2.—(1) O ran y darpariaethau yn Neddf y Coronafeirws 2020 a bennir ym mharagraff (2)—
(a)nid ydynt yn dod i ben ar yr adeg y byddent yn dod i ben fel arall yn rhinwedd adran 89 o’r Ddeddf, a
(b)maent yn dod i ben yn lle hynny ar ddiwedd y diwrnod ar 24 Medi 2022.
(2) Y darpariaethau yw—
(a)adran 38(1), i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(b)adran 82, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(c)yn Rhan 1 o Atodlen 17—
(i)paragraff 2;
(ii)paragraff 3, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(iii)paragraff 4, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(iv)paragraff 7;
(v)paragraff 8.