Search Legislation

Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision a Wystrys Afon Menai (Dwyrain) 2022

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 213 (Cy. 69)

Pysgodfeydd Môr, Cymru

Pysgod Cregyn

Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision a Wystrys Afon Menai (Dwyrain) 2022

Gwnaed

3 Mawrth 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

4 Mawrth 2022

Yn dod i rym

2 Ebrill 2022

Gwnaeth The Menai Strait Fishery Order Management Association (Rhif Cwmni: 07163689) (“y Grantî”) gais i Weinidogion Cymru am orchymyn sy’n rhoi hawliau i bysgodfa o dan adran 1(2) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967(1) (“y Ddeddf”).

Mae Gweinidogion Cymru wedi llunio Gorchymyn drafft ac wedi cyflwyno copi ohono i’r Grantî yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf(2).

Mae’r Grantî wedi peri i gopïau printiedig o’r Gorchymyn drafft gael eu cyhoeddi a’u cylchredeg, ac wedi rhoi hysbysiad am y cais, yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried y gwrthwynebiadau a’r sylwadau a gyflwynwyd mewn cysylltiad â’r Gorchymyn drafft, yn unol â pharagraffau 3 i 6 o Atodlen 1 i’r Ddeddf, ac yn ystyried ei bod yn hwylus gwneud y Gorchymyn hwn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i bwerau a dyletswyddau Comisiynwyr Ystad y Goron o dan Ddeddf Ystad y Goron 1961(3) yn unol â pharagraff 6(2) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaeth briodol i atal niwed i safleoedd morol Ewropeaidd ac at ddiben diogelu’r amgylchedd morol yn unol ag adran 5A o’r Ddeddf.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1 a 4 o’r Ddeddf a freinir bellach ynddynt hwy(4).

(1)

1967 p. 83. Diwygiwyd adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 (“y Ddeddf”) gan adran 9(1) o Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p. 86), a pharagraff 15 o Atodlen 2 iddi; adrannau 202(1), (2) a (3), 203 a 321 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23), a Rhan 5(A) o Atodlen 22 iddi; ac adrannau 71(1) a 74(1) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3). Mae adran 1 i’w darllen gydag adran 15(3) i (5) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p. 77). Gweler adran 22(1) o’r Ddeddf am ddiffiniad o “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”).

(2)

Diwygiwyd Atodlen 1 i’r Ddeddf gan adran 15(1) a (7) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p. 77); adran 31(6) o Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977 (p. 45), adrannau 37 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48) ac adrannau 202(1), (4), 214(1) i (4) a 321 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23), a Rhan 5(A) o Atodlen 22 iddi.

(4)

Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddi, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog priodol, fel y’i diffinnir yn adran 22(1) o’r Ddeddf, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny a oedd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources