(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi i Menai Strait Fishery Order Management Association (Rhif Cwmni: 07163689) (“y Grantî”) yr hawl i bysgodfa unigol a’r hawl i reoleiddio pysgodfa am rywogaethau rhagnodedig o bysgod cregyn. Y rhywogaethau rhagnodedig yw cregyn gleision a wystrys. Mae’r hawliau yn bodoli dros ardal o tua 694 o hectarau o flaendraeth a gwely Afon Menai yn Siroedd Gwynedd ac Ynys Môn fel y’i pennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn (“ardal y Gorchymyn”). Rhoddir yr hawl i bysgodfa unigol a’r hawl i reoleiddio pysgodfa i’r Grantî am gyfnod o 35 o flynyddoedd yn dechrau ar 2 Ebrill 2022.
Mae Rhan 1 o’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer materion rhagarweiniol. Mae erthygl 1 yn darparu ar gyfer enwi, cychwyn a chymhwyso’r Gorchymyn. Mae erthygl 2 yn darparu ar gyfer dehongli’r Gorchymyn.
Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer arfer yr hawl i bysgodfa unigol. Mae erthygl 3 yn rhoi’r hawl i bysgodfa unigol i’r Grantî dros ardal y bysgodfa unigol. Mae erthygl 4 yn darparu y caniateir i’r Grantî ddynodi, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, unrhyw ran o ardal y Gorchymyn yn ardal y bysgodfa unigol. Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer cydsyniad Gweinidogion Cymru i’r dynodiad. Mae erthygl 6 yn darparu y caiff y Grantî ganslo dynodiad ardal y bysgodfa unigol. Mae erthygl 7 yn darparu ar gyfer cydsyniad Gweinidogion Cymru i ganslo dynodiad. Mae erthygl 8 yn gwahardd y Grantî rhag arfer yr hawl i bysgodfa unigol ac yn darparu y caiff y Grantî, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol gan gynnwys gofyniad i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru, roi les o’r hawl i bysgodfa unigol ar draws ardal y bysgodfa unigol gyfan neu ran ohoni (“magwrfa”) i eraill (“y tenantiaid”). Mae erthygl 9 yn darparu ar gyfer cydsyniad Gweinidogion Cymru i roi les o’r hawl i bysgodfa unigol. Mae erthygl 10 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî gymryd pob cam rhesymol i fonitro cydymffurfedd y tenant â les. Mae erthygl 11 yn darparu ar gyfer effaith les. Mae erthygl 12 yn darparu os yw magwrfa yn dod yn wag bod rhaid i’r Grantî hysbysebu’r cyfle i wneud cais am les a’r meini prawf a ddefnyddir i asesu cais. Mae erthygl 13 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî gymhwyso unrhyw renti a dderbynnir ganddo o dan les at ddibenion penodedig.
Mae Rhan 3 o’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer arfer yr hawl i reoleiddio pysgodfa. Mae erthygl 14 yn rhoi’r hawl i reoleiddio pysgodfa mewn perthynas ag ardal y bysgodfa a reoleiddir. Mae erthygl 2 yn darparu mai ardal y bysgodfa a reoleiddir yw unrhyw ran o ardal y Gorchymyn nas dynodwyd yn ardal y bysgodfa unigol o dan erthygl 4. Mae erthygl 15 yn gwahardd unrhyw berson rhag cymryd, neu dreillio neu bysgota am unrhyw un neu ragor o’r rhywogaethau rhagnodedig yn ardal y bysgodfa a reoleiddir heb drwydded. Mae erthygl 16 yn darparu ar gyfer y materion y mae rhaid i’r Grantî roi sylw iddynt wrth arfer ei swyddogaethau trwyddedu. Mae erthygl 17 yn darparu ar gyfer ceisiadau am drwydded, cyhoeddi gwybodaeth am y broses o wneud cais am drwydded, a diwygio trwydded. Mae erthygl 18 yn nodi manylion y mae rhaid eu cynnwys ym mhob trwydded. Mae erthygl 19 yn darparu ar gyfer y doll sy’n daladwy pan gyflwynir cais am drwydded. Mae erthygl 20 yn darparu y caniateir i’r Grantî, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, wneud rheoliadau mewn perthynas â chymryd, neu dreillio neu bysgota am unrhyw un neu ragor o’r rhywogaethau rhagnodedig yn y bysgodfa a reoleiddir. Mae erthygl 21 yn darparu ar gyfer cydsyniad Gweinidogion Cymru i reoliadau a wnaed o dan erthygl 20.
Mae Rhan 4 o’r Gorchymyn yn gwneud darpariaethau amrywiol sy’n gymwys i’r ddwy hawl i bysgodfa. Mae erthygl 22 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî sicrhau bod map dangosol o ardal y Gorchymyn ar gael i’r cyhoedd. Mae erthygl 23 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu i Weinidogion Cymru gyfrifon o incwm a gwariant, a gwybodaeth arall ynghylch y Gorchymyn, a chaniatáu i Weinidogion Cymru arolygu ardal y Gorchymyn. Mae erthygl 24 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî gyflwyno datganiad daliadau yn flynyddol i Weinidogion Cymru. Mae erthygl 25 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ofyn i’r Grantî farcio terfynau ardal y Gorchymyn a’r ffin rhwng ardal y bysgodfa unigol ac ardal y bysgodfa a reoleiddir. Mae erthygl 26 yn darparu na chaiff dim sydd yn y Gorchymyn hwn leihau effaith hawliau tirfeddianwyr yn ardal y Gorchymyn. Mae erthygl 27 yn darparu na chaiff dim sydd yn y Gorchymyn hwn leihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol. Mae erthygl 28 yn dirymu Gorchymyn Pysgodfa Wystrys a Chregyn Gleision Afon Menai 1962 (O.S. 1962/705) a Gorchymyn Pysgodfa Wystrys a Chregyn Gleision Afon Menai (Diwygio) 1964 (O.S. 1964/550).
Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn nodi cyfesurynnau ardal y Gorchymyn. Mae map dangosol o ardal y Gorchymyn hefyd wedi ei gynnwys ar ddiwedd y nodyn hwn.
Mae’r hawliau i bysgodfa a roddir gan y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i adrannau 5 i 5E o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 (“y Ddeddf”). Mae adran 5(1) o’r Ddeddf yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i derfynu’r bysgodfa os nad ydynt yn fodlon bod y Grantï yn ffermio’r bysgodfa yn briodol neu’n gweithredu yn unol â’r Gorchymyn hwn. Mae adran 5A o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i unrhyw orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 1 o’r Ddeddf gynnwys darpariaeth briodol i atal niwed i unrhyw safle morol Ewropeaidd ac i ddiogelu’r amgylchedd morol. Mae adran 5B o’r Ddeddf yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i gyflwyno hysbysiad gwarchod safle i’r Grantï os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru bod niwed i safle morol Ewropeaidd wedi digwydd, neu’n debygol o ddigwydd, o ganlyniad i unrhyw weithgarwch a gynhelir drwy arfer hawl a roddir o dan y Gorchymyn hwn. Caiff hysbysiad gwarchod safle ei gwneud yn ofynnol i’r Grantï gymryd camau i atal niwed (neu niwed pellach) i safle morol Ewropeaidd. O dan adran 5C caiff y Grantî apelio yn erbyn hysbysiad gwarchod safle. Mae adran 5D yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, os nad yw’r Grantî yn cydymffurfio â hysbysiad, gymryd y camau a nodwyd yn yr hysbysiad eu hunain, ac adennill oddi wrth y Grantî unrhyw gostau yr aed iddynt. Mae adran 5E yn darparu, os yw’r Grantî yn methu â chydymffurfio â’r hysbysiad, ac nad yw wedi apelio yn ei erbyn, y caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu’r Gorchymyn hwn i adlewyrchu effaith yr hysbysiad gwarchod safle.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.