RHAN 1Materion rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision a Wystrys Afon Menai (Dwyrain) 2022 a daw i rym ar 2 Ebrill 2022.
2
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “amgylchedd morol” yr ystyr a roddir i “marine environment” yn adran 5A(2) o’r Ddeddf;
ystyr “ardal y bysgodfa a reoleiddir” (“the regulated fishery area”) yw unrhyw ran o ardal y Gorchymyn nad yw am y tro wedi ei dynodi yn ardal y bysgodfa unigol;
ystyr “ardal y bysgodfa unigol” (“the several fishery area”) yw unrhyw ran o ardal y Gorchymyn a ddynodir yn ardal y bysgodfa unigol yn unol ag erthygl 4(1);
ystyr “ardal y Gorchymyn” (“the Order area”) yw’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn;
ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967;
ystyr “y Grantî” (“the Grantee”) yw Menai Strait Fishery Order Management Association (Rhif Cwmni: 07163689) sydd â’i swyddfa gofrestredig yn d/o Myti Mussels Limited, Porth Penrhyn, Bangor, Gwynedd, LL57 4HN;
ystyr “hysbysiad gwarchod safle” (“site protection notice”) yw hysbysiad a gyflwynir i’r Grantî o dan adran 5B o’r Ddeddf5;
ystyr “les” (“lease”) yw les o’r hawl i bysgodfa unigol;
ystyr “llestr drwyddedig” (“licensed vessel”) yw llestr a awdurdodir i bysgota drwy drwydded a ddyroddir o dan adran 14 neu adran 16 o Ddeddf Pysgodfeydd 20206;
ystyr “magwrfa” (“laying”) yw rhan o ardal y bysgodfa unigol y caniateir rhoi, neu y rhoddwyd, les mewn cysylltiad â hi;
ystyr “rhif adnabod bad dŵr” (“watercraft identification number”) yw rhif adnabod y darperir ar ei gyfer—
- a
ym mharagraff 2.1 o Ran A o Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb fel y’i nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Badau Hamdden 20177;
- b
ym mharagraff 2.1 o Ran A o Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb fel y’i nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Badau Hamdden 20048;
- c
ym mharagraff 2.1 o Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb fel y’i nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Badau Hamdden 19969.
- a
ystyr “y rhywogaethau rhagnodedig” (“the prescribed species”) yw pysgod cregyn o’r rhywogaethau mytilus edulis ac ostreidae;
ystyr “y safleoedd morol Ewropeaidd” (“the European marine sites”) yw—
- a
ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Môr-wenoliaid Ynys Môn/Anglesey Terns (cod yr UE UK 9013061);
- b
ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Bae Lerpwl/Liverpool Bay (cod yr UE UK 9020294);
- c
ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Traeth Lafan/Lavan Sands Bae Conwy (cod yr UE UK 9013031);
- d
ardal cadwraeth arbennig ddynodedig y Fenai a Bae Conwy/Menai Strait and Conwy Bay (cod yr UE UK 0030202);
- e
ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Ynys Seiriol/Puffin Island (cod yr UE UK 9020285);
i’r graddau y maent yn cynnwys ardaloedd morol;
- a
ystyr “tenant” (“tenant”) yw person y rhoddir les iddo o dan erthygl 8(2);
ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded a roddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;
ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw berson sydd, neu yr ystyrir ei fod, yn ymgymerydd statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o Ran 11 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 199010.