RHAN 4Darpariaeth Drosiannol

Darpariaeth drosiannolI121

1

Nid yw’r diwygiadau a wnaed gan Rannau 2 a 3 o’r Rheoliadau hyn F1(heblaw am reoliadau 14 a 17) yn gymwys mewn achos—

a

pan fo gwaith adeiladu ar adeilad penodol wedi ei gychwyn cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym yn unol ag unrhyw ddarpariaeth hysbysu berthnasol, neu

b

pan gydymffurfiwyd â darpariaeth hysbysu berthnasol mewn perthynas â gwaith adeiladu arfaethedig ar adeilad unigol F3cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym a bod y gwaith adeiladu wedi cychwyn o fewn 12 mis gan ddechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

F22

Yn y rheoliad hwn, ystyr “darpariaeth hysbysu berthnasol” yw rheoliad 12(2) o’r Rheoliadau Adeiladu ac adrannau 47(1), 50, 51A(2) a 54 o Ddeddf Adeiladu 1984.