xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1330 (Cy. 269)

Amaethyddiaeth, Cymru

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2022

Gwnaed

14 Rhagfyr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

16 Rhagfyr 2022

Yn dod i rym

17 Ionawr 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

  • Erthyglau 47(2)(b) a 54(4)(a) a (b) o Reoliad (EU) 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(1);

  • Erthygl 53(1)(b) o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2).

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 144(7) o Reoliad (EU) 2017/625, cyn gwneud y Rheoliadau hyn mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff a’r personau hynny yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae’n debygol y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt yn sylweddol ac unrhyw gyrff neu bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

Enwi, rhychwant, cymhwyso a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2022.

(2Mae’r Rheoliadau hyn—

(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;

(b)yn gymwys o ran Cymru;

(c)yn dod i rym ar 17 Ionawr 2023.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 17.1.2023, gweler rhl. 1(2)(c)

Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793LL+C

2.—(1Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

F1(2. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Yn lle Atodiad 2a, rhodder yr Atodiad 2a a geir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.

Lynne Neagle

Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

14 Rhagfyr 2022

F3ATODLEN 1LL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4ATODLEN 2LL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Rheoliad 2(4)

ATODLEN 3LL+CYr Atodiad i’w roi yn lle Atodiad 2a i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 mewn grym ar 17.1.2023, gweler rhl. 1(2)(c)

ANNEX 2aLL+CFood and feed from certain third countries subject to suspension of entry into Great Britain referred to in Article 11a

Country of originFood and feed (intended use)CN code (1)TARIC sub-divisionHazard
(1)

Where only certain products under any CN code are required to be examined, the CN code is marked ‘ex’.

Nigeria (NG)

Food

consisting of

dried beans

(Food)

0713 35 00Pesticide residues
0713 39 00
0713 90 00

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio, o ran Cymru, Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol (“Rheoliad 2019/1793”).

Mae rheoliad 2 yn amnewid, gyda diwygiadau, Atodiadau 1, 2 a 2a i Reoliad 2019/1793. Amnewidir Atodiad 1 drwy ddefnyddio pwerau yn Erthyglau 47(2)(b) a 54(4)(a) o Reoliad (EU) 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion. Amnewidir Atodiadau 2 a 2a drwy ddefnyddio pwerau yn Erthygl 53 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd ac Erthygl 54(4)(b) o Reoliad (EU) 2017/625.

Mae Atodiad 1 yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid sy’n ddarostyngedig i gynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin neu mewn safleoedd rheoli ym Mhrydain Fawr. Mae’r newidiadau a wneir i Atodiad 1 fel a ganlyn.

Mae Atodiad 2, Tabl 1, yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid y mae amodau arbennig wedi eu rhagnodi ar eu cyfer sy’n rheoli eu mynediad i Brydain Fawr. Mae’r newidiadau a wneir i Atodiad 2, Tabl 1, fel a ganlyn.

Mae Atodiad 2, Tabl 2, yn cynnwys rhestr o fwyd cyfansawdd sy’n cynnwys unrhyw fwyd a restrir yn Nhabl 1 yn Atodiad 2 oherwydd y risg o halogi gan afflatocsinau mewn swm sy’n fwy nag 20% o naill ai cynnyrch unigol neu swm y cynhyrchion hynny. Y newid a wneir i Dabl 2 yn Atodiad 2 yw ychwanegu cofnod newydd ar gyfer cymysgeddau o sbeisys.

Mae Atodiad 2a yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid sydd wedi eu gwahardd rhag dod i Brydain Fawr. Mae’r cofnod yn Atodiad 2a ar gyfer bwyd sy’n cynnwys, neu fwyd sydd ar ffurf, dail betel ( Piper betle) o Fangladesh (ar gyfer Salmonela) wedi ei ddileu (ond gweler y cofnod newydd ar gyfer hyn yn Atodiad 2, Tabl 1).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

EUR 2017/625, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1481; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Mae’r term “the appropriate authority” wedi ei ddiffinio yn Erthygl 3(2A) o EUR 2017/625.

(2)

EUR 2002/178, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/641 a 2022/377. Diwygiwyd O.S. 2019/641 gan O.S. 2020/1504. Mae’r term “appropriate authority” wedi ei ddiffinio yn Erthygl 3(19) o EUR 2002/178.

(3)

EUR 2019/1793, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1631.