Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) yn sefydlu fframwaith newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru. Mae adran 56 o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer asesu mewn perthynas â’r cwricwlwm perthnasol. Mae i “cwricwlwm perthnasol” yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 1 yn darparu ar gyfer cychwyn y Rheoliadau hyn fesul grwpiau blwyddyn. Bydd hyn yn adlewyrchu’r dull arfaethedig o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a fydd hefyd yn cael ei gyflwyno’n raddol dros gyfnod o amser fesul grwpiau blwyddyn.

Daw’r Cwricwlwm i Gymru a’r Rheoliadau hyn yn fandadol ar gyfer y grwpiau blwyddyn mewn ysgolion a lleoliadau eraill fel a ganlyn—

(a)ar 1 Medi 2022 ar gyfer—

(i)plant sy’n cael addysg feithrin,

(ii)disgyblion yn eu blwyddyn derbyn,

(iii)disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6,

(b)ar 1 Medi 2022 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgolion a lleoliadau eraill pan fo cwricwlwm wedi ei fabwysiadu neu wedi ei ddarparu fel arall yn unol â’r Ddeddf,

(c)ar 1 Medi 2023 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 nad ydynt o fewn paragraff (b),

(d)ar 1 Medi 2023 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 8,

(e)ar 1 Medi 2024 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9,

(f)ar 1 Medi 2025 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10, ac

(g)ar 1 Medi 2026 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11.

Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i’r lleoliadau a ganlyn—

(a)ysgolion a gynhelir,

(b)ysgolion meithrin a gynhelir,

(c)darparwyr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,

(d)unedau cyfeirio disgyblion, ac

(e)person sy’n trefnu neu’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (“asesiadau parhaus”).

Mae rheoliad 3(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r personau a ragnodir wneud trefniadau ar gyfer asesu disgyblion a phlant yn barhaus yn unol â’r gofynion a nodir ym mharagraffau (3) i (5) o reoliad 3 (“asesiadau parhaus”).

Mae rheoliad 3(6) yn darparu y caiff darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir fabwysiadu at ddibenion rheoliad 3(1) y trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9 yn hytrach na chynllunio ei asesiadau parhaus ei hun. Mae i’r term “darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” yr ystyr a roddir iddo gan adran 80(2) o’r Ddeddf. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ddarparwr o’r fath naill ai cynllunio ei drefniadau asesu ei hun neu fabwysiadu’r rheini a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9.

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r asesiadau parhaus gael eu cynnal ar adegau rhagnodedig. Fodd bynnag, mae rheoliad 3(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r asesiadau fod yn barhaus ac iddynt gael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn ysgol. Bydd ffurf y trefniadau asesu yn amrywio a byddant yn defnyddio ystod o ddulliau asesu.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu’r asesiadau parhaus. Mae gweithredu’r asesiadau parhaus yn golygu gweinyddu’r asesiadau hynny.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu a diwygio’r asesiadau parhaus.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r personau a ragnodir yn y rheoliad hwnnw wneud trefniadau ar gyfer asesu disgyblion a phlant yn unol â gofynion paragraffau (4) a (5) o reoliad 6 (“asesiadau dechreuol”).

Mae diben y trefniadau ar gyfer asesu dechreuol wedi ei nodi ym mharagraff (3) o reoliad 6.

Mae rheoliad 6(5) yn darparu bod rhaid cynnal yr asesiadau dechreuol o fewn 6 wythnos i’r digwyddiadau a nodir yn y paragraff hwnnw.

Mae rheoliad 6(6) yn darparu y caiff darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir fabwysiadu at ddibenion rheoliad 6(1) y trefniadau asesu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9 yn hytrach na chynllunio ei asesiadau ei hun ar gyfer asesu dechreuol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ddarparwr o’r fath naill ai cynllunio ei drefniadau asesu ei hun neu fabwysiadu’r rheini a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu’r asesiadau dechreuol. Mae gweithredu’r asesiadau dechreuol yn golygu gweinyddu’r asesiadau hynny.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu a diwygio’r trefniadau ar gyfer asesu dechreuol.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi trefniadau asesu y caiff darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir eu mabwysiadu at ddibenion rheoliad 3(1) a 6(1) (“trefniadau asesu rheoliad 9”). Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi’r set gyntaf o drefniadau asesu rheoliad 9 heb fod yn hwyrach na 1 Medi 2023.

Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu a diwygio’r trefniadau asesu rheoliad 9.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

Back to top

Options/Help