- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14. Rhoddir yr hawl i reoleiddio pysgodfa ar gyfer y rhywogaethau rhagnodedig i’r Grantî am gyfnod o 35 o flynyddoedd yn dechrau ar 2 Ebrill 2022 mewn perthynas ag ardal y bysgodfa a reoleiddir(1).
15. Ni chaniateir i neb gymryd, neu dreillio neu bysgota am unrhyw un neu ragor o’r rhywogaethau rhagnodedig yn ardal y bysgodfa a reoleiddir oni bai y gwneir hynny o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan y Grantî.
16. Wrth arfer ei swyddogaethau trwyddedu o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r Grantî roi sylw i’r effaith y gallai’r gweithgarwch trwyddedig ei chael ar—
(a)y safleoedd morol Ewropeaidd; a
(b)yr amgylchedd morol.
17.—(1) Rhaid i gais am drwydded gael ei wneud ym mha ffurf a modd bynnag a bennir gan y Grantî.
(2) Rhaid i’r Grantî gyhoeddi ar ei wefan gopi o’r ffurflen gais am drwydded a gwybodaeth i ymgeiswyr ynghylch y broses o wneud cais.
(3) Caiff trwyddedai wneud cais ysgrifenedig i’r Grantî i ddiwygio’r drwydded, a rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth honno sy’n rhesymol ofynnol gan y Grantî er mwyn iddo ystyried y cais.
18. Rhaid i drwydded—
(a)datgan enw a chyfeiriad y trwyddedai;
(b)nodi manylion adnabod unrhyw lestr a awdurdodwyd i weithredu yn ardal y bysgodfa a reoleiddir, sef naill ai—
(i)enw a rhif trwydded llestr awdurdodedig; neu
(ii)rhif adnabod bad dŵr ar gyfer llestr ddidrwydded;
(c)pennu’r dulliau casglu a ganiateir;
(d)pennu’r cyfnod o amser y mae trwydded yn ddilys amdano. Ni chaniateir i’r cyfnod hwnnw fod yn hwy nag 1 flwyddyn;
(e)cynnwys amodau trwydded priodol; a
(f)meddu ar rif adnabod unigryw.
19.—(1) Rhaid i ymgeisydd am drwydded dalu toll o £150 i’r Grantî.
(2) Caniateir i’r Grantî amrywio’r doll sy’n daladwy o dan baragraff (1) gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
20.—(1) Caniateir i’r Grantî, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, wneud rheoliadau mewn perthynas â chymryd, neu dreillio neu bysgota am y rhywogaethau rhagnodedig yn ardal y bysgodfa a reoleiddir gyfan, neu ran ohoni.
(2) Caniateir i’r Grantî ddiwygio neu ddirymu’r rheoliadau hynny, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Reoliadau a wneir gan y Grantî o dan baragraff (1)—
(a)cynnwys y darpariaethau hynny (os oes rhai) y mae’r Grantî yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben—
(i)atal niwed i’r safleoedd morol Ewropeaidd; a
(ii)diogelu’r amgylchedd morol;
(b)datgan y dyddiad y daw’r rheoliadau hynny i rym;
(c)nodi’r rhan o ardal y bysgodfa a reoleiddir y maent yn gymwys iddi drwy gyfeirio at—
(i)ardal oddi mewn i linell a dynnir rhwng cyfesurynnau a restrir; a
(ii)map dangosol a atodir i’r rheoliadau yn dangos y rhan honno;
(d)cael eu cyhoeddi ar wefan y Grantî o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn iddynt ddod i rym, oni bai bod rhaid gwneud rheoliadau ar frys i ddiogelu—
(i)y safleoedd morol Ewropeaidd; neu
(ii)yr amgylchedd morol.
(4) Bydd dangos copi o reoliadau a wnaed gan y Grantî, ac a ardystiwyd gan Weinidogion Cymru fel copi gwir o’r rheoliadau gwreiddiol a gymeradwywyd ganddynt hwy, yn dystiolaeth derfynol o fodolaeth y rheoliadau.
21.—(1) Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru o dan erthygl 20(1) gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys—
(a)copi o’r rheoliadau drafft; a
(b)datganiad oddi wrth y Grantî o blaid y cais.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.
(3) Cyn rhoi cydsyniad i unrhyw reoliadau rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
(a)effaith y rheoliadau ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a
(b)effaith y rheoliadau ar yr amgylchedd morol.
(4) Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.
Nodir effaith rhoi hawl i reoleiddio pysgodfa yn adran 3 o’r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: