Nwy 19864;

mae “ystafell” (“room”) yn cynnwys cyntedd, pen grisiau neu goridor.

Annotations:
Commencement Information

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Diogelwch trydanol6.

(1)

Rhaid i’r landlord sicrhau bod adroddiad ar gyflwr trydanol dilys mewn cysylltiad â’r annedd yn ystod pob cyfnod meddiannaeth.

(2)

Mae adroddiad ar gyflwr trydanol—

(a)

yn adroddiad ar gyflwr sy’n nodi canlyniadau archwiliad diogelwch trydanol a gynhaliwyd gan berson cymwysedig;

(b)

yn ddilys—

(i)

hyd at ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cynhaliwyd yr archwiliad diogelwch trydanol (“y dyddiad archwilio”), neu

(ii)

os yw’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn nodi y dylid cynnal yr archwiliad diogelwch trydanol nesaf lai na 5 mlynedd ar ôl y dyddiad archwilio, hyd at ddiwedd y dydd erbyn pryd y dylid cynnal, yn unol â’r adroddiad, yr archwiliad diogelwch trydanol nesaf.

(3)

Rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract, cyn diwedd y cyfnod o F214 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad meddiannu—

(a)

copi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol mwyaf diweddar, a

(b)

pan fo gwaith ymchwilio neu atgyweirio wedi ei wneud ar osodiad gwasanaeth trydanol yn yr annedd, neu mewn perthynas â gosodiad o’r fath, ar ôl yr archwiliad diogelwch trydanol y mae’r adroddiad hwnnw yn ymwneud ag ef (a chyn y dyddiad meddiannu), gadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith.

(4)

Pan gynhelir archwiliad diogelwch trydanol ar ôl y dyddiad meddiannu, rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn ymwneud â’r archwiliad cyn diwedd y cyfnod o F314 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr archwiliad.

(5)

Pan fo gwaith ymchwilio neu atgyweirio yn cael ei wneud ar osodiad gwasanaeth trydanol yn yr annedd, neu mewn perthynas â gosodiad o’r fath, ar ôl y dyddiad meddiannu, rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract gadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith cyn diwedd y cyfnod o F414 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafodd y landlord y cadarnhad.

(6)

Mae annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi ar adeg pan nad yw’r landlord yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliad hwn.

(7)

At ddibenion paragraff (6), mae landlord—

(a)

nad yw wedi cydymffurfio â pharagraff (1) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r paragraff hwnnw ar unrhyw adeg—

(i)

pan fo’r landlord wedi cael adroddiad ar gyflwr trydanol, a

(ii)

pan fo’r adroddiad hwnnw yn ddilys.

(b)

nad yw wedi cydymffurfio â pharagraff (3)(a) neu (4) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r ddarpariaeth dan sylw o’r adeg y rhoddir i ddeiliad y contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol dilys mwyaf diweddar;

(c)

nad yw wedi cydymffurfio â pharagraff (3)(b) neu (5) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r ddarpariaeth dan sylw o’r adeg y rhoddir i ddeiliad y contract gadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith.

(8)

Yn y rheoliad hwn—

ystyr “archwiliad diogelwch trydanol” (“electrical safety inspection”) yw archwilio a phrofi pob gosodiad gwasanaeth trydanol mewn annedd yn unol â’r safonau diogelwch trydanol5;

ystyr “cadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith” (“written confirmation of work”), mewn perthynas â gwaith ymchwilio neu atgyweirio, yw copi o gadarnhad ysgrifenedig gan berson cymwysedig bod y gwaith dan sylw wedi ei wneud;

ystyr “gosodiad gwasanaeth trydanol” (“electrical service installation”) yw gosodiad ar gyfer cyflenwi trydan; ac mae cyfeiriadau at osodiad gwasanaeth trydanol mewn annedd yn cynnwys, pan fo’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, osodiad gwasanaeth trydanol sy’n gwasanaethu’r annedd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac sydd naill ai—

(a)

yn ffurfio rhan o unrhyw ran o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi, neu

(b)

yn eiddo i’r landlord neu sydd o dan reolaeth y landlord;

ystyr “person cymwysedig” (“qualified person”) yw person sy’n gymwys i wneud y gwaith arolygu a phrofi ar osodiad gwasanaeth trydanol, ac unrhyw waith archwilio neu waith atgyweirio pellach, yn unol â’r safonau diogelwch trydanol;

ystyr “safonau diogelwch trydanol” (“electrical safety standards”) yw’r safonau ar gyfer gosodiadau gwasanaeth trydanol a nodwyd yn y deunawfed argraffiad o’r Rheoliadau Gosod Gwifrau sef y “Wiring Regulations”, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a’r Sefydliad Safonau Prydeinig fel F5BS 7671:2018+A2:2022 6.

Cymhwyso i gontractau wedi eu trosi7.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi.

(2)

Yn rheoliadau 5(1) a 6(1), ystyr “cyfnod meddiannaeth” yw’r cyfnod—

(a)

sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 12 mis ar ôl y dyddiad trosi, a

(b)

sy’n dod i ben pan ddaw’r contract i ben.

(3)

Yn rheoliad 5(2), ystyr “cyfnod meddiannaeth” yw’r cyfnod—

(a)

sy’n dechrau â’r dyddiad trosi, a

(b)

sy’n dod i ben pan ddaw’r contract i ben.

(4)

Yn rheoliad 6(3), ystyr “dyddiad meddiannu” yw’r diwrnod sydd 12 mis ar ôl y dyddiad trosi.

(5)

Mae rheoliad 6 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (4)—

“(4)

Pan gynhelir archwiliad diogelwch trydanol ar ôl i ddeiliad y contract gael adroddiad yn unol ag is-baragraff (a) o baragraff (3) (fel y’i haddaswyd gan reoliad 7(4)), rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir copi i ddeiliad y contract o’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn ymwneud â’r archwiliad cyn diwedd y cyfnod o F614 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr archwiliad.”

(6)

Yn y rheoliad hwn, ystyr “dyddiad trosi”, mewn perthynas â chontract wedi ei drosi, yw’r dyddiad y daeth y denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth o dan adran 240 o’r Ddeddf7.

Darpariaeth drosiannol yn ymwneud â rheoliad 6: adroddiadau ar gyflwr trydanol sydd eisoes yn bodoli8.

At ddibenion rheoliad 6(1), nid oes wahaniaeth os cafwyd yr adroddiad ar gyflwr trydanol dilys cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Annotations:
Commencement Information

I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENMaterion ac Amgylchiadau

Rheoliad 3

Lleithder, gwiddon a thyfiant llwydni neu ffwngaidd

1.

Bod mewn cyffyrddiad â gwiddon llwch mewn cartrefi, lleithder, tyfiant llwydni neu dyfiant ffwngaidd.

Annotations:
Commencement Information

I9Atod. para. 1 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Oerfel

2.

Bod mewn cyffyrddiad â thymereddau rhy isel.

Annotations:
Commencement Information

I10Atod. para. 2 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Gwres

3.

Bod mewn cyffyrddiad â thymereddau rhy uchel.

Annotations:
Commencement Information

I11Atod. para. 3 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Asbestos a ffibrau mwynau a weithgynhyrchwyd

4.

Bod mewn cyffyrddiad â ffibrau asbestos neu ffibrau mwynau a weithgynhyrchwyd.

Annotations:
Commencement Information

I12Atod. para. 4 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Bywleiddiaid

5.

Bod mewn cyffyrddiad â chemegolion a ddefnyddir i drin pren neu dyfiant llwydni.

Annotations:
Commencement Information

I13Atod. para. 5 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Carbon monocsid a chynhyrchion hylosgi tanwydd

6.

Bod mewn cyffyrddiad â’r canlynol—

(a)

carbon monocsid;

(b)

nitrogen diocsid;

(c)

sylffwr diocsid a mwg.

Annotations:
Commencement Information

I14Atod. para. 6 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Plwm

7.

Amlyncu plwm.

Annotations:
Commencement Information

I15Atod. para. 7 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Ymbelydredd

8.

Bod mewn cyffyrddiad ag ymbelydredd.

Annotations:
Commencement Information

I16Atod. para. 8 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Nwy tanwydd nas hylosgwyd

9.

Bod mewn cyffyrddiad â nwy tanwydd nas hylosgwyd.

Annotations:
Commencement Information

I17Atod. para. 9 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Cyfansoddion organig anweddol

10.

Bod mewn cyffyrddiad â chyfansoddion organig anweddol.

Annotations:
Commencement Information

I18Atod. para. 10 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Gorlenwi a gofod

11.

Diffyg gofod digonol ar gyfer byw a chysgu.

Annotations:
Commencement Information

I19Atod. para. 11 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Tresmaswyr yn dod i mewn

12.

Anawsterau wrth gadw’r annedd yn ddiogel rhag i bobl nas awdurdodir ddod i mewn.

Annotations:
Commencement Information

I20Atod. para. 12 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Goleuo

13.

Diffyg golau digonol.

Annotations:
Commencement Information

I21Atod. para. 13 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Sŵn

14.

Bod mewn cysylltiad â sŵn.

Annotations:
Commencement Information

I22Atod. para. 14 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Hylendid domestig, plâu a sbwriel

15.

(1)

Dyluniad, cynllun neu adeiladwaith gwael fel na ellir yn hawdd gadw’r annedd yn lân.

(2)

Bod mewn cyffyrddiad â phlâu.

(3)

Darpariaeth annigonol ar gyfer storio gwastraff tŷ a’i waredu’n hylan.

Annotations:
Commencement Information

I23Atod. para. 15 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Diogelwch bwyd

16.

Darpariaeth annigonol o gyfleusterau ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd.

Annotations:
Commencement Information

I24Atod. para. 16 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Hylendid personol, carthffosiaeth a draeniau

17.

Darpariaeth annigonol—

(a)

o gyfleusterau i gynnal hylendid personol da;

(b)

o garthffosiaeth a draeniau.

Annotations:
Commencement Information

I25Atod. para. 17 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Cyflenwad dŵr

18.

Cyflenwad annigonol o ddŵr sydd heb ei halogi, er mwyn ei yfed ac at ddibenion domestig eraill.

Annotations:
Commencement Information

I26Atod. para. 18 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Cwympo yn gysylltiedig â baddonau etc.

19.

Cwympo sy’n gysylltiedig â thoiledau, baddonau, cawodydd neu gyfleusterau ymolchi eraill.

Annotations:
Commencement Information

I27Atod. para. 19 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Cwympo ar arwynebau

20.

Cwympo ar arwyneb.

Annotations:
Commencement Information

I28Atod. para. 20 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Cwympo ar risiau etc.

21.

Cwympo ar risiau, stepiau neu rampiau.

Annotations:
Commencement Information

I29Atod. para. 21 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Cwympo rhwng arwynebau

22.

Cwympo o un arwyneb i un arall (gan gynnwys cwympo o uchder).

Annotations:
Commencement Information

I30Atod. para. 22 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Peryglon trydanol

23.

Bod mewn cyffyrddiad â thrydan.

Annotations:
Commencement Information

I31Atod. para. 23 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Tân

24.

Bod mewn cyffyrddiad â thân afreolus a’r mwg sy’n gysylltiedig ag ef.

Annotations:
Commencement Information

I32Atod. para. 24 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Fflamau, arwynebau poeth etc.

25.

Bod mewn cyffyrddiad â’r canlynol—

(a)

tân neu fflamau a reolir;

(b)

Gwrthrychau, hylifau neu anweddau poeth.

Annotations:
Commencement Information

I33Atod. para. 25 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Taro yn erbyn neu fynd yn sownd

26.

Taro yn erbyn drysau, ffenestri neu nodweddion pensaernïol eraill, neu rannau o’r corff yn mynd yn sownd ynddynt.

Annotations:
Commencement Information

I34Atod. para. 26 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Ffrwydradau

27.

Ffrwydrad yn yr annedd.

Annotations:
Commencement Information

I35Atod. para. 27 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Safle amwynderau a’u gweithrediad etc.

28.

Safle, lleoliad a gweithrediad amwynderau, ffitiadau ac offer.

Annotations:
Commencement Information

I36Atod. para. 28 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

Dymchwel strwythurol ac elfennau’n disgyn

29.

Yr annedd gyfan neu ran ohoni yn dymchwel gan gynnwys elfennau’n disgyn.

Annotations:
Commencement Information

I37Atod. para. 29 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 91 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i landlord, o dan gontract diogel, contract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na 7 mlynedd, sicrhau bod yr annedd yn ffit i bobl fyw ynddi, ac mae adran 92 yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord gadw’r annedd mewn cyflwr da.

Mae adran 94(1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ragnodi materion ac amgylchiadau y mae rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio, ac mae adran 94(2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi materion ac amgylchiadau a allai godi oherwydd methiant landlord i gadw’r annedd mewn cyflwr da. Mae adran 94(3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod gofynion ar landlordiaid at ddiben atal y materion neu’r amgylchiadau hynny rhag codi ac i ragnodi os na chydymffurfir â’r gofynion hynny, bod yr annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi.

Mae rheoliad 3 a’r Atodlen yn rhagnodi’r materion a’r amgylchiadau y mae rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio. Mae hyn yn cynnwys materion ac amgylchiadau penodol a allai godi oherwydd methiant landlord i gadw’r annedd mewn cyflwr da.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rheoliadau 5 i 8 yn gymwys mewn perthynas â chontract diogel, contract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol a wnaed am gyfnod o lai na 7 mlynedd, ac sy’n ymgorffori adran 91 o’r Ddeddf fel un o delerau’r contract. Mae rheoliad 4 yn cymhwyso rheoliadau 5 i 8 i’r un mathau o gontract meddiannaeth â rheoliad 3.

Mae rheoliadau 5 a 6 yn gosod gofynion ar landlord at ddiben atal unrhyw faterion neu amgylchiadau rhag codi a allai beri nad yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i larymau mwg a larymau carbon monocsid, sydd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn, fod yn bresennol mewn annedd.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r gosodiadau gwasanaeth trydanol mewn annedd gael eu harchwilio a’u profi (“archwiliad diogelwch trydanol”) gan berson cymwysedig fesul ysbaid o 5 mlynedd neu lai; ac yn ei gwneud yn ofynnol i gopi o’r adroddiad ar gyflwr sy’n nodi canlyniadau’r archwiliad diogelwch trydanol gael ei roi i ddeiliad y contract. Os caiff gwaith ei wneud ar osodiadau gwasanaeth trydanol annedd rhwng archwiliadau diogelwch trydanol, rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract gadarnhad ysgrifenedig bod y gwaith wedi ei wneud.

Pan fo landlord yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan reoliad 5 neu 6, mae’r annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi a bydd yn parhau i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi o dan y rheoliadau hynny hyd nes y bydd y landlord wedi cywiro’r methiant (gweler Rhan 4 o’r Ddeddf am ddarpariaeth bellach ynghylch amgylchiadau pan fo rhwymedigaethau ac atebolrwyddau landlord o dan y Rhan honno yn codi). Os yw’r methiant yn digwydd eto ar ôl ei gywiro bydd yr annedd, unwaith eto, i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi hyd nes y caiff y methiant ei gywiro.

Mae’r landlord, mewn unrhyw achos, yn ddarostyngedig i’r rhwymedigaethau yn adran 92 o’r Ddeddf (os ydynt wedi eu hymgorffori yn y contract meddiannaeth) i gadw gosodiadau gwasanaeth trydanol mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn. Bydd y rhwymedigaethau hynny yn berthnasol pan fo archwiliad diogelwch trydanol yn datgelu bod materion yn codi mewn cysylltiad â gosodiad.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r rheoliadau hyn yn gweithredu mewn perthynas â thenantiaethau a thrwyddedau presennol a ddaw yn gontractau meddiannaeth pan ddaw’r Ddeddf i rym. O dan y contractau hynny, bydd gan landlordiaid amser ychwanegol i sicrhau cydymffurfiaeth o’i fewn.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â rheoliad 6, gan ganiatáu i landlordiaid ddibynnu ar adroddiadau ar gyflwr trydanol a gafwyd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.