xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1330 (Cy. 269)

Amaethyddiaeth, Cymru

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2022

Gwnaed

14 Rhagfyr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

16 Rhagfyr 2022

Yn dod i rym

17 Ionawr 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

  • Erthyglau 47(2)(b) a 54(4)(a) a (b) o Reoliad (EU) 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(1);

  • Erthygl 53(1)(b) o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2).

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 144(7) o Reoliad (EU) 2017/625, cyn gwneud y Rheoliadau hyn mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff a’r personau hynny yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae’n debygol y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt yn sylweddol ac unrhyw gyrff neu bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

(1)

EUR 2017/625, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1481; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Mae’r term “the appropriate authority” wedi ei ddiffinio yn Erthygl 3(2A) o EUR 2017/625.

(2)

EUR 2002/178, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/641 a 2022/377. Diwygiwyd O.S. 2019/641 gan O.S. 2020/1504. Mae’r term “appropriate authority” wedi ei ddiffinio yn Erthygl 3(19) o EUR 2002/178.