xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 403 (Cy. 100)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr Ôl-raddedig) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

Gwnaed

29 Mawrth 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

30 Mawrth 2022

Yn dod i rym

6 Mai 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(1)(a), 22(2)(a) a (b) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2):

RHAN 1Enwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr Ôl-raddedig) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Mai 2022.

Cymhwyso

2.  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

PENNOD 1Cyflwyniad

3.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(3) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – hepgor y cyfnod gras

Diwygiadau i reoliad 2

4.  Yn rheoliad 2(1)—

(a)hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;

(b)yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii).

Diwygiadau i reoliad 3

5.  Yn rheoliad 3(10)(a)—

(a)ym mharagraff (i), hepgorer “(iii),”;

(b)ym mharagraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.

Diwygiad i Atodlen 1

6.  Yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 3(1)(a)(iii).

RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

PENNOD 1Cyflwyniad

7.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(4) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – hepgor y cyfnod gras

Diwygiadau i reoliad 2

8.  Yn rheoliad 2(1)—

(a)hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;

(b)yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii).

Diwygiadau i reoliad 3

9.  Yn rheoliad 3(11)(a)—

(a)ym mharagraff (i), hepgorer “(iii),”;

(b)ym mharagraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.

Diwygiad i Atodlen 1

10.  Yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 3(1)(a)(iii).

PENNOD 3Cymhwystra ar gyfer dinasyddion penodol o Affganistan

Diwygiad i reoliad 2

11.  Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”) yw person—

(a)

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;

(b)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;

(c)

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu

(d)

y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (c) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;.

Diwygiad i reoliad 8

12.  Yn rheoliad 8, ar ôl paragraff (bb), mewnosoder—

(bc)bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;.

Diwygiadau i Atodlen 1

13.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4A(4)(b)—

(a)yn is-baragraff (iii), hepgorer y “neu” terfynol ac ar ddiwedd is-baragraff (iv), mewnosoder “neu”;

(b)ar ôl is-baragraff (iv), mewnosoder—

(v)person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;.

PENNOD 4Diwygiadau sy’n ymwneud â chymorth ariannol

Diwygiadau i reoliad 13

14.  Yn rheoliad 13—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “£27,265” rhodder “£27,880”;

(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “£27,265” rhodder “£27,880”.

PENNOD 5Diwygiadau sy’n ymwneud â rhaglenni seicoleg addysgol penodol

Diwygiad i reoliad 3

15.  Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

(3A) Nid yw person (“A”) yn fyfyriwr cymwys—

(a)os yw A yn ymgymryd â rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n arwain at ddyfarnu doethuriaeth mewn seicoleg addysgol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, a

(b)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r rhaglen honno unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a gyllidir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 4Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

PENNOD 1Cyflwyniad

16.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(5) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – hepgor y cyfnod gras

Diwygiadau i reoliad 12A

17.  Yn rheoliad 12A(a)—

(a)yn is-baragraff (i), hepgorer “(iii),”;

(b)yn is-baragraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.

Diwygiadau i Atodlen 1

18.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3(1)—

(a)hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;

(b)yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii) o’r diffiniad hwnnw.

Diwygiad i Atodlen 2

19.  Yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 1(2)(a)(iii).

Diwygiad i Atodlen 4

20.  Yn Atodlen 4, hepgorer y cofnod yn y tabl ar gyfer “cyfnod gras”.

PENNOD 3Cymhwystra ar gyfer dinasyddion penodol o Affganistan

Diwygiadau i reoliad 16

21.  Yn rheoliad 16—

(a)ym mharagraff (1)(b), ar ôl is-baragraff (i), mewnosoder—

(ia)bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;;

(b)ym mharagraff 2, yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”);”.

Diwygiadau i Atodlen 2

22.  Yn Atodlen 2, paragraff 2A—

(a)yn is-baragraff (4)(b)—

(i)hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd paragraff (iii);

(ii)ar ddiwedd paragraff (iv), yn lle’r hanner colon rhodder “, neu”;

(iii)ar ôl paragraff (iv), mewnosoder—

(v)person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;.

(b)ar ôl is-baragraff (4)(d) mewnosoder—

(da)ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” yw person—

(i)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo,

(ii)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid,

(iii)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan, neu

(iv)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (iii) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;.

PENNOD 4Diwygiadau sy’n ymwneud â chymorth ariannol

Diwygiadau i reoliad 31

23.  Yn rheoliad 31—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “£17,025” rhodder “£17,430”;

(b)ym mharagraff (3)(b), yn lle “£17,025” rhodder “£17,430”.

Diwygiadau i reoliad 36

24.  Yn rheoliad 36—

(a)ym mharagraff (8), yn lle “£17,025” rhodder “£17,430”;

(b)ym mharagraff (10), yn lle “£17,025” rhodder “£17,430”.

PENNOD 5Diwygiadau sy’n ymwneud â chyrsiau gwaith cymdeithasol ôl-raddedig penodol

Diwygiadau i reoliad 10

25.  Yn rheoliad 10(1)—

(a)yn Eithriad 9, hepgorer paragraff (d);

(b)ar ôl Eithriad 9, mewnosoder—

Eithriad 9A

Mewn cysylltiad â P yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig, rhoddwyd i P neu talwyd iddo unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac eithrio i’r graddau y mae P yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan fo’r cwrs dynodedig yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022.

Mewnosod rheoliad newydd 24A

26.  Yn Rhan 6, ar ôl y pennawd i Bennod 2 o’r Rhan honno, mewnosoder—

Amodau cymhwyso i gael grant sylfaenol

24A.  Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant sylfaenol mewn perthynas â chwrs dynodedig oni bai bod y myfyriwr cymwys yn fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig.

Diwygiad i reoliad 26

27.  Yn rheoliad 26, ar ôl “garcharor cymwys”, mewnosoder “neu’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.

Diwygiad i reoliad 31

28.  Yn rheoliad 31(1), ar ôl “fyfyriwr cymwys”, mewnosoder “nad yw’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.

Mewnosod rheoliad newydd 31A

29.  Ar ôl rheoliad 31, mewnosoder—

31A.(1) Cyfrifir swm y benthyciad cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig (“P”) fel a ganlyn—

£18,430

Minws

Swm y bwrsari gofal cymdeithasol a roddir neu a delir i P.

(2) Caiff myfyriwr gofal cymdeithasol cymwys wneud cais i Weinidogion Cymru i ddiwygio swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ar yr amod—

(a)nad yw cyfanred symiau’r benthyciad cyfrannu at gostau y gwneir cais amdanynt yn fwy na’r swm a gyfrifir yn unol â pharagraff (1), a

(b)bod cais o’r fath yn cael ei wneud yn unol â rheoliad 18(2).

(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “bwrsari gofal cymdeithasol” yw unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac eithrio i’r graddau y mae mewn cysylltiad â threuliau teithio.

Diwygiad i Atodlen 1

30.  Yn Atodlen 1, paragraff 3(1), yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “myfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig” (“postgraduate social care student”) yw myfyriwr cymwys y rhoddwyd neu y talwyd iddo unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

29 Mawrth 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio:

(a)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) (gweler Rhan 2 o’r Rheoliadau),

(b)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) (gweler Rhan 3 o’r Rheoliadau), ac

(c)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) (gweler Rhan 4 o’r Rheoliadau).

Mae Pennod 2 o Rannau 2, 3 a 4 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018 a Rheoliadau 2019 o ran cymhwystra sy’n codi o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae’r diwygiadau yn dileu cyfeiriadau at y “cyfnod gras” o ganlyniad i’r ffaith bod y cyfnod hwnnw bellach wedi mynd heibio.

Mae Pennod 3 o Rannau 3 a 4 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2018 a Rheoliadau 2019. Mae’r diwygiadau yn darparu i ddinasyddion Affganistan y rhoddir caniatâd amhenodol iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid neu’r Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan fod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr ar yr amod eu bod yn bodloni’r holl feini prawf eraill.

Mae Pennod 4 o Rannau 3 a 4 o’r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2018 a Rheoliadau 2019 sy’n ymwneud â’r swm o gymorth ariannol y caiff myfyriwr cymwys ei gael ar gyfer blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022.

Mae Pennod 5 o Ran 3 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2018. Mae’r diwygiad yn darparu i berson sy’n ymgymryd â rhaglen sy’n arwain at ddoethuriaeth mewn seicoleg addysgol ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, beidio â bod yn gymwys i gael cymorth ariannol pan fo bwrsari neu ddyfarndal tebyg a gyllidir gan Weinidogion Cymru wedi ei roi neu ei dalu iddo.

Mae Pennod 5 o Ran 4 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2019 er mwyn gwneud myfyrwyr sy’n ymgymryd â chwrs gwaith cymdeithasol ôl-raddedig, sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, yn gymwys i gael benthyciad cyfrannu at gostau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22(1) gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146(2)(a). Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(1)(b) a 22(2)(b) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru, gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8). Darparodd adran 44 o’r Ddeddf honno hefyd fod y swyddogaethau yn adran 22(2)(a) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i fod i gael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.