xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio:

(a)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) (gweler Rhan 2 o’r Rheoliadau),

(b)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) (gweler Rhan 3 o’r Rheoliadau), ac

(c)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) (gweler Rhan 4 o’r Rheoliadau).

Mae Pennod 2 o Rannau 2, 3 a 4 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018 a Rheoliadau 2019 o ran cymhwystra sy’n codi o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae’r diwygiadau yn dileu cyfeiriadau at y “cyfnod gras” o ganlyniad i’r ffaith bod y cyfnod hwnnw bellach wedi mynd heibio.

Mae Pennod 3 o Rannau 3 a 4 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2018 a Rheoliadau 2019. Mae’r diwygiadau yn darparu i ddinasyddion Affganistan y rhoddir caniatâd amhenodol iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid neu’r Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan fod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr ar yr amod eu bod yn bodloni’r holl feini prawf eraill.

Mae Pennod 4 o Rannau 3 a 4 o’r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2018 a Rheoliadau 2019 sy’n ymwneud â’r swm o gymorth ariannol y caiff myfyriwr cymwys ei gael ar gyfer blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022.

Mae Pennod 5 o Ran 3 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2018. Mae’r diwygiad yn darparu i berson sy’n ymgymryd â rhaglen sy’n arwain at ddoethuriaeth mewn seicoleg addysgol ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, beidio â bod yn gymwys i gael cymorth ariannol pan fo bwrsari neu ddyfarndal tebyg a gyllidir gan Weinidogion Cymru wedi ei roi neu ei dalu iddo.

Mae Pennod 5 o Ran 4 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2019 er mwyn gwneud myfyrwyr sy’n ymgymryd â chwrs gwaith cymdeithasol ôl-raddedig, sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, yn gymwys i gael benthyciad cyfrannu at gostau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.