Newid dyddiad dod i ben2
1
O ran y darpariaethau yn Neddf y Coronafeirws 2020 a bennir ym mharagraff (2)—
a
nid ydynt yn dod i ben ar yr adeg y byddent yn dod i ben fel arall yn rhinwedd adran 89 o’r Ddeddf, a
b
maent yn dod i ben yn lle hynny ar ddiwedd y diwrnod ar 24 Medi 2022.
2
Y darpariaethau yw—
a
adran 38(1), i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
b
adran 82, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
c
yn Rhan 1 o Atodlen 17—
i
paragraff 2;
ii
paragraff 3, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
iii
paragraff 4, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
iv
paragraff 7;
v
paragraff 8.