Rheoliad 3
ATODLEN 7Awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MON 89034 × MIR162 × NK603 ac is-gyfuniadau, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw
Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw
1. At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, pennir y marciau adnabod unigryw a ganlyn ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MON 89034 × MIR162 × NK603 ac is-gyfuniadau fel a ganlyn—
(a)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 × MON- 89Ø34-3 × SYN-IR162-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MON 89034 × MIR162 × NK603;
(b)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 × MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MON 89034 × MIR162;
(c)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 × MON-89Ø34-3 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MON 89034 × NK603;
(d)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 × SYN-IR162-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MIR162 × NK603;
(e)MON-8746Ø-4 × MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87460 × MON 89034 × MIR162 × NK603;
(f)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 × MON-89Ø34-3 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MON 89034;
(g)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 × SYN-IR162-4 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MIR162;
(h)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × NK603;
(i)MON-8746Ø-4 × SYN-IR162-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87460 × MIR162 × NK603;
(j)MON-8746Ø-4 × MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87460 × MON 89034 × MIR162;
(k)MON-8746Ø-4 × MON-89Ø34-3 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87460 × MON 89034 × NK603;
(l)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460;
(m)MON-8746Ø-4 × SYN-IR162-4 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87460 × MIR162;
(n)MON-8746Ø-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87460 × NK603;
(o)MON-8746Ø-4 × MON-89Ø34-3 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87460 × MON 89034.
Awdurdodi
2. Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003 yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—
(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;
(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;
(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, at ddibenion heblaw’r rheini yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.
Labelu
3.—(1) At ddibenion y gofynion labelu a nodir yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.
(2) Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1 neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.
Y dull canfod
4.—(1) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dulliau a bennir yn is-baragraffau (2) i (6) i’w defnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1.
(2) Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MON 87427 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-03/12VP”, dyddiedig 9 Mehefin 2015.
(3) Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MON 87460 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL04/09VP”, dyddiedig 18 Ionawr 2012.
(4) Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize Line MON 89034 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL06/06VP”, dyddiedig 21 Hydref 2008.
(5) Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MIR162 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL08/08VP”, dyddiedig 31 Ionawr 2011.
(6) Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific method for the quantitation of maize line NK603 using real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL27/04VP”, dyddiedig 10 Ionawr 2005.
(7) Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraffau (2) i (6) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the Validation of a DNA Extraction Method for Maize Seeds and Grains”, cyfeirnod “CRLVL16/05XP corrected version 2”, dyddiedig 26 Gorffennaf 2017.
(8) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunyddiau cyfeirio “AOCS 0512-A2” (ar gyfer MON-87427-7), “AOCS 0709-A2” (ar gyfer MON-8746Ø-4), “AOCS 0906-E2” (ar gyfer MON-89Ø34-3) ac “AOCS 1208-A3” (ar gyfer SYN-IR162-4) drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America (AOCS)(). Gellir cyrchu “ERM®-BF415” (ar gyfer MON-ØØ6Ø3-6) drwy Gyd-ganolfan Ymchwil (JRC) y Comisiwn Ewropeaidd().
Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol
5.—(1) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i awdurdodi’r indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, cyfeirnod “RP714” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 26 Mawrth 2021.
(2) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.
Deiliad yr awdurdodiad
6.—(1) Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Bayer CropScience LP, 800 N. Lindbergh Boulevard, St Louis, Missouri 63167, Unol Daleithiau America.
(2) Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Bayer CropScience Ltd, 230 Cambridge Science Park, Milton Road, Caergrawnt, Lloegr, CB4 0WB.