NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“y Rheoliadau Adeiladu”) a Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy”) fel y maent y gymwys o ran Cymru. Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cymhwyso’r metrig newydd ar gyfer mesur effeithlonrwydd ynni ar ffurf cyfradd ynni crai darged i anheddau newydd. Yn flaenorol, roedd cyfraddau defnyddio ynni crai yn gymwys i adeiladau ac eithrio anheddau.

Mae’r diwygiadau hefyd yn cyflwyno sgoriau effeithlonrwydd ynni newydd i adeiladau newydd ac yn cyflwyno rheoliad newydd ar gyfer cynhyrchu trydan ar y safle ac mewn perthynas â gorgynhesu (yn enwedig yn rhinwedd mewnosod paragraff L2 yn Rhan L o Atodlen 1 i’r Rheoliadau Adeiladu a Rhan O newydd). Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio sut y cymhwysir Rhan F sy’n ymwneud â phrofion llif awyr awyru mecanyddol. Gwneir diwygiadau i’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy o ganlyniad i’r newidiadau hyn.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth drosiannol ar gyfer gwaith adeiladu ar adeilad penodol pan fo’r gwaith adeiladu wedi ei ddechrau yn unol â darpariaeth hysbysu berthnasol, ar yr amod bod y gwaith adeiladu ar yr adeilad hwnnw eisoes wedi cychwyn, neu ei fod yn cychwyn o fewn 12 mis i ddyfodiad y Rheoliadau hyn i rym.

Mae Atodlen 3 i’r Rheoliadau Adeiladu wedi ei ddiwygio i adlewyrchu newidiadau i gyrff sy’n cymryd rhan mewn cynlluniau hunanardystio.

Mae Deddf Adeiladu 1984 yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo a dyroddi dogfennau sy’n cynnwys canllawiau ymarferol mewn cysylltiad â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Rheoliadau Adeiladu. Mae’r pŵer hwnnw yn arferadwy gan Weinidogion Cymru i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru.

Mae Dogfen Gymeradwy L Cyfrol 1, rhifyn 2022, Dogfen Gymeradwy F Cyfrol 1, rhifyn 2022 a Dogfen Gymeradwy O, rhifyn 2022 yn cynnwys canllawiau ymarferol ar fodloni’r gofynion newydd a fewnosodir yn y Rheoliadau Adeiladu gan yr offeryn hwn. Mae’r Dogfennau Cymeradwy wedi eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru a gellir eu cyrchu ar www.llyw.cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.