Contract safonol rhagarweiniol a chontract safonol ymddygiad gwaharddedig
6. Mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, yn ogystal â’r materion a ragnodir yn rheoliadau 3 a 5, rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth gynnwys gwybodaeth esboniadol ynghylch y mater a ganlyn: sef oni bai bod y contract meddiannaeth yn cael ei estyn neu ei derfynu fel arall, ar ddiwedd y cyfnod y gwneir y contract ar ei gyfer y bydd y contract yn dod yn gontract diogel.