xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Chyflasynnau Mwg (Addasu Awdurdodiadau) (Cymru) 2022.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b)yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw Rhannau 1 a 3 o’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Mehefin 2022.
(4) Daw Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2022.
2. Yn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2470 sy’n sefydlu rhestr yr Undeb o fwydydd newydd yn unol â Rheoliad (EU) 2015/2283 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwydydd newydd(1), mae’r Atodiad (rhestr o fwydydd newydd) wedi ei ddiwygio yn unol ag Atodlenni 1 i 5.
3. Yn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1321/2013 sy’n sefydlu rhestr yr Undeb o gynhyrchion cynradd a awdurdodir i greu cyflas mwg i’w defnyddio yn y modd hwnnw mewn bwydydd neu arnynt a/neu i gynhyrchu cyflasynnau mwg deilliedig(2), mae’r Atodiad (rhestr ddomestig o gyflasynnau mwg awdurdodedig) wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 4 i 8.
4. Yn yr awdurdodiad ar gyfer “Scansmoke PB 1110” (cod unigryw “SF-001”), yng ngholofn 2, yn lle’r cofnodion sy’n cyfateb i “Name of the authorisation holder” ac “Address of the authorisation holder” rhodder—
“proFagus GmbH |
Uslarer Strasse 30 37194 Bodenfelde GERMANY” |
5. Yn yr awdurdodiad ar gyfer “Zesti Smoke Code 10” (cod unigryw “SF-002”), yng ngholofn 2, yn lle’r cofnodion sy’n cyfateb i “Name of the authorisation holder” ac “Address of the authorisation holder” rhodder—
“Kerry Group Plc |
Prince’s Street Tralee Co. Kerry, V92 EH11 IRELAND” |
6. Yn yr awdurdodiad ar gyfer “SmokEz C-10” (cod unigryw “SF-005”), yng ngholofn 2, yn lle’r cofnodion sy’n cyfateb i “Name of the authorisation holder” ac “Address of the authorisation holder” rhodder—
“Kerry Group Plc |
Prince’s Street Tralee Co. Kerry, V92 EH11 IRELAND” |
7. Yn yr awdurdodiad ar gyfer “SmokEz Enviro-23” (cod unigryw “SF-006”), yng ngholofn 2, yn lle’r cofnodion sy’n cyfateb i “Name of the authorisation holder” ac “Address of the authorisation holder” rhodder—
“Kerry Group Plc |
Prince’s Street Tralee Co. Kerry, V92 EH11 IRELAND” |
8. Yn yr awdurdodiad ar gyfer “TradismokeTM A MAX” (cod unigryw “SF-007”), yng ngholofn 2, yn lle’r cofnodion sy’n cyfateb i “Name of the authorisation holder” ac “Address of the authorisation holder” rhodder—
“J. Rettenmaier & Söhne GmbH + CO KG |
Holzmühle 1 73494 Rosenberg GERMANY” |
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mai 2022