2022 Rhif 575 (Cy. 133)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Chyflasynnau Mwg (Addasu Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3) a (4)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 12(1) a 32A(3) o, ac yn unol ag Erthyglau 9 a 27(1) o, Reoliad (EU) 2015/2283 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwydydd newydd1; ac Erthygl 11(4) o Reoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyflasynnau mwg a ddefnyddir neu y bwriedir iddynt gael eu defnyddio mewn bwydydd neu arnynt2.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.