Search Legislation

Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision a Wystrys Afon Menai (Dwyrain) 2022

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Materion rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision a Wystrys Afon Menai (Dwyrain) 2022 a daw i rym ar 2 Ebrill 2022.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “amgylchedd morol” yr ystyr a roddir i “marine environment” yn adran 5A(2) o’r Ddeddf;

ystyr “ardal y bysgodfa a reoleiddir” (“the regulated fishery area”) yw unrhyw ran o ardal y Gorchymyn nad yw am y tro wedi ei dynodi yn ardal y bysgodfa unigol;

ystyr “ardal y bysgodfa unigol” (“the several fishery area”) yw unrhyw ran o ardal y Gorchymyn a ddynodir yn ardal y bysgodfa unigol yn unol ag erthygl 4(1);

ystyr “ardal y Gorchymyn” (“the Order area”) yw’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn;

ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967;

ystyr “y Grantî” (“the Grantee”) yw Menai Strait Fishery Order Management Association (Rhif Cwmni: 07163689) sydd â’i swyddfa gofrestredig yn d/o Myti Mussels Limited, Porth Penrhyn, Bangor, Gwynedd, LL57 4HN;

ystyr “hysbysiad gwarchod safle” (“site protection notice”) yw hysbysiad a gyflwynir i’r Grantî o dan adran 5B o’r Ddeddf(1);

ystyr “les” (“lease”) yw les o’r hawl i bysgodfa unigol;

ystyr “llestr drwyddedig” (“licensed vessel”) yw llestr a awdurdodir i bysgota drwy drwydded a ddyroddir o dan adran 14 neu adran 16 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020(2);

ystyr “magwrfa” (“laying”) yw rhan o ardal y bysgodfa unigol y caniateir rhoi, neu y rhoddwyd, les mewn cysylltiad â hi;

ystyr “rhif adnabod bad dŵr” (“watercraft identification number”) yw rhif adnabod y darperir ar ei gyfer—

(a)

ym mharagraff 2.1 o Ran A o Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb fel y’i nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Badau Hamdden 2017(3);

(b)

ym mharagraff 2.1 o Ran A o Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb fel y’i nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Badau Hamdden 2004(4);

(c)

ym mharagraff 2.1 o Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb fel y’i nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Badau Hamdden 1996(5).

ystyr “y rhywogaethau rhagnodedig” (“the prescribed species”) yw pysgod cregyn o’r rhywogaethau mytilus edulis ac ostreidae;

ystyr “y safleoedd morol Ewropeaidd” (“the European marine sites”) yw—

(a)

ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Môr-wenoliaid Ynys Môn/Anglesey Terns (cod yr UE UK 9013061);

(b)

ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Bae Lerpwl/Liverpool Bay (cod yr UE UK 9020294);

(c)

ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Traeth Lafan/Lavan Sands Bae Conwy (cod yr UE UK 9013031);

(d)

ardal cadwraeth arbennig ddynodedig y Fenai a Bae Conwy/Menai Strait and Conwy Bay (cod yr UE UK 0030202);

(e)

ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Ynys Seiriol/Puffin Island (cod yr UE UK 9020285);

i’r graddau y maent yn cynnwys ardaloedd morol;

ystyr “tenant” (“tenant”) yw person y rhoddir les iddo o dan erthygl 8(2);

ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded a roddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;

ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw berson sydd, neu yr ystyrir ei fod, yn ymgymerydd statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o Ran 11 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(6).

RHAN 2Yr hawl i bysgodfa unigol

Yr hawl i bysgodfa unigol

3.  Rhoddir yr hawl i bysgodfa unigol am y rhywogaethau rhagnodedig i’r Grantî am gyfnod o 35 o flynyddoedd yn dechrau ar 2 Ebrill 2022 mewn perthynas ag ardal y bysgodfa unigol(7).

Dynodi ardal y bysgodfa unigol

4.—(1Caniateir i’r Grantî, o bryd i’w gilydd, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, ddynodi ardal y bysgodfa unigol.

(2Rhaid i’r dynodiad fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo—

(a)nodi pob ardal sydd i’w dynodi drwy gyfeirio at ardal oddi mewn i linell a dynnir rhwng cyfesurynnau a restrir;

(b)cadarnhau ei fod wedi ei wneud o dan yr erthygl hon;

(c)datgan y dyddiad y mae i gymryd effaith; a

(d)fod wedi ei lofnodi gan y Grantî.

(3Rhaid i’r Grantî gyhoeddi’r dynodiad ar ei wefan cyn pen 7 niwrnod ar ôl iddo gael effaith.

Cydsyniad Gweinidogion Cymru i ddynodiad a wneir o dan erthygl 4(1)

5.—(1Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru i ddynodiad o dan erthygl 4(1) gael ei wneud yn ysgrifenedig ac—

(a)nodi ardal y bysgodfa unigol arfaethedig yn unol ag erthygl 4(2)(a);

(b)cynnwys map dangosol o ardal y Gorchymyn gyda ffiniau arfaethedig rhwng ardal y bysgodfa a reoleiddir ac ardal y bysgodfa unigol wedi eu marcio arno;

(c)cynnwys datganiad gan y Grantî o blaid y cais; a

(d)pan fo’r Grantî wedi gwneud rheoliadau o dan erthygl 20, rhaid i’r cais gadarnhau bod y Grantî wedi ystyried pa un a oes angen diwygio’r rheoliadau hynny.

(2Ni chaniateir i’r Grantî geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru i ddynodiad o dan erthygl 4(1) sy’n cynnwys rhan o ardal y Gorchymyn y mae trwyddedau mewn grym mewn perthynas â hi.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.

(4Wrth ystyried pa un ai i roi cydsyniad i ddynodiad rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)effaith y dynodiad ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a

(b)effaith y dynodiad ar yr amgylchedd morol.

(5Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.

Canslo dynodiad a wnaed o dan erthygl 4(1)

6.—(1Caiff y Grantî, o bryd i’w gilydd, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, ganslo’r dynodiad a wnaed o dan erthygl 4(1).

(2Rhaid i hysbysiad canslo’r dynodiad gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo—

(a)cadarnhau ei fod wedi ei wneud o dan yr erthygl hon;

(b)cadarnhau’r dyddiad y mae i gymryd effaith; ac

(c)fod wedi ei lofnodi gan y Grantî.

(3Ni chaniateir i’r Grantî geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru i ganslo dynodiad sy’n cynnwys rhan o ardal y Gorchymyn y mae lesoedd mewn grym mewn perthynas â hi.

(4Rhaid i hysbysiad canslo’r dynodiad gael ei gyhoeddi gan y Grantî ar ei wefan cyn pen 7 niwrnod ar ôl iddo gael effaith.

Cydsyniad Gweinidogion Cymru i ganslo dynodiad a wnaed o dan erthygl 4(1)

7.—(1Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru i ganslo dynodiad a wnaed o dan erthygl 4(1) gael ei wneud yn ysgrifenedig ac—

(a)cynnwys datganiad oddi wrth y Grantî o blaid y cais;

(b)cadarnhau ei fod wedi ei wneud o dan yr erthygl hon;

(c)cadarnhau’r dyddiad y mae’n cael effaith; a

(d)fod wedi ei lofnodi gan y Grantî.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.

(3Wrth ystyried pa un ai i roi cydsyniad i gais i ganslo rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)effaith y canslo ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a

(b)effaith y canslo ar yr amgylchedd morol.

(4Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.

Cyfyngiadau ar yr hawl i bysgodfa unigol

8.—(1Ni chaniateir i’r Grantî arfer yr hawl i bysgodfa unigol.

(2Caiff y Grantî, o bryd i’w gilydd, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, roi les dros ran o ardal y bysgodfa unigol.

(3Ni chaniateir i’r Grantî, heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, lesio, aseinio neu mewn unrhyw ffordd arall drosglwyddo’r hawl i bysgodfa unigol i berson arall.

(4Mewn perthynas ag unrhyw les a roddir gan y Grantî—

(a)ni chaniateir iddi barhau’n hwy na chyfnod o 7 mlynedd, a lle y bo’n gymwys rhaid iddi ddod i ben ar y dyddiad y mae’r hawl i bysgodfa unigol yn dod i ben yn unol ag erthygl 3 neu cyn hynny;

(b)rhaid iddi wahardd aseinio’r les, neu roi is-les a’i haseinio, heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru;

(c)rhaid iddi ei gwneud yn ofynnol i’r tenant gadw marciau’r fagwrfa yn eu lle ac mewn cyflwr da;

(d)rhaid iddi ei gwneud yn ofynnol i’r tenant gadw’r fagwrfa er boddhad y Grantî;

(e)rhaid iddi ganiatáu i Weinidogion Cymru, neu unrhyw berson a awdurdodir ganddynt, gael mynediad i’r fagwrfa at ddiben—

(i)arolwg amgylcheddol;

(ii)monitro stoc;

(iii)monitro lledaeniad y rhywogaethau rhagnodedig;

(iv)atal clefydau; a

(v)casglu samplau.

(f)rhaid iddi ganiatáu i’r Grantî arolygu’r fagwrfa at ddiben monitro cydymffurfedd â’r les;

(g)rhaid iddi ei gwneud yn ofynnol i’r tenant gydymffurfio ag unrhyw hysbysiad gwarchod safle sy’n ymwneud â’i fagwrfa a gyflwynwyd i’r Grantî; ac

(h)rhaid iddi ddarparu pe bai’r tenant yn torri’r les y caniateir i’r Grantî—

(i)cymryd y camau angenrheidiol i unioni’r toriad; a

(ii)terfynu’r les.

Cydsyniad Gweinidogion Cymru i les

9.—(1Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru o dan erthygl 8(2) gael ei wneud yn ysgrifenedig a chynnwys—

(a)copi o’r les ddrafft; a

(b)datganiad oddi wrth y Grantî o blaid y cais.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.

(3Cyn rhoi cydsyniad i unrhyw les rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)effaith y les arfaethedig ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a

(b)effaith y les arfaethedig ar yr amgylchedd morol.

(4Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.

Dyletswydd Grantî i fonitro cydymffurfedd â les

10.  Rhaid i’r Grantî gymryd pob cam rhesymol i fonitro cydymffurfedd tenant ag unrhyw les a roddir.

Effaith les

11.  Mae les yn cael effaith fel pe bai’r hawl y mae’n ei rhoi i’r tenant wedi ei rhoi drwy orchymyn a wnaed o dan adran 1 o’r Ddeddf, ac fel pe bai unrhyw delerau ac amodau sydd wedi eu cynnwys yn y les wedi eu cynnwys mewn gorchymyn o’r fath.

Cyfleoedd les newydd

12.—(1Pe bai magwrfa yn dod yn wag, cyn rhoi les newydd, rhaid i’r Grantî—

(a)hysbysebu’r cyfle i wneud cais am les ar ei wefan ac mewn o leiaf un papur newydd lleol;

(b)cyhoeddi ar ei wefan y meini prawf y bydd y Grantî yn eu defnyddio i asesu’r ceisiadau a ddaw i law;

(c)caniatáu cyfnod nad yw’n llai na 28 o ddiwrnodau ar gyfer cyflwyno ceisiadau; a

(d)asesu pob cais yn unol â’r meini prawf cyhoeddedig ac yn unol â pharagraff (2).

(2Wrth asesu ceisiadau sy’n dod i law oddi wrth ddarpar denantiaid, rhaid i’r Grantî roi sylw i pa un a yw ymgeiswyr yn gallu dangos naill ai—

(a)tystiolaeth o gymhwysedd i weithredu magwrfa yn ddiogel; neu

(b)cynigion i gael hyfforddiant neu gymwysterau perthnasol i gaffael cymhwysedd i weithredu magwrfa yn ddiogel.

(3At ddibenion paragraff (1), mae magwrfa yn dod yn wag os yw tenant y fagwrfa honno—

(a)yn ildio ei les i’r Grantî;

(b)yn fforffedu ei les i’r Grantî; neu

(c)pan ddaw tymor un les i ben, yn peidio â gwneud cais am les newydd.

Incwm o ardal y bysgodfa unigol

13.  Rhaid i’r holl incwm y mae’r Grantî yn ei gael drwy rent sy’n daladwy o dan les gael ei gymhwyso at y dibenion a ganlyn yn y drefn o ran blaenoriaeth a restrir isod—

(a)talu treuliau cael y Gorchymyn hwn;

(b)marcio ffiniau ardal y bysgodfa unigol a’r magwrfeydd;

(c)dinistrio plâu sy’n niweidiol i’r rhywogaethau rhagnodedig; a

(d)rheoli, goruchwylio a gwella ardal y bysgodfa unigol.

RHAN 3Yr hawl i reoleiddio pysgodfa

Yr hawl i reoleiddio pysgodfa

14.  Rhoddir yr hawl i reoleiddio pysgodfa ar gyfer y rhywogaethau rhagnodedig i’r Grantî am gyfnod o 35 o flynyddoedd yn dechrau ar 2 Ebrill 2022 mewn perthynas ag ardal y bysgodfa a reoleiddir(8).

Gofyniad trwyddedu yn y bysgodfa a reoleiddir

15.  Ni chaniateir i neb gymryd, neu dreillio neu bysgota am unrhyw un neu ragor o’r rhywogaethau rhagnodedig yn ardal y bysgodfa a reoleiddir oni bai y gwneir hynny o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan y Grantî.

Materion y mae rhaid i’r Grantî roi sylw iddynt wrth arfer ei swyddogaethau trwyddedu

16.  Wrth arfer ei swyddogaethau trwyddedu o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r Grantî roi sylw i’r effaith y gallai’r gweithgarwch trwyddedig ei chael ar—

(a)y safleoedd morol Ewropeaidd; a

(b)yr amgylchedd morol.

Ceisiadau am drwydded, a gwybodaeth am y broses o wneud cais a diwygio trwydded

17.—(1Rhaid i gais am drwydded gael ei wneud ym mha ffurf a modd bynnag a bennir gan y Grantî.

(2Rhaid i’r Grantî gyhoeddi ar ei wefan gopi o’r ffurflen gais am drwydded a gwybodaeth i ymgeiswyr ynghylch y broses o wneud cais.

(3Caiff trwyddedai wneud cais ysgrifenedig i’r Grantî i ddiwygio’r drwydded, a rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth honno sy’n rhesymol ofynnol gan y Grantî er mwyn iddo ystyried y cais.

Cynnwys trwydded

18.  Rhaid i drwydded—

(a)datgan enw a chyfeiriad y trwyddedai;

(b)nodi manylion adnabod unrhyw lestr a awdurdodwyd i weithredu yn ardal y bysgodfa a reoleiddir, sef naill ai—

(i)enw a rhif trwydded llestr awdurdodedig; neu

(ii)rhif adnabod bad dŵr ar gyfer llestr ddidrwydded;

(c)pennu’r dulliau casglu a ganiateir;

(d)pennu’r cyfnod o amser y mae trwydded yn ddilys amdano. Ni chaniateir i’r cyfnod hwnnw fod yn hwy nag 1 flwyddyn;

(e)cynnwys amodau trwydded priodol; a

(f)meddu ar rif adnabod unigryw.

Toll trwydded

19.—(1Rhaid i ymgeisydd am drwydded dalu toll o £150 i’r Grantî.

(2Caniateir i’r Grantî amrywio’r doll sy’n daladwy o dan baragraff (1) gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

Pŵer i wneud rheoliadau

20.—(1Caniateir i’r Grantî, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, wneud rheoliadau mewn perthynas â chymryd, neu dreillio neu bysgota am y rhywogaethau rhagnodedig yn ardal y bysgodfa a reoleiddir gyfan, neu ran ohoni.

(2Caniateir i’r Grantî ddiwygio neu ddirymu’r rheoliadau hynny, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

(3Rhaid i Reoliadau a wneir gan y Grantî o dan baragraff (1)—

(a)cynnwys y darpariaethau hynny (os oes rhai) y mae’r Grantî yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben—

(i)atal niwed i’r safleoedd morol Ewropeaidd; a

(ii)diogelu’r amgylchedd morol;

(b)datgan y dyddiad y daw’r rheoliadau hynny i rym;

(c)nodi’r rhan o ardal y bysgodfa a reoleiddir y maent yn gymwys iddi drwy gyfeirio at—

(i)ardal oddi mewn i linell a dynnir rhwng cyfesurynnau a restrir; a

(ii)map dangosol a atodir i’r rheoliadau yn dangos y rhan honno;

(d)cael eu cyhoeddi ar wefan y Grantî o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn iddynt ddod i rym, oni bai bod rhaid gwneud rheoliadau ar frys i ddiogelu—

(i)y safleoedd morol Ewropeaidd; neu

(ii)yr amgylchedd morol.

(4Bydd dangos copi o reoliadau a wnaed gan y Grantî, ac a ardystiwyd gan Weinidogion Cymru fel copi gwir o’r rheoliadau gwreiddiol a gymeradwywyd ganddynt hwy, yn dystiolaeth derfynol o fodolaeth y rheoliadau.

Cydsyniad Gweinidogion Cymru i reoliadau a wnaed o dan erthygl 20(1)

21.—(1Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru o dan erthygl 20(1) gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys—

(a)copi o’r rheoliadau drafft; a

(b)datganiad oddi wrth y Grantî o blaid y cais.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.

(3Cyn rhoi cydsyniad i unrhyw reoliadau rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)effaith y rheoliadau ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a

(b)effaith y rheoliadau ar yr amgylchedd morol.

(4Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.

RHAN 4Darpariaethau amrywiol

Dyletswydd i sicrhau bod map dangosol o ardal y Gorchymyn ar gael i’r cyhoedd

22.  O fewn 7 niwrnod i wneud dynodiad o dan erthygl 4, neu ganslo dynodiad o dan erthygl 6, rhaid i’r Grantî lunio map dangosol o ardal y Gorchymyn a sicrhau ei fod ar gael i’w weld ar ei wefan ac yn ei swyddfa gofrestredig. Rhaid i’r map hwnnw gynnwys y ffin rhwng ardal y bysgodfa unigol ac ardal y bysgodfa a reoleiddir.

Cyfrifon o’r incwm a’r gwariant, gwybodaeth arall ac arolygu

23.—(1Rhaid i’r Grantî, erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn, ddarparu i Weinidogion Cymru gyfrifon blynyddol o’i incwm a’i wariant o dan y Gorchymyn hwn ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.

(2Rhaid i’r Grantî ganiatáu i bersonau a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru i arolygu unrhyw gyfrifon neu unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’r Gorchymyn hwn sydd ym meddiant y Grantî, a rhaid i’r Grantî ddarparu i’r person hwnnw unrhyw wybodaeth bellach sy’n ymwneud â’r materion hynny sy’n rhesymol ofynnol gan y person hwnnw.

(3Rhaid i’r Grantî ganiatáu i bersonau a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru i arolygu ardal y Gorchymyn.

Datganiad daliadau

24.—(1Rhaid i’r Grantî gyflwyno datganiad daliadau i Weinidogion Cymru—

(a)am y cyfnod rhwng 2 Ebrill 2022 ac 31 Mawrth 2023, ar 30 Ebrill 2023 neu cyn hynny; a

(b)wedi hynny, am bob cyfnod o amser rhwng 1 Ebrill ac 31 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol, ar 30 Ebrill neu cyn hynny yn y flwyddyn y mae’r cyfnod hwnnw’n dod i ben.

(2Rhaid i ddatganiad daliadau gofnodi—

(a)cyfanswm blynyddol pwysau byw grawn y rhywogaethau rhagnodedig a heuwyd yn ardal y bysgodfa a reoleiddir ac ardal y bysgodfa unigol;

(b)lleoliad y ffynhonnell y daeth y grawn hwnnw ohoni;

(c)cyfanswm blynyddol pwysau byw y rhywogaethau rhagnodedig a gymerwyd o ardal y bysgodfa unigol ac ardal y bysgodfa a reoleiddir; a

(d)unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

Marcio terfynau ardal y Gorchymyn

25.—(1Rhaid i’r Grantî, yn y cyfryw fodd y gofynnir amdano o dro i dro gan Weinidogion Cymru, farcio terfynau —

(a)ardal y Gorchymyn neu unrhyw ran ohoni; a

(b)y ffin rhwng ardal y bysgodfa unigol ac ardal y bysgodfa a reoleiddir.

(2Cyn cais i farcio’r terfynau, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon(9); a

(b)the Corporation of Trinity House of Deptford Strond(10).

(3Rhaid i’r Grantî gadw’r marciau yn eu lle ac mewn cyflwr da.

Hawliau tirfeddianwyr

26.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn, neu mewn unrhyw gyfyngiad a osodir oddi tano, neu unrhyw reoliad a wneir oddi tano, yn lleihau effaith unrhyw hawliau, pwerau ac awdurdod—

(a)person sy’n berchen ar ran o ardal y Gorchymyn; neu

(b)person y mae person o’r fath wedi rhoi les iddo mewn cysylltiad â rhan o ardal y Gorchymyn.

Hawliau ymgymerwyr statudol

27.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn, neu mewn unrhyw gyfyngiad a osodir oddi tano, neu mewn unrhyw reoliad a wneir oddi tano, sy’n lleihau effaith gweithgarwch cyfreithlon ymgymerydd statudol sy’n arfer ei swyddogaethau statudol.

Dirymu

28.  Mae Gorchymyn Pysgodfa Wystrys a Chregyn Gleision Afon Menai 1962(11) a Gorchymyn Pysgodfa Wystrys a Chregyn Gleision Afon Menai (Diwygio) 1964(12) wedi eu dirymu.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

3 Mawrth 2022

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources