- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3. Rhoddir yr hawl i bysgodfa unigol am y rhywogaethau rhagnodedig i’r Grantî am gyfnod o 35 o flynyddoedd yn dechrau ar 2 Ebrill 2022 mewn perthynas ag ardal y bysgodfa unigol(1).
4.—(1) Caniateir i’r Grantî, o bryd i’w gilydd, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, ddynodi ardal y bysgodfa unigol.
(2) Rhaid i’r dynodiad fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo—
(a)nodi pob ardal sydd i’w dynodi drwy gyfeirio at ardal oddi mewn i linell a dynnir rhwng cyfesurynnau a restrir;
(b)cadarnhau ei fod wedi ei wneud o dan yr erthygl hon;
(c)datgan y dyddiad y mae i gymryd effaith; a
(d)fod wedi ei lofnodi gan y Grantî.
(3) Rhaid i’r Grantî gyhoeddi’r dynodiad ar ei wefan cyn pen 7 niwrnod ar ôl iddo gael effaith.
5.—(1) Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru i ddynodiad o dan erthygl 4(1) gael ei wneud yn ysgrifenedig ac—
(a)nodi ardal y bysgodfa unigol arfaethedig yn unol ag erthygl 4(2)(a);
(b)cynnwys map dangosol o ardal y Gorchymyn gyda ffiniau arfaethedig rhwng ardal y bysgodfa a reoleiddir ac ardal y bysgodfa unigol wedi eu marcio arno;
(c)cynnwys datganiad gan y Grantî o blaid y cais; a
(d)pan fo’r Grantî wedi gwneud rheoliadau o dan erthygl 20, rhaid i’r cais gadarnhau bod y Grantî wedi ystyried pa un a oes angen diwygio’r rheoliadau hynny.
(2) Ni chaniateir i’r Grantî geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru i ddynodiad o dan erthygl 4(1) sy’n cynnwys rhan o ardal y Gorchymyn y mae trwyddedau mewn grym mewn perthynas â hi.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.
(4) Wrth ystyried pa un ai i roi cydsyniad i ddynodiad rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
(a)effaith y dynodiad ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a
(b)effaith y dynodiad ar yr amgylchedd morol.
(5) Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.
6.—(1) Caiff y Grantî, o bryd i’w gilydd, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, ganslo’r dynodiad a wnaed o dan erthygl 4(1).
(2) Rhaid i hysbysiad canslo’r dynodiad gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo—
(a)cadarnhau ei fod wedi ei wneud o dan yr erthygl hon;
(b)cadarnhau’r dyddiad y mae i gymryd effaith; ac
(c)fod wedi ei lofnodi gan y Grantî.
(3) Ni chaniateir i’r Grantî geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru i ganslo dynodiad sy’n cynnwys rhan o ardal y Gorchymyn y mae lesoedd mewn grym mewn perthynas â hi.
(4) Rhaid i hysbysiad canslo’r dynodiad gael ei gyhoeddi gan y Grantî ar ei wefan cyn pen 7 niwrnod ar ôl iddo gael effaith.
7.—(1) Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru i ganslo dynodiad a wnaed o dan erthygl 4(1) gael ei wneud yn ysgrifenedig ac—
(a)cynnwys datganiad oddi wrth y Grantî o blaid y cais;
(b)cadarnhau ei fod wedi ei wneud o dan yr erthygl hon;
(c)cadarnhau’r dyddiad y mae’n cael effaith; a
(d)fod wedi ei lofnodi gan y Grantî.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.
(3) Wrth ystyried pa un ai i roi cydsyniad i gais i ganslo rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
(a)effaith y canslo ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a
(b)effaith y canslo ar yr amgylchedd morol.
(4) Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.
8.—(1) Ni chaniateir i’r Grantî arfer yr hawl i bysgodfa unigol.
(2) Caiff y Grantî, o bryd i’w gilydd, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, roi les dros ran o ardal y bysgodfa unigol.
(3) Ni chaniateir i’r Grantî, heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, lesio, aseinio neu mewn unrhyw ffordd arall drosglwyddo’r hawl i bysgodfa unigol i berson arall.
(4) Mewn perthynas ag unrhyw les a roddir gan y Grantî—
(a)ni chaniateir iddi barhau’n hwy na chyfnod o 7 mlynedd, a lle y bo’n gymwys rhaid iddi ddod i ben ar y dyddiad y mae’r hawl i bysgodfa unigol yn dod i ben yn unol ag erthygl 3 neu cyn hynny;
(b)rhaid iddi wahardd aseinio’r les, neu roi is-les a’i haseinio, heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru;
(c)rhaid iddi ei gwneud yn ofynnol i’r tenant gadw marciau’r fagwrfa yn eu lle ac mewn cyflwr da;
(d)rhaid iddi ei gwneud yn ofynnol i’r tenant gadw’r fagwrfa er boddhad y Grantî;
(e)rhaid iddi ganiatáu i Weinidogion Cymru, neu unrhyw berson a awdurdodir ganddynt, gael mynediad i’r fagwrfa at ddiben—
(i)arolwg amgylcheddol;
(ii)monitro stoc;
(iii)monitro lledaeniad y rhywogaethau rhagnodedig;
(iv)atal clefydau; a
(v)casglu samplau.
(f)rhaid iddi ganiatáu i’r Grantî arolygu’r fagwrfa at ddiben monitro cydymffurfedd â’r les;
(g)rhaid iddi ei gwneud yn ofynnol i’r tenant gydymffurfio ag unrhyw hysbysiad gwarchod safle sy’n ymwneud â’i fagwrfa a gyflwynwyd i’r Grantî; ac
(h)rhaid iddi ddarparu pe bai’r tenant yn torri’r les y caniateir i’r Grantî—
(i)cymryd y camau angenrheidiol i unioni’r toriad; a
(ii)terfynu’r les.
9.—(1) Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru o dan erthygl 8(2) gael ei wneud yn ysgrifenedig a chynnwys—
(a)copi o’r les ddrafft; a
(b)datganiad oddi wrth y Grantî o blaid y cais.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.
(3) Cyn rhoi cydsyniad i unrhyw les rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
(a)effaith y les arfaethedig ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a
(b)effaith y les arfaethedig ar yr amgylchedd morol.
(4) Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.
10. Rhaid i’r Grantî gymryd pob cam rhesymol i fonitro cydymffurfedd tenant ag unrhyw les a roddir.
11. Mae les yn cael effaith fel pe bai’r hawl y mae’n ei rhoi i’r tenant wedi ei rhoi drwy orchymyn a wnaed o dan adran 1 o’r Ddeddf, ac fel pe bai unrhyw delerau ac amodau sydd wedi eu cynnwys yn y les wedi eu cynnwys mewn gorchymyn o’r fath.
12.—(1) Pe bai magwrfa yn dod yn wag, cyn rhoi les newydd, rhaid i’r Grantî—
(a)hysbysebu’r cyfle i wneud cais am les ar ei wefan ac mewn o leiaf un papur newydd lleol;
(b)cyhoeddi ar ei wefan y meini prawf y bydd y Grantî yn eu defnyddio i asesu’r ceisiadau a ddaw i law;
(c)caniatáu cyfnod nad yw’n llai na 28 o ddiwrnodau ar gyfer cyflwyno ceisiadau; a
(d)asesu pob cais yn unol â’r meini prawf cyhoeddedig ac yn unol â pharagraff (2).
(2) Wrth asesu ceisiadau sy’n dod i law oddi wrth ddarpar denantiaid, rhaid i’r Grantî roi sylw i pa un a yw ymgeiswyr yn gallu dangos naill ai—
(a)tystiolaeth o gymhwysedd i weithredu magwrfa yn ddiogel; neu
(b)cynigion i gael hyfforddiant neu gymwysterau perthnasol i gaffael cymhwysedd i weithredu magwrfa yn ddiogel.
(3) At ddibenion paragraff (1), mae magwrfa yn dod yn wag os yw tenant y fagwrfa honno—
(a)yn ildio ei les i’r Grantî;
(b)yn fforffedu ei les i’r Grantî; neu
(c)pan ddaw tymor un les i ben, yn peidio â gwneud cais am les newydd.
13. Rhaid i’r holl incwm y mae’r Grantî yn ei gael drwy rent sy’n daladwy o dan les gael ei gymhwyso at y dibenion a ganlyn yn y drefn o ran blaenoriaeth a restrir isod—
(a)talu treuliau cael y Gorchymyn hwn;
(b)marcio ffiniau ardal y bysgodfa unigol a’r magwrfeydd;
(c)dinistrio plâu sy’n niweidiol i’r rhywogaethau rhagnodedig; a
(d)rheoli, goruchwylio a gwella ardal y bysgodfa unigol.
Nodir effaith rhoi hawl i bysgodfa unigol yn adran 2 o’r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: