2022 Rhif 213 (Cy. 69)

Pysgodfeydd Môr, CymruPysgod Cregyn

Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision a Wystrys Afon Menai (Dwyrain) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Gwnaeth The Menai Strait Fishery Order Management Association (Rhif Cwmni: 07163689) (“y Grantî”) gais i Weinidogion Cymru am orchymyn sy’n rhoi hawliau i bysgodfa o dan adran 1(2) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 19671 (“y Ddeddf”).

Mae Gweinidogion Cymru wedi llunio Gorchymyn drafft ac wedi cyflwyno copi ohono i’r Grantî yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf2.

Mae’r Grantî wedi peri i gopïau printiedig o’r Gorchymyn drafft gael eu cyhoeddi a’u cylchredeg, ac wedi rhoi hysbysiad am y cais, yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried y gwrthwynebiadau a’r sylwadau a gyflwynwyd mewn cysylltiad â’r Gorchymyn drafft, yn unol â pharagraffau 3 i 6 o Atodlen 1 i’r Ddeddf, ac yn ystyried ei bod yn hwylus gwneud y Gorchymyn hwn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i bwerau a dyletswyddau Comisiynwyr Ystad y Goron o dan Ddeddf Ystad y Goron 19613 yn unol â pharagraff 6(2) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaeth briodol i atal niwed i safleoedd morol Ewropeaidd ac at ddiben diogelu’r amgylchedd morol yn unol ag adran 5A o’r Ddeddf.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1 a 4 o’r Ddeddf a freinir bellach ynddynt hwy4.