RHAN 1Materion rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision a Wystrys Afon Menai (Dwyrain) 2022 a daw i rym ar 2 Ebrill 2022.

2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • mae i “amgylchedd morol” yr ystyr a roddir i “marine environment” yn adran 5A(2) o’r Ddeddf;

  • ystyr “ardal y bysgodfa a reoleiddir” (“the regulated fishery area”) yw unrhyw ran o ardal y Gorchymyn nad yw am y tro wedi ei dynodi yn ardal y bysgodfa unigol;

  • ystyr “ardal y bysgodfa unigol” (“the several fishery area”) yw unrhyw ran o ardal y Gorchymyn a ddynodir yn ardal y bysgodfa unigol yn unol ag erthygl 4(1);

  • ystyr “ardal y Gorchymyn” (“the Order area”) yw’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn;

  • ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967;

  • ystyr “y Grantî” (“the Grantee”) yw Menai Strait Fishery Order Management Association (Rhif Cwmni: 07163689) sydd â’i swyddfa gofrestredig yn d/o Myti Mussels Limited, Porth Penrhyn, Bangor, Gwynedd, LL57 4HN;

  • ystyr “hysbysiad gwarchod safle” (“site protection notice”) yw hysbysiad a gyflwynir i’r Grantî o dan adran 5B o’r Ddeddf5;

  • ystyr “les” (“lease”) yw les o’r hawl i bysgodfa unigol;

  • ystyr “llestr drwyddedig” (“licensed vessel”) yw llestr a awdurdodir i bysgota drwy drwydded a ddyroddir o dan adran 14 neu adran 16 o Ddeddf Pysgodfeydd 20206;

  • ystyr “magwrfa” (“laying”) yw rhan o ardal y bysgodfa unigol y caniateir rhoi, neu y rhoddwyd, les mewn cysylltiad â hi;

  • ystyr “rhif adnabod bad dŵr” (“watercraft identification number”) yw rhif adnabod y darperir ar ei gyfer—

    1. a

      ym mharagraff 2.1 o Ran A o Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb fel y’i nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Badau Hamdden 20177;

    2. b

      ym mharagraff 2.1 o Ran A o Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb fel y’i nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Badau Hamdden 20048;

    3. c

      ym mharagraff 2.1 o Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb fel y’i nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Badau Hamdden 19969.

  • ystyr “y rhywogaethau rhagnodedig” (“the prescribed species”) yw pysgod cregyn o’r rhywogaethau mytilus edulis ac ostreidae;

  • ystyr “y safleoedd morol Ewropeaidd” (“the European marine sites”) yw—

    1. a

      ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Môr-wenoliaid Ynys Môn/Anglesey Terns (cod yr UE UK 9013061);

    2. b

      ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Bae Lerpwl/Liverpool Bay (cod yr UE UK 9020294);

    3. c

      ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Traeth Lafan/Lavan Sands Bae Conwy (cod yr UE UK 9013031);

    4. d

      ardal cadwraeth arbennig ddynodedig y Fenai a Bae Conwy/Menai Strait and Conwy Bay (cod yr UE UK 0030202);

    5. e

      ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Ynys Seiriol/Puffin Island (cod yr UE UK 9020285);

      i’r graddau y maent yn cynnwys ardaloedd morol;

  • ystyr “tenant” (“tenant”) yw person y rhoddir les iddo o dan erthygl 8(2);

  • ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded a roddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;

  • ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw berson sydd, neu yr ystyrir ei fod, yn ymgymerydd statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o Ran 11 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 199010.

RHAN 2Yr hawl i bysgodfa unigol

Yr hawl i bysgodfa unigol3

Rhoddir yr hawl i bysgodfa unigol am y rhywogaethau rhagnodedig i’r Grantî am gyfnod o 35 o flynyddoedd yn dechrau ar 2 Ebrill 2022 mewn perthynas ag ardal y bysgodfa unigol11.

Dynodi ardal y bysgodfa unigol4

1

Caniateir i’r Grantî, o bryd i’w gilydd, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, ddynodi ardal y bysgodfa unigol.

2

Rhaid i’r dynodiad fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo—

a

nodi pob ardal sydd i’w dynodi drwy gyfeirio at ardal oddi mewn i linell a dynnir rhwng cyfesurynnau a restrir;

b

cadarnhau ei fod wedi ei wneud o dan yr erthygl hon;

c

datgan y dyddiad y mae i gymryd effaith; a

d

fod wedi ei lofnodi gan y Grantî.

3

Rhaid i’r Grantî gyhoeddi’r dynodiad ar ei wefan cyn pen 7 niwrnod ar ôl iddo gael effaith.

Cydsyniad Gweinidogion Cymru i ddynodiad a wneir o dan erthygl 4(1)5

1

Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru i ddynodiad o dan erthygl 4(1) gael ei wneud yn ysgrifenedig ac—

a

nodi ardal y bysgodfa unigol arfaethedig yn unol ag erthygl 4(2)(a);

b

cynnwys map dangosol o ardal y Gorchymyn gyda ffiniau arfaethedig rhwng ardal y bysgodfa a reoleiddir ac ardal y bysgodfa unigol wedi eu marcio arno;

c

cynnwys datganiad gan y Grantî o blaid y cais; a

d

pan fo’r Grantî wedi gwneud rheoliadau o dan erthygl 20, rhaid i’r cais gadarnhau bod y Grantî wedi ystyried pa un a oes angen diwygio’r rheoliadau hynny.

2

Ni chaniateir i’r Grantî geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru i ddynodiad o dan erthygl 4(1) sy’n cynnwys rhan o ardal y Gorchymyn y mae trwyddedau mewn grym mewn perthynas â hi.

3

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.

4

Wrth ystyried pa un ai i roi cydsyniad i ddynodiad rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

a

effaith y dynodiad ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a

b

effaith y dynodiad ar yr amgylchedd morol.

5

Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.

Canslo dynodiad a wnaed o dan erthygl 4(1)6

1

Caiff y Grantî, o bryd i’w gilydd, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, ganslo’r dynodiad a wnaed o dan erthygl 4(1).

2

Rhaid i hysbysiad canslo’r dynodiad gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo—

a

cadarnhau ei fod wedi ei wneud o dan yr erthygl hon;

b

cadarnhau’r dyddiad y mae i gymryd effaith; ac

c

fod wedi ei lofnodi gan y Grantî.

3

Ni chaniateir i’r Grantî geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru i ganslo dynodiad sy’n cynnwys rhan o ardal y Gorchymyn y mae lesoedd mewn grym mewn perthynas â hi.

4

Rhaid i hysbysiad canslo’r dynodiad gael ei gyhoeddi gan y Grantî ar ei wefan cyn pen 7 niwrnod ar ôl iddo gael effaith.

Cydsyniad Gweinidogion Cymru i ganslo dynodiad a wnaed o dan erthygl 4(1)7

1

Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru i ganslo dynodiad a wnaed o dan erthygl 4(1) gael ei wneud yn ysgrifenedig ac—

a

cynnwys datganiad oddi wrth y Grantî o blaid y cais;

b

cadarnhau ei fod wedi ei wneud o dan yr erthygl hon;

c

cadarnhau’r dyddiad y mae’n cael effaith; a

d

fod wedi ei lofnodi gan y Grantî.

2

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.

3

Wrth ystyried pa un ai i roi cydsyniad i gais i ganslo rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

a

effaith y canslo ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a

b

effaith y canslo ar yr amgylchedd morol.

4

Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.

Cyfyngiadau ar yr hawl i bysgodfa unigol8

1

Ni chaniateir i’r Grantî arfer yr hawl i bysgodfa unigol.

2

Caiff y Grantî, o bryd i’w gilydd, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, roi les dros ran o ardal y bysgodfa unigol.

3

Ni chaniateir i’r Grantî, heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, lesio, aseinio neu mewn unrhyw ffordd arall drosglwyddo’r hawl i bysgodfa unigol i berson arall.

4

Mewn perthynas ag unrhyw les a roddir gan y Grantî—

a

ni chaniateir iddi barhau’n hwy na chyfnod o 7 mlynedd, a lle y bo’n gymwys rhaid iddi ddod i ben ar y dyddiad y mae’r hawl i bysgodfa unigol yn dod i ben yn unol ag erthygl 3 neu cyn hynny;

b

rhaid iddi wahardd aseinio’r les, neu roi is-les a’i haseinio, heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru;

c

rhaid iddi ei gwneud yn ofynnol i’r tenant gadw marciau’r fagwrfa yn eu lle ac mewn cyflwr da;

d

rhaid iddi ei gwneud yn ofynnol i’r tenant gadw’r fagwrfa er boddhad y Grantî;

e

rhaid iddi ganiatáu i Weinidogion Cymru, neu unrhyw berson a awdurdodir ganddynt, gael mynediad i’r fagwrfa at ddiben—

i

arolwg amgylcheddol;

ii

monitro stoc;

iii

monitro lledaeniad y rhywogaethau rhagnodedig;

iv

atal clefydau; a

v

casglu samplau.

f

rhaid iddi ganiatáu i’r Grantî arolygu’r fagwrfa at ddiben monitro cydymffurfedd â’r les;

g

rhaid iddi ei gwneud yn ofynnol i’r tenant gydymffurfio ag unrhyw hysbysiad gwarchod safle sy’n ymwneud â’i fagwrfa a gyflwynwyd i’r Grantî; ac

h

rhaid iddi ddarparu pe bai’r tenant yn torri’r les y caniateir i’r Grantî—

i

cymryd y camau angenrheidiol i unioni’r toriad; a

ii

terfynu’r les.

Cydsyniad Gweinidogion Cymru i les9

1

Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru o dan erthygl 8(2) gael ei wneud yn ysgrifenedig a chynnwys—

a

copi o’r les ddrafft; a

b

datganiad oddi wrth y Grantî o blaid y cais.

2

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.

3

Cyn rhoi cydsyniad i unrhyw les rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

a

effaith y les arfaethedig ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a

b

effaith y les arfaethedig ar yr amgylchedd morol.

4

Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.

Dyletswydd Grantî i fonitro cydymffurfedd â les10

Rhaid i’r Grantî gymryd pob cam rhesymol i fonitro cydymffurfedd tenant ag unrhyw les a roddir.

Effaith les11

Mae les yn cael effaith fel pe bai’r hawl y mae’n ei rhoi i’r tenant wedi ei rhoi drwy orchymyn a wnaed o dan adran 1 o’r Ddeddf, ac fel pe bai unrhyw delerau ac amodau sydd wedi eu cynnwys yn y les wedi eu cynnwys mewn gorchymyn o’r fath.

Cyfleoedd les newydd12

1

Pe bai magwrfa yn dod yn wag, cyn rhoi les newydd, rhaid i’r Grantî—

a

hysbysebu’r cyfle i wneud cais am les ar ei wefan ac mewn o leiaf un papur newydd lleol;

b

cyhoeddi ar ei wefan y meini prawf y bydd y Grantî yn eu defnyddio i asesu’r ceisiadau a ddaw i law;

c

caniatáu cyfnod nad yw’n llai na 28 o ddiwrnodau ar gyfer cyflwyno ceisiadau; a

d

asesu pob cais yn unol â’r meini prawf cyhoeddedig ac yn unol â pharagraff (2).

2

Wrth asesu ceisiadau sy’n dod i law oddi wrth ddarpar denantiaid, rhaid i’r Grantî roi sylw i pa un a yw ymgeiswyr yn gallu dangos naill ai—

a

tystiolaeth o gymhwysedd i weithredu magwrfa yn ddiogel; neu

b

cynigion i gael hyfforddiant neu gymwysterau perthnasol i gaffael cymhwysedd i weithredu magwrfa yn ddiogel.

3

At ddibenion paragraff (1), mae magwrfa yn dod yn wag os yw tenant y fagwrfa honno—

a

yn ildio ei les i’r Grantî;

b

yn fforffedu ei les i’r Grantî; neu

c

pan ddaw tymor un les i ben, yn peidio â gwneud cais am les newydd.

Incwm o ardal y bysgodfa unigol13

Rhaid i’r holl incwm y mae’r Grantî yn ei gael drwy rent sy’n daladwy o dan les gael ei gymhwyso at y dibenion a ganlyn yn y drefn o ran blaenoriaeth a restrir isod—

a

talu treuliau cael y Gorchymyn hwn;

b

marcio ffiniau ardal y bysgodfa unigol a’r magwrfeydd;

c

dinistrio plâu sy’n niweidiol i’r rhywogaethau rhagnodedig; a

d

rheoli, goruchwylio a gwella ardal y bysgodfa unigol.

RHAN 3Yr hawl i reoleiddio pysgodfa

Yr hawl i reoleiddio pysgodfa14

Rhoddir yr hawl i reoleiddio pysgodfa ar gyfer y rhywogaethau rhagnodedig i’r Grantî am gyfnod o 35 o flynyddoedd yn dechrau ar 2 Ebrill 2022 mewn perthynas ag ardal y bysgodfa a reoleiddir12.

Gofyniad trwyddedu yn y bysgodfa a reoleiddir15

Ni chaniateir i neb gymryd, neu dreillio neu bysgota am unrhyw un neu ragor o’r rhywogaethau rhagnodedig yn ardal y bysgodfa a reoleiddir oni bai y gwneir hynny o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan y Grantî.

Materion y mae rhaid i’r Grantî roi sylw iddynt wrth arfer ei swyddogaethau trwyddedu16

Wrth arfer ei swyddogaethau trwyddedu o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r Grantî roi sylw i’r effaith y gallai’r gweithgarwch trwyddedig ei chael ar—

a

y safleoedd morol Ewropeaidd; a

b

yr amgylchedd morol.

Ceisiadau am drwydded, a gwybodaeth am y broses o wneud cais a diwygio trwydded17

1

Rhaid i gais am drwydded gael ei wneud ym mha ffurf a modd bynnag a bennir gan y Grantî.

2

Rhaid i’r Grantî gyhoeddi ar ei wefan gopi o’r ffurflen gais am drwydded a gwybodaeth i ymgeiswyr ynghylch y broses o wneud cais.

3

Caiff trwyddedai wneud cais ysgrifenedig i’r Grantî i ddiwygio’r drwydded, a rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth honno sy’n rhesymol ofynnol gan y Grantî er mwyn iddo ystyried y cais.

Cynnwys trwydded18

Rhaid i drwydded—

a

datgan enw a chyfeiriad y trwyddedai;

b

nodi manylion adnabod unrhyw lestr a awdurdodwyd i weithredu yn ardal y bysgodfa a reoleiddir, sef naill ai—

i

enw a rhif trwydded llestr awdurdodedig; neu

ii

rhif adnabod bad dŵr ar gyfer llestr ddidrwydded;

c

pennu’r dulliau casglu a ganiateir;

d

pennu’r cyfnod o amser y mae trwydded yn ddilys amdano. Ni chaniateir i’r cyfnod hwnnw fod yn hwy nag 1 flwyddyn;

e

cynnwys amodau trwydded priodol; a

f

meddu ar rif adnabod unigryw.

Toll trwydded19

1

Rhaid i ymgeisydd am drwydded dalu toll o £150 i’r Grantî.

2

Caniateir i’r Grantî amrywio’r doll sy’n daladwy o dan baragraff (1) gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

Pŵer i wneud rheoliadau20

1

Caniateir i’r Grantî, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, wneud rheoliadau mewn perthynas â chymryd, neu dreillio neu bysgota am y rhywogaethau rhagnodedig yn ardal y bysgodfa a reoleiddir gyfan, neu ran ohoni.

2

Caniateir i’r Grantî ddiwygio neu ddirymu’r rheoliadau hynny, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

3

Rhaid i Reoliadau a wneir gan y Grantî o dan baragraff (1)—

a

cynnwys y darpariaethau hynny (os oes rhai) y mae’r Grantî yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben—

i

atal niwed i’r safleoedd morol Ewropeaidd; a

ii

diogelu’r amgylchedd morol;

b

datgan y dyddiad y daw’r rheoliadau hynny i rym;

c

nodi’r rhan o ardal y bysgodfa a reoleiddir y maent yn gymwys iddi drwy gyfeirio at—

i

ardal oddi mewn i linell a dynnir rhwng cyfesurynnau a restrir; a

ii

map dangosol a atodir i’r rheoliadau yn dangos y rhan honno;

d

cael eu cyhoeddi ar wefan y Grantî o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn iddynt ddod i rym, oni bai bod rhaid gwneud rheoliadau ar frys i ddiogelu—

i

y safleoedd morol Ewropeaidd; neu

ii

yr amgylchedd morol.

4

Bydd dangos copi o reoliadau a wnaed gan y Grantî, ac a ardystiwyd gan Weinidogion Cymru fel copi gwir o’r rheoliadau gwreiddiol a gymeradwywyd ganddynt hwy, yn dystiolaeth derfynol o fodolaeth y rheoliadau.

Cydsyniad Gweinidogion Cymru i reoliadau a wnaed o dan erthygl 20(1)21

1

Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru o dan erthygl 20(1) gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys—

a

copi o’r rheoliadau drafft; a

b

datganiad oddi wrth y Grantî o blaid y cais.

2

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.

3

Cyn rhoi cydsyniad i unrhyw reoliadau rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

a

effaith y rheoliadau ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a

b

effaith y rheoliadau ar yr amgylchedd morol.

4

Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.

RHAN 4Darpariaethau amrywiol

Dyletswydd i sicrhau bod map dangosol o ardal y Gorchymyn ar gael i’r cyhoedd22

O fewn 7 niwrnod i wneud dynodiad o dan erthygl 4, neu ganslo dynodiad o dan erthygl 6, rhaid i’r Grantî lunio map dangosol o ardal y Gorchymyn a sicrhau ei fod ar gael i’w weld ar ei wefan ac yn ei swyddfa gofrestredig. Rhaid i’r map hwnnw gynnwys y ffin rhwng ardal y bysgodfa unigol ac ardal y bysgodfa a reoleiddir.

Cyfrifon o’r incwm a’r gwariant, gwybodaeth arall ac arolygu23

1

Rhaid i’r Grantî, erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn, ddarparu i Weinidogion Cymru gyfrifon blynyddol o’i incwm a’i wariant o dan y Gorchymyn hwn ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.

2

Rhaid i’r Grantî ganiatáu i bersonau a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru i arolygu unrhyw gyfrifon neu unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’r Gorchymyn hwn sydd ym meddiant y Grantî, a rhaid i’r Grantî ddarparu i’r person hwnnw unrhyw wybodaeth bellach sy’n ymwneud â’r materion hynny sy’n rhesymol ofynnol gan y person hwnnw.

3

Rhaid i’r Grantî ganiatáu i bersonau a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru i arolygu ardal y Gorchymyn.

Datganiad daliadau24

1

Rhaid i’r Grantî gyflwyno datganiad daliadau i Weinidogion Cymru—

a

am y cyfnod rhwng 2 Ebrill 2022 ac 31 Mawrth 2023, ar 30 Ebrill 2023 neu cyn hynny; a

b

wedi hynny, am bob cyfnod o amser rhwng 1 Ebrill ac 31 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol, ar 30 Ebrill neu cyn hynny yn y flwyddyn y mae’r cyfnod hwnnw’n dod i ben.

2

Rhaid i ddatganiad daliadau gofnodi—

a

cyfanswm blynyddol pwysau byw grawn y rhywogaethau rhagnodedig a heuwyd yn ardal y bysgodfa a reoleiddir ac ardal y bysgodfa unigol;

b

lleoliad y ffynhonnell y daeth y grawn hwnnw ohoni;

c

cyfanswm blynyddol pwysau byw y rhywogaethau rhagnodedig a gymerwyd o ardal y bysgodfa unigol ac ardal y bysgodfa a reoleiddir; a

d

unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

Marcio terfynau ardal y Gorchymyn25

1

Rhaid i’r Grantî, yn y cyfryw fodd y gofynnir amdano o dro i dro gan Weinidogion Cymru, farcio terfynau —

a

ardal y Gorchymyn neu unrhyw ran ohoni; a

b

y ffin rhwng ardal y bysgodfa unigol ac ardal y bysgodfa a reoleiddir.

2

Cyn cais i farcio’r terfynau, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

a

Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon13; a

b

the Corporation of Trinity House of Deptford Strond14.

3

Rhaid i’r Grantî gadw’r marciau yn eu lle ac mewn cyflwr da.

Hawliau tirfeddianwyr26

Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn, neu mewn unrhyw gyfyngiad a osodir oddi tano, neu unrhyw reoliad a wneir oddi tano, yn lleihau effaith unrhyw hawliau, pwerau ac awdurdod—

a

person sy’n berchen ar ran o ardal y Gorchymyn; neu

b

person y mae person o’r fath wedi rhoi les iddo mewn cysylltiad â rhan o ardal y Gorchymyn.

Hawliau ymgymerwyr statudol27

Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn, neu mewn unrhyw gyfyngiad a osodir oddi tano, neu mewn unrhyw reoliad a wneir oddi tano, sy’n lleihau effaith gweithgarwch cyfreithlon ymgymerydd statudol sy’n arfer ei swyddogaethau statudol.

Dirymu28

Mae Gorchymyn Pysgodfa Wystrys a Chregyn Gleision Afon Menai 196215 a Gorchymyn Pysgodfa Wystrys a Chregyn Gleision Afon Menai (Diwygio) 196416 wedi eu dirymu.

Lesley GriffithsY Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru