Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022
Enwi a chychwyn1.
Dehongli2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
(2)
Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.
Materion rhagnodedig y mae rhaid cynnwys gwybodaeth esboniadol ar eu cyfer yn y datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth3.
Rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth gynnwys gwybodaeth esboniadol ynghylch y materion a ganlyn—
(a)
statws y ddogfen (h.y., ei bod yn ddatganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth),
(b)
enw byr y Ddeddf y gwneir y contract meddiannaeth oddi tani,
(c)
ystyr—
(i)
“dyddiad meddiannu”, a
(ii)
“materion allweddol”,
(d)
prif nodweddion y canlynol—
(i)
“telerau sylfaenol”, h.y.—
(aa)
bod y rhain yn ddarpariaethau o’r Ddeddf neu unrhyw ddeddfiad arall y mae Gweinidogion Cymru yn pennu eu bod yn delerau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori yn awtomatig fel telerau’r contract meddiannaeth;
(bb)
(cc)
(ii)
“telerau atodol”, h.y.—
(aa)
bod y rhain yn ddarpariaethau a nodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, sydd hefyd wedi eu hymgorffori yn awtomatig, heblaw pan fo’r contract yn gontract wedi ei drosi, fel telerau’r contract meddiannaeth oni bai eu bod wedi eu hepgor neu eu haddasu fel y disgrifir ym mharagraff (cc) neu (dd);
(bb)
pan fo’r contract yn gontract wedi ei drosi, na chaiff y telerau atodol hynny sy’n anghydnaws â thelerau’r contract cyn ei drosi yn gontract meddiannaeth eu hymgorffori yn y contract meddiannaeth;
(cc)
y gellir hepgor neu addasu’r telerau atodol, yn ddarostyngedig i gytundeb y landlord a deiliad y contract, naill ai i wella sefyllfa’r landlord neu ddeiliad y contract, ar yr amod na fyddai’r hepgor neu addasu yn gwneud teler atodol yn anghydnaws â theler sylfaenol;
(dd)
pan fo’r contract yn gontract wedi ei drosi, unwaith i’r landlord roi i ddeiliad y contract ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth y gellir hepgor neu addasu’r telerau atodol fel y disgrifir ym mharagraff (cc);
(iii)
“telerau ychwanegol”, os cynhwysir y rhain yn y contract meddiannaeth, h.y.—
(aa)
y gall y rhain ymdrin ag unrhyw fater arall, ar yr amod nad ydynt yn gwrthdaro â mater allweddol, teler sylfaenol neu deler atodol;
(bb)
y cytunir ar y rhain gan y landlord a deiliad y contract;
(cc)
pan fo’r contract yn gontract wedi ei drosi, fod y rhain yn delerau presennol y contract, y cytunwyd arnynt gan ddeiliad y contract a’r landlord ac a oedd wedi eu cynnwys yn y contract cyn ei drosi yn gontract meddiannaeth, a fyddai’n parhau i gael effaith heblaw pan fônt yn anghymwys â darpariaeth sylfaenol a ymgorfforwyd fel un o delerau’r contract meddiannaeth,
(e)
(g)
F5os yw’r landlord yn methu â rhoi’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i ddeiliad y contract o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad meddiannu, caiff y landlord fod yn atebol i dalu digollediad i ddeiliad y contract sy’n cyfateb i ddiwrnod o rent am bob diwrnod na ddarperir y datganiad ysgrifenedig, gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu, hyd at uchafswm o ddau fis o rent (oni bai bod methiant y landlord i ddarparu’r datganiad ysgrifenedig yn fwriadol, ac os felly, caiff y llys benderfynu bod swm cynyddol yn daladwy fesul diwrnod),
(h)
(i)
bod y datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth yn nodi hawliau a chyfrifoldebau deiliad y contract a’r landlord,
(j)
y dylai deiliad y contract ddarllen telerau’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth er mwyn sicrhau ei fod yn eu deall yn llawn, a’i fod yn fodlon eu bod yn adlewyrchu’r addasiadau i delerau neu delerau ychwanegol y cytunwyd arnynt rhwng deiliad y contract a’r landlord,
(k)
y dylai deiliad y contract gadw’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth yn ddiogel gan y gallai fod arno angen cyfeirio ato yn y dyfodol,
(l)
y gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch contractau meddiannaeth, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch datrys anghydfodau—
(i)
ar y wefan a ddarperir gan Lywodraeth Cymru,
(ii)
gan asiantaethau cynghori megis y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru, neu
(iii)
gan gynghorwyr cyfreithiol annibynnol,
(m)
y gallai anghydfodau ynghylch telerau’r contract meddiannaeth gael eu penderfynu yn y llys sirol,
(n)
os oes gan ddeiliad contract broblem yn ymwneud â’r annedd, y dylai gysylltu â’i landlord yn gyntaf er mwyn ceisio ei datrys ond os nad yw hyn yn llwyddiannus yna o bosibl gall asiantaethau cynghori megis y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru neu gynghorwyr cyfreithiol annibynnol ei gynorthwyo,
(o)
(p)
na ellir troi deiliad y contract allan heb orchymyn llys, oni bai ei fod yn cefnu ar yr annedd,
(q)
bod gan ddeiliad y contract hawliau pwysig yn ymwneud â sut y gall ddefnyddio’r annedd, er bod rhai o’r hawliau hynny yn ddarostyngedig i gael cydsyniad y landlord,
(r)
(s)
gall ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ymddygiad gwaharddedig arall gynnwys—
(i)
gormod o sŵn,
(ii)
cam-drin geiriol,
(iii)
ymosod corfforol, a
(iv)
cam-drin domestig (gan gynnwys cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol),
(t)
y gallai hawl i olynu fod yn gymwys i rywun sy’n byw yn yr annedd gyda deiliad y contract,
(u)
na chaiff deiliad y contract ganiatáu i’r annedd fynd yn orlawn drwy ganiatáu i fwy o bersonau na’r uchafswm a ganiateir fyw yn yr annedd, a
(v)
Materion rhagnodedig pellach y mae rhaid darparu gwybodaeth esboniadol ar eu cyfer ar gyfer mathau penodol o ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth4.
Mae rheoliadau 5 i 9 yn rhagnodi’r wybodaeth esboniadol y mae rhaid ei chynnwys yn y datganiad ysgrifenedig o fathau penodedig o gontractau meddiannaeth.
Contract safonol cyfnodol5.
Mewn perthynas â chontract safonol cyfnodol, yn ogystal â chynnwys y materion a ragnodir yn rheoliad 3, rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth gynnwys gwybodaeth esboniadol ynghylch y materion a ganlyn—
(a)
bod contract deiliad y contract yn gyfnodol ac yn parhau o un cyfnod rhentu i’r nesaf (sef fel arfer yn fisol, yn wythnosol neu’n chwarterol);
(b)
cyn y gall llys wneud gorchymyn adennill meddiant, bod rhaid i’r landlord ddangos bod yr holl weithdrefnau cywir wedi eu dilyn a bod o leiaf un o’r canlynol wedi ei fodloni—
(i)
bod deiliad y contract wedi torri un neu ragor o delerau’r contract meddiannaeth (sy’n cynnwys methu â thalu rhent, ymgymryd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ymddygiad gwaharddedig arall neu fygwth ymgymryd ag ymddygiad o’r fath, neu fethu â gofalu’n briodol am yr annedd) a’i bod yn rhesymol ei droi allan;
(ii)
bod gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol (er enghraifft pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu);
(iii)
bod angen i’r landlord symud deiliad y contract a bod un o’r seiliau rheoli ystad o dan adran 160 (seiliau rheoli ystad) o’r Ddeddf yn gymwys, bod llety arall addas ar gael, neu y bydd ar gael, pan fydd y gorchymyn yn cael effaith a’i bod yn rhesymol ei droi allan;
(iv)
pan fo’r contract meddiannaeth yn ymgorffori adran 173 (hysbysiad y landlord) o’r Ddeddf fel teler o’r contract meddiannaeth, bod y landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 173 o’r Ddeddf bod rhaid iddo ildio meddiannaeth ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad a bod hefyd rhaid i’r landlord ddangos—
(aa)
(bb)
(cc)
pan fo’r contract o fewn Atodlen 8A i’r Ddeddf, y rhoddwyd o leiaf ddau fis o hysbysiad i ddeiliad y contract bod rhaid iddo ildio meddiant.
Contract safonol rhagarweiniol a chontract safonol ymddygiad gwaharddedig6.
Mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, yn ogystal â’r materion a ragnodir yn rheoliadau 3 a 5, rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth gynnwys gwybodaeth esboniadol ynghylch y mater a ganlyn: sef oni bai bod y contract meddiannaeth yn cael ei estyn neu ei derfynu fel arall, ar ddiwedd y cyfnod y gwneir y contract ar ei gyfer y bydd y contract yn dod yn gontract diogel.
Contract safonol â chymorth7.
Mewn perthynas â chontract safonol â chymorth, yn ogystal â’r materion a ragnodir yn rheoliadau 3 a 5, rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth gynnwys gwybodaeth esboniadol ynghylch y mater a ganlyn: sef y gellir gwahardd deiliad y contract dros dro o’r annedd os yw ef—
(a)
yn defnyddio trais yn erbyn person arall yn yr annedd,
(b)
yn gwneud rhywbeth yn yr annedd sy’n peri risg o niwed sylweddol i unrhyw berson, neu
(c)
yn ymddwyn mewn ffordd sy’n amharu’n ddifrifol ar allu preswylydd arall mewn llety â chymorth i fanteisio ar y cymorth a ddarperir mewn cysylltiad â’r llety hwnnw.
Contract safonol cyfnod penodol8.
Mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn ogystal â’r materion a ragnodir yn rheoliad 3, rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth gynnwys gwybodaeth esboniadol ynghylch y materion a ganlyn—
(a)
bod contract deiliad y contract ar gyfer contract safonol cyfnod penodol, a’i fod y para am gyfnod penodedig o amser y cytunir arno rhwng deiliad y contract a’r landlord;
(b)
cyn y gall llys wneud gorchymyn adennill meddiant, bod rhaid i’r landlord ddangos bod y gweithdrefnau cywir wedi eu dilyn a bod o leiaf un o’r canlynol wedi ei fodloni—
(i)
bod deiliad y contract wedi torri un neu ragor o delerau’r contract (sy’n cynnwys methu â thalu rhent, ymgymryd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ymddygiad gwaharddedig arall neu fygwth ymgymryd ag ymddygiad o’r fath, neu fethu â gofalu’n briodol am yr annedd) a’i bod yn rhesymol ei droi allan;
(ii)
bod gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol (er enghraifft pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu);
(iii)
bod angen i’r landlord symud deiliad y contract, a bod un o’r seiliau rheoli ystad o dan adran 160 o’r Ddeddf yn gymwys, bod llety arall addas ar gael, neu y bydd ar gael, pan fydd y gorchymyn yn cael effaith a’i bod yn rhesymol ei droi allan;
(iv)
(v)
pan fo’r contract meddiannaeth yn ymgorffori adran 194 (cymal terfynu’r landlord) o’r Ddeddf fel teler o’r contract meddiannaeth, bod y landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 194 o’r Ddeddf bod rhaid iddo ildio meddiant ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw, a bod hefyd rhaid i’r landlord ddangos—
(aa)
nad yw unrhyw gyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 194 o’r Ddeddf yn gymwys;
(bb)
(cc)
pan fo’r contract meddiannaeth o fewn Atodlen 8A i’r Ddeddf, y rhoddwyd o leiaf ddau fis o hysbysiad i ddeiliad y contract bod rhaid iddo ildio meddiant;
(dd)
pan fo’r contract meddiannaeth o fewn naill ai Atodlen 8A, Atodlen 9 neu Atodlen 9C neu unrhyw gyfuniad o’r Atodlenni hynny i’r Ddeddf, y rhoddwyd yr hysbysiad perthnasol i ddeiliad y contract bod rhaid iddo ildio meddiant; ac at ddibenion y paragraff hwn, yr “hysbysiad perthnasol” yw’r hysbysiad sy’n gymwys i’r math o gontract meddiannaeth gan roi sylw i unrhyw gyfyngiadau sy’n gymwys i’r math penodol hwnnw o gontract meddiannaeth;
(c)
pe bai deiliad y contract yn parhau i feddiannu’r annedd ar ôl diwedd y cyfnod, bod y landlord a deiliad y contract i’w trin fel pe baent wedi gwneud contract safonol cyfnodol newydd mewn perthynas â’r annedd.
Contract diogel9.
Mewn perthynas â chontract diogel, yn ogystal â’r materion a ragnodir yn rheoliad 3, rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth gynnwys gwybodaeth esboniadol ynghylch y materion a ganlyn—
(a)
cyn y gall llys wneud gorchymyn adennill meddiant, rhaid i’r landlord ddangos bod y gweithdrefnau cywir wedi eu dilyn a bod o leiaf un o’r canlynol wedi ei fodloni—
(i)
bod deiliad y contract wedi torri un neu ragor o delerau’r contract (sy’n cynnwys methu â thalu rhent, ymgymryd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ymddygiad gwaharddedig arall neu fygwth ymgymryd ag ymddygiad o’r fath, neu fethu â gofalu’n briodol am yr annedd) a’i bod yn rhesymol ei droi allan;
(ii)
bod angen i’r landlord symud deiliad y contract, a bod un o’r seiliau rheoli ystad o dan adran 160 o’r Ddeddf yn gymwys, bod llety arall addas ar gael, neu y bydd ar gael, pan fydd y gorchymyn yn cael effaith a’i bod yn rhesymol ei droi allan;
(b)
bod contract diogel deiliad y contract yn gyfnodol ac yn parhau o un cyfnod rhentu i’r nesaf (fel y cyfeirir ato yn y materion allweddol yn y datganiad ysgrifenedig).
Mae adran 32 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”) yn pennu’r wybodaeth a’r telerau y mae rhaid eu cynnwys mewn datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth.
Mae adran 32(4) o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth hefyd gynnwys gwybodaeth esboniadol am unrhyw faterion a ragnodir ac mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r wybodaeth esboniadol honno.
Mae rheoliadau 3 a 5 i 9 yn rhagnodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys yn y datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth perthnasol, gan gynnwys contractau wedi eu trosi (gweler paragraff 1(1) o Atodlen 12 i’r Ddeddf am y diffiniad o “contract wedi ei drosi”).
Mae rheoliad 3 yn gymwys i bob contract meddiannaeth.
Mae rheoliad 5 yn gymwys i gontractau safonol cyfnodol.
Mae rheoliad 6 yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.
Mae rheoliad 7 yn gymwys i gontractau safonol â chymorth.
Mae rheoliad 8 yn gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol.
Mae rheoliad 9 yn gymwys i gontractau diogel.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.